Gwasanaethau Digidol » Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu (LLR) » Casgliadau Arbennig ac Archifau » Archwilio ein Casgliadau » Casgliad Traethodynnau’r Teulu Bowdler
Mae traethodyn wedi’i ddiffinio’n ‘ddarn o bropaganda crefyddol neu wleidyddol; neu draethawd byr ar un pwnc.’ Yn rhad i’w hargraffu a’u prynu, fe’u hysgrifennwyd yn bennaf gan bobl oedd â chyllell i’w hogi, syniadau newydd i’w cyhoeddi neu ddiwygiadau i’w hyrwyddo.
Mae gan PCYDDS gasgliad o dros 9000 o ddarnau o’r 17eg a’r 18fed ganrif, a gasglwyd gan dair cenhedlaeth olynol o’r teulu Bowdler. Masnachwr yn y ddinas oedd y casglwr cynharaf, sef Thomas Bowdler I (gweithredol rhwng 1638 a 1700). Prynodd bamffledi yn ystod Rhyfeloedd Cartref Lloegr, y Werin-lywodraeth a dechrau’r Adferiad. Mae ei lofnod ar lawer o’i draethodynnau, gyda’r cyngor ‘Consider the end of all things.’
Y prif gasglwr oedd nai Bowdler, Thomas Bowdler II (1661-1738). Er i Thomas Bowdler II gael ei eni yn Iwerddon, cafodd ei fagu yng ngofal ei ewythr. Pan oedd yn bymtheg oed, daeth yn glerc yn y Morlys; dywedir iddo ddod yn ddirprwy i Samuel Pepys yn y pen draw. Fel Pepys, ymddiswyddodd o’i swydd yn 1689 ar ôl y Chwyldro Gogoneddus ac ymddiswyddiad Iago II. Am weddill ei oes, roedd yn Jacobydd i’r carn ac yn aelod lleyg amlwg o’r Cymundeb Annhyngol, (y rhai a oedd wedi gwrthod tyngu llw teyrngarwch i’r brenin a’r frenhines newydd eu coroni, William a Mary).
Ymddengys fod Bowdler wedi caffael rhai casgliadau parod, er enghraifft gan ei gyfaill agos George Hickes cyn-Ddeon Caerwrangon, gan John Gauden cyn-Esgob Caerwrangon, a chan Francis Turner, Esgob Ely. Fodd bynnag, rhwng 1709 a 1718, ymddengys, i Bowdler geisio prynu pob pamffled a gyhoeddwyd. Creodd hefyd gatalog manwl o’i gasgliad, gan nodi dyddiadau caffael yn ogystal ag awduron llawer o weithiau dienw. Yn anaml y cyhoeddwyd y math hwn o wybodaeth gan fod yr Annhyngwyr yn ymdrechu i osgoi erlyniad.
Etifeddodd Thomas Bowdler III (c. 1708 i 1785) o Ashley, ger Caerfaddon, gasgliad ei dad. Roedd ei ddiddordebau yn llai obsesiynol; mae ei ychwanegiadau yn fwy cydnaws â gŵr bonheddig diwylliedig yn y cyfnod. Ni ychwanegwyd dim at y casgliad ar ôl 1785.
Mae’n debyg yr etifeddwyd y casgliad gan fab ieuengaf Thomas Bowdler III, Dr Thomas Bowdler (1754-1825). Mae Dr Thomas Bowdler yn adnabyddus am gyhoeddi’r gyfrol o weithiau sensoredig The Family Shakespeare, ynghyd â’i chwaer Henrietta Maria. Fodd bynnag, bu Dr Bowdler yn byw am bymtheng mlynedd yn y Rhyddings, ger Abertawe (yn esgobaeth Tyddewi ar y pryd), ac roedd yn rhan o’r un cylch duwiol â’r Esgob Thomas Burgess. Cyfrannodd Bowdler bum gini at gronfa adeiladu Coleg Dewi Sant yn 1811. Mae’n ansicr sut y cyrhaeddodd y traethodynnau Lambed; mae’n debygol iddynt gael eu rhoi yn rhan o gasgliadau’r Sefydlu cyn agor y coleg yn 1827.
