Gwasanaethau Digidol » Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu (LLR) » Canllaw Dechrau Arni » Seicoleg a Chwnsela
Bwriad y canllaw hwn yw eich helpu i gychwyn arni wrth ddefnyddio adnoddau dysgu ac i wneud yn fawr o’r gwasanaethau sydd ar gael i gefnogi eich astudiaethau academaidd.
Cyn i chi ddechrau, gwyliwch y fideo byr hwn a fydd yn dangos i chi sut i gyrchu eich cyfrif llyfrgell ac adnoddau’r llyfrgell, a gwnewch yn siŵr eich bod wedi cwblhau’r rhestr wirio Dysgu Digidol i sicrhau eich bod yn barod i barhau. Wedyn sgroliwch i lawr i ddysgu rhagor.
Mae eich Rhestrau Adnoddau Ar-lein yn rhoi mynediad i’r holl eitemau darllen, edrych, gwylio neu wrando hanfodol a phellach y mae staff academaidd wedi’u dewis ar gyfer eich modylau. Gallwch gyrchu’r rhain drwy Moodle, trwy fewngofnodi i dudalen eich modwl a chlicio ar yr eicon Rhestrau Adnoddau Ar-lein ar y dde.
Fel arall, gallwch bori trwy Restrau Adnoddau Ar-lein yn ôl enw neu rif y modwl neu yn ôl pwnc.
Dewiswch o blith y llyfrau a’r cyfnodolion mwyaf poblogaidd yn eich maes pwnc neu defnyddiwch gatalog y llyfrgell i gynnal eich chwiliadau eich hun.
Mae catalog y llyfrgell yn debyg i Google Scholar, ond heb y waliau talu!
Dysgwch pa lyfrau sy’n boblogaidd yn eich maes pwnc: cliciwch ar ddelwedd clawr i ddod o hyd i’r teitl yng nghatalog y llyfrgell.
Porwch drwy lyfrau print ac e-lyfrau newydd sydd wedi’u harchebu’n ddiweddar gan y llyfrgell yn eich maes pwnc. Cliciwch ar glawr llyfr i ddod o hyd iddo yng nghatalog y llyfrgell ac i roi’r copi print ar gadw os nad yw ar gael eto.
Darganfyddwch gyfnodolion gyda BrowZine

Yn chwilio am gyfnodolion academaidd ar gyfer eich ymchwil neu aseiniadau? Mae hyn yn hawdd gyda BrowZine! Gyda BrowZine, gallwch:
Mae BrowZine yn berffaith ar gyfer archwilio syniadau newydd, cael y wybodaeth ddiweddaraf, a dyfnhau eich dealltwriaeth o bynciau. Mae’n gweithio’n wych ar ddyfeisiau symudol hefyd!
Rydym yn darparu ystod eang o adnoddau i’ch cefnogi drwy gydol eich astudiaethau wrth ichi ddatblygu eich sgiliau academaidd a’ch gwybodaeth yn ogystal â’ch sgiliau digidol. Yn ogystal, mae gan bob myfyriwr Lyfrgellydd a Chynghorydd Sgiliau Digidol wedi’u neilltuo i’w pwnc astudio neu faes gwaith. Os oes angen help, cyngor neu ychydig o anogaeth gyfeillgar arnoch, gallwch drefnu apwyntiad gydag aelod o’n tîm ar amser sy’n gyfleus i chi.
Dyma’r sgiliau craidd sy’n eich helpu i ganfod, defnyddio a chyrchu’r deunydd priodol ar gyfer eich astudiaethau. Maen nhw hefyd yn helpu i ddatblygu eich meddwl beirniadol, eich sgiliau trefnu a’ch sgiliau cyfeirnodi. Rydym wedi datblygu cyfres o unedau hunangyfeiriedig yn rhan o’n rhaglen Sgiliau Gwybodaeth, i helpu i’ch cefnogi chi i ddatblygu’r sgiliau hyn ar eich cyflymder eich hun.