chat loading...

Y Gyfraith a Chyfiawnder Troseddol

Canllaw Dechrau Arni

Cychwyn Arni

Bwriad y canllaw hwn yw eich helpu i gychwyn arni wrth ddefnyddio adnoddau dysgu ac i wneud yn fawr o’r gwasanaethau sydd ar gael i gefnogi eich astudiaethau academaidd.

Cyn i chi ddechrau, gwyliwch y fideo byr hwn a fydd yn dangos i chi sut i gyrchu eich cyfrif llyfrgell ac adnoddau’r llyfrgell, a gwnewch yn siŵr eich bod wedi cwblhau’r rhestr wirio Dysgu Digidol i sicrhau eich bod yn barod i barhau. Wedyn sgroliwch i lawr i ddysgu rhagor.

Dod o hyd i ddarllen hanfodol eich modwl

Mae eich Rhestrau Adnoddau Ar-lein yn rhoi mynediad i’r holl eitemau darllen, edrych, gwylio neu wrando hanfodol a phellach y mae staff academaidd wedi’u dewis ar gyfer eich modylau. Gallwch gyrchu’r rhain drwy Moodle, trwy fewngofnodi i dudalen eich modwl a chlicio ar yr eicon Rhestrau Adnoddau Ar-lein ar y dde.

Fel arall, gallwch bori trwy Restrau Adnoddau Ar-lein yn ôl enw neu rif y modwl neu yn ôl pwnc.

Os ydych yn edrych ar y rhestr fel defnyddiwr Westai, bydd angen i chi fewngofnodi i weld argaeledd eitemau a chadw eitemau. Er mwyn gwneud hyn, cliciwch ar yr eicon Defnyddiwr Westai a dewiswch mewngofnodi.  Defnyddiwch eich cyfeiriad e-bost a chyfrinair PCYDDS i fewngofnodi.

Bydd hefyd angen i chi ddod o hyd i’ch llawlyfr Cyfeirnodi ac ymgyfarwyddo ag ef. Mae’r Brifysgol yn cefnogi pedwar math o gyfeirnodi: Harvard, MHRA, IEEE ac APA.  Os nad ydych yn siŵr pa un y dylech chi fod yn ei ddefnyddio, gwiriwch gyda’ch darlithydd.

Archwilio adnoddau’r llyfrgell

Dewiswch o blith y llyfrau a’r cyfnodolion mwyaf poblogaidd yn eich maes pwnc neu defnyddiwch gatalog y llyfrgell i gynnal eich chwiliadau eich hun.

Mae catalog y llyfrgell yn debyg i Google Scholar, ond heb y waliau talu!












Advanced Search

Dysgwch pa lyfrau sy’n boblogaidd yn eich maes pwnc: cliciwch ar ddelwedd clawr i ddod o hyd i’r teitl yng nghatalog y llyfrgell.


Porwch drwy lyfrau print ac e-lyfrau newydd sydd wedi’u harchebu’n ddiweddar gan y llyfrgell yn eich maes pwnc.  Cliciwch ar glawr llyfr i ddod o hyd iddo yng nghatalog y llyfrgell ac i roi’r copi print ar gadw os nad yw ar gael eto.


Defnyddiwch Browzine i archwilio a chanfod cyfnodolion o fewn ein casgliad o e-gyfnodolion.

Datblygu Eich Sgiliau

Rydym yn darparu ystod eang o adnoddau i’ch cefnogi drwy gydol eich astudiaethau wrth ichi ddatblygu eich sgiliau academaidd a’ch gwybodaeth yn ogystal â’ch sgiliau digidol. Yn ogystal, mae gan bob myfyriwr Lyfrgellydd a Chynghorydd Sgiliau Digidol wedi’u neilltuo i’w pwnc astudio neu faes gwaith. Os oes angen help, cyngor neu ychydig o anogaeth gyfeillgar arnoch, gallwch drefnu apwyntiad gydag aelod o’n tîm ar amser sy’n gyfleus i chi.

Person ifanc yn dewis cylchgrawn o silff mewn llyfrgell modern gyda sawl silff o lyfrau a chyfryngau eraill yn y cefndir

Sgiliau Academaidd a Gwybodaeth

Dyma’r sgiliau craidd sy’n eich helpu i ganfod, defnyddio a chyrchu’r deunydd priodol ar gyfer eich astudiaethau. Maen nhw hefyd yn helpu i ddatblygu eich meddwl beirniadol, eich sgiliau trefnu a’ch sgiliau cyfeirnodi. Rydym wedi datblygu cyfres o unedau hunangyfeiriedig yn rhan o’n rhaglen Sgiliau Gwybodaeth, i helpu i’ch cefnogi chi i ddatblygu’r sgiliau hyn ar eich cyflymder eich hun.

Person ifanc yn dewis cylchgrawn o silff mewn llyfrgell modern gyda sawl silff o lyfrau a chyfryngau eraill yn y cefndir

Sgiliau Digidol

Gobeithio y byddwch eisoes wedi cwblhau’r adnodd darganfod Sgiliau Digidol i fyfyrwyr newydd a chael eich adroddiad sgiliau digidol personol. Pan fydd hwn gennych chi, defnyddiwch yr adnodd canfod adnoddau yn y Ganolfan Digidol i’ch cefnogi i uwchsgilio trwy ddod o hyd i adnodd hyfforddi neu ddilyn ein hunedau hunangyfeiriedig ar Moodle i ennill bathodynnau digidol