Er gwaethaf tuedd grefyddol Thomas Bowdler II, mae cwmpas y casgliad teuluol mor eang â’r gwaith o bamffledu yntau. Er mai Torïaid Uchel Eglwysig oedd y teulu Bowdler, casglasant hefyd weithiau gan Gatholigion, Eglwyswyr Isel ac anghydffurfwyr. Mae cynnwys eu traethodynnau yn amrywio o’r aruchel i ddychan gwleidyddol, yr enllibus a’r anweddus.
Fel y gellid disgwyl, llenyddiaeth grefyddol yw’r adran fwyaf; a phregethau yw’r categori unigol mwyaf o ran deunydd. Mae’r rhain yn cynnwys pregethau a bregethwyd ar ddyddiad cofio dienyddio Siarl I a Chynllwyn y Powdwr Gwn; mae’n debyg bod i’r anerchiadau thema wleidyddol bendant.
Mae’r casgliad yn arbennig o gyfoethog mewn llenyddiaeth annhyngol, sy’n cynnwys 539 o ddarnau a ysgrifennwyd naill ai gan neu yn erbyn yr Annhyngwyr. Mae mwy na hanner y darnau hyn wedi’u nodi yn rhai a ysgrifennwyd gan Annhyngwyr hysbys. Mae wyth deg wyth yn parhau’n anhysbys. Roedd argraffwyr a chyhoeddwyr yn bwysig iawn i’r Annhyngwyr. Gan eu bod wedi eu gwahardd rhag pregethu ym mhulpudau cenedlaethol a’u cynulleidfaoedd yn fach, cawsant eu gorfodi i ddefnyddio’r wasg i ledaenu eu syniadau. (Mae ein casgliad yn cynnwys cymaint â phump deg pump o draethodynnau a ysgrifennwyd gan Charles Leslie, a dau ar hugain yr un gan Jeremy Collier a Thomas Brett). John Morphew, James Bettenham, George Strahan a Henry Clements oedd y prif argraffwyr. Roeddent hefyd mewn perygl o’u herlyn a’u cosbi am ddosbarthu deunydd bradwrus. Weithiau byddent yn cynnig gwaith, fel arfer gosod teip a phrawf ddarllen, i glerigwyr annhyngol a oedd heb unrhyw gynhaliaeth arall.
Roedd swigen Môr y De yn gyfres o hapfuddsoddiadau ariannol yn stoc Cwmni Môr y De. Troswyd dyled y llywodraeth yn gyfranddaliadau yn y cwmni; lansiodd y llywodraeth a’r cwmni ymgyrch farchnata egnïol i berswadio buddsoddwyr i brynu’r cyfranddaliadau hyn. Gwerthwyd mwy na dwywaith swm y stoc a oedd ar gael. Yn 1720, cododd gwerth cyfranddaliad i £1050 ac wedyn plymio i £124. Collodd llawer o bobl eu cyfoeth dros nos; hon oedd y chwalfa farchnad stoc ryngwladol gyntaf.
Mae gan PCYDDS ddetholiad o bamffledi cysylltiedig. Ysgrifennodd awdur A true account of the design and benefits of the South-Sea trade (1711) ‘Apart this provision for the interest at six per cent of all the national debts, the Parliament easily gave into a project … for incorporating the proprietors of the said debts to carry on a trade to the South-Seas: whereby a further advantage will, in all probability, accrue to the said proprietors, and, through their means, to the whole nation.’ Ond rhybuddiodd awdur An examination and explanation of the South-Sea Company’s scheme, for taking in the publick debts: ‘Upon this supposition, the plain fact and naked truth is, that the buyers, or those who shall become the proprietors of the engrafted stock, will be the persons whose estates are to be diminish’d of so money as is to be divided between the Government and the present directors, and other proprietors of the South Sea Company.’ Roedd The stock-jobbers: or, the humours of exchange-alley gan William Rufus Chetwood yn un o nifer o ddramâu a oedd yn trafod y farchnad ariannol a’i harferion hapfuddsoddi, a ysgrifennwyd neu a berfformiwyd yn 1720.
Ynddi, mae’r Syr John Wealthy yn cyhoeddi ei fod wedi prynu ‘about 10 shares, and sold 15; four to Mr Noodle, the good-humour’d gentleman from t’other end of the town, that owns the fine gilt chariot. Three to Captain Sanguine, newly return’d from the East-Indies, he’s full of money, and bleeds like a young heir. Item, three more to a whimsical musical sort of a gentleman, just come from Italy …’ Ymhlith y traethodynnau eraill yng nghasgliadau PCYDDS mae Francis, Lord Bacon: or, the case of private and national corruption, and bribery, impartial consider’d (ail argraffiad, 1721); A letter to a friend concerning the proposals for the payment of the nation’s debts (1720) ac A modest apology, occasion’d by the late unhappy turn of affairs, with relation to publick credit (1721). (1721).
Yr 17eg ganrif oedd oes aur astroleg Prydain ac mae cryn dipyn o ddeunydd astrolegol yng nghasgliad Bowdler. Ar wahân i’r Beibl, almanac yr astrolegydd oedd y math mwyaf poblogaidd o lenyddiaeth o ddigon. Roedd yr almanaciau hyn yn gyhoeddiadau blynyddol rhad ac am ddim a oedd yn cynnwys ‘tables of the astronomical and astrological events of the coming year: the movements and conjunctions of the planets and stars in the zodiac and details of eclipse.’ Mae’r rhan fwyaf hefyd yn lledaenu ystod o ddeunydd anastrolegol arall i gynulleidfa genedlaethol.
Mae’r almanaciau cynharaf yn ein casgliadau yn dyddio o Ryfeloedd Cartref Lloegr. Roedd gan Bowdler gopïau o Mercurius cœlicus John Booker o 1644 a Merlinus Anglicus Junior gan William Lilly, hefyd o 1644. Mae gennym ni hefyd gopi o Monarchy or no monarchy in England. Grebner his prophecy concerning Charles son of Charles, his greatnesse, victories, conquests (1651) gan Lilly. Monarchy or no monarchy in England. Grebner his prophecy concerning Charles son of Charles, his greatnesse, victories, conquests (1651). Mae’r gyfrol yn gorffen gyda chyfres o dorluniau pren proffwydol; mae’r rhain yn cynnwys darluniau o gyrff wedi’u lapio mewn gorchuddion ac o ddinas mewn fflamau. Dywedir bod Lilly wedi rhagweld y Pla Mawr a Thân Mawr Llundain.
Yn Mr John Partridge’s new prophesie of this present year 1684, rhagwelodd y radical gwleidyddol Partridge, ’we have reason to fear this year may prove more calamitous then [sic] most we have yet seen, there being scarce any affliction incident to men which we are not more or less threatened with.’ Ar ôl dianc i’r Iseldiroedd, rhagwelodd Partridge farwolaeth Iago II yn Mene tekel: being an astrological judgment on the great and wonderful year 1688. Mae gan PCYDDS gyfieithiad Ffrangeg.
Ond yn 1708, chwaraeodd Jonathan Swift jôc gymhleth ar Ddydd Ffŵl Ebrill, gan ragddweud marwolaeth Partridge mewn pamffled Predictions for the year 1708. Nesaf cyhoeddodd Swift gyhoeddiad arall, The accomplishment of the first of Mr Bickerstaff’s predictions, being an account of the death of Mr Partridge the almanack-maker upon the 29th instant. Er bod Partridge yn mynnu ei fod yn dal yn fyw, dadleuodd Swift fod yn rhaid ei fod wedi marw oherwydd ‘no man alive ever writ such damn’d stuff as this’.
Mae traethodynnau ar wyddoniaeth a meddygaeth yn frith trwy gasgliad Bowdler. Er enghraifft, roedd ganddynt ddau bamffled gwyddonol gan Robert Boyle, y dyn, yn anad neb arall, sydd wedi dyfeisio’r dull arbrofol modern. Y rhain oedd: Salt-water sweetned: or, a true account of the great benefits of this new invention both by sea and by land (1683) ac Experiments and considerations about the porosity of bodies, in two essays (1684). Roedd y Bowdler hefyd yn berchen ar An attempt to prove the motion of the earth (1674), a ysgrifennwyd gan protégé Boyle, Robert Hooke. Ynddo, tybiodd Hooke, ‘That all cœlestial bodies whatever have an attraction or gravitating power towards their own centres, whereby they attract not only their own parts, and keep them from flying from them, as we may observe the earth to do, but that they do also attract all the other cœlestial bodies that are within the sphere of their activity.’
Roedd gan y teulu Bowdler hefyd gopi o A course of mechanical and experimental philosophy, sef llyfryn ar gyfer cwrs o ddarlithoedd a roddwyd gan John Theophilus Desaguliers. Mae’r testun yn rhestru dim llai na 150 o arbrofion i’w gwneud. Roedd Desagulier wedi dilyn yn ôl troed Hooke yn guradur arbrofion i’r Gymdeithas Frenhinol. Nod ei ddarlithoedd poblogaidd oedd dangos damcaniaethau Isaac Newton i gynulleidfa anacademaidd. Sefydlodd Desaguliers ei hun yn un o brif ddarlithwyr arbrofol cyhoeddus Llundain.
Ar gyfer meddygaeth, roedd y teulu Bowdler yn berchen ar gopi o A short discourse about pestilential contagion, and the methods to be used to prevent it gan Richard Mead, (1720). Wrth ymateb i achosion o’r pla ym Marseille, dadleuodd Mead fod y pla yn heintus. Yn hytrach na chyhoeddi cwarantîn ar aelwydydd cyfan, argymhellodd wahanu’r cleifion a’r rhai iach. Cyhoeddwyd saith argraffiad o fewn blwyddyn; dilynodd wythfed argraffiad estynedig yn 1822.
Daniel Defoe (1660?-1731) yw’r awdur a welir amlaf yng nghasgliad teulu Bowdler. Er y cofir amdano, yn bennaf, yn nofelydd, cynhyrchodd dros 300 o weithiau, sylwebaeth wleidyddol gyfoes yn bennaf mewn traethodynnau a chyfnodolion. Roedd y rhain yn cynnwys chwe deg pump o weithiau unigol ar faterion a oedd yn effeithio ar yr Anghydffurfwyr, tua phump ar fygythiad parhaus y Jacobyddion, a phump ar hugain ar yr Uno â’r Alban. Llofnododd Defoe ychydig iawn o’i bamffledi; ei hoff ffugenw oedd ‘Author of the true-born Englishman.’ Dychan ar ffurf penillion oedd hwn, yn hyrwyddo achos brenin Prydain a anwyd yn yr Iseldiroedd, William III. Disgrifiodd Defoe y Prydeinwyr yn ‘mongrel half-bred race,’ gan ddweud bod ‘a true-born Englishman’ yn wrthgyferbyniad. O ganlyniad i’r gerdd, daeth Defoe yn enwog, ac aeth trwy ddau argraffiad ar hugain yn ystod ei oes.
Roedd pamffledi eraill gan Defoe yng nghasgliad Bowdler yn cynnwys: Armageddon: or the necessity of carrying on the war … (1711); The ballance of Europe (1711); Advice to the people of Great Britain (1714), and Every-body’s business, is no-body’s business (1725).
Defoe hefyd oedd sylfaenydd y Review, sef cyfnodolyn a ymddangosodd dair gwaith yr wythnos rhwng Chwefror 1704 a Mehefin 1713. Soniai am bynciau gwleidyddol, economaidd a milwrol cyfredol, a gwaith Defoe yntau ydoedd bron yn gyfan gwbl. Roedd set teulu Bowdler o’r Review yn cynnwys rhif 81, a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 1713 ac yn ymdrin â Chytundeb Utrecht a’r Cytundeb Masnach. Nid oes copi arall o’r rhifyn hwn wedi’i gael mewn unrhyw lyfrgell arall.