Gwasanaethau Digidol » Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu (LLR) » Casgliadau Arbennig ac Archifau » Archwilio ein Casgliadau » Casgliad yr Esgob Thomas Burgess
Rhoddodd yr Esgob Thomas Burgess (1756-1837), sylfaenydd Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, ei lyfrgell bersonol iddo, a oedd yn cynnwys tua 9 000 o gyfrolau.
Daeth Burgess o Odiham, Swydd Hampshire, lle’r oedd ei dad yn groser. Addysgwyd ef yng Ngholeg Caerwynt ac wedyn yng Ngholeg Corpus Christi, Rhydychen. Roedd bywyd coleg at ei ddant; daeth yn diwtor ac wedyn yn gymrawd o’i goleg. Ordeiniwyd ef yn ddiacon ac offeiriad yn 1784. Wedyn daeth yn gaplan arholi a domestig i Shute Barrington, (esgob Caersallog rhwng 1782 a 1791 ac esgob Durham rhwng 1791 a 1826).
Trawsnewidiwyd bywyd Burgess ym mis Mehefin 1803. Penododd y prif weinidog Henry Addington, (un o’i gyfoedion yn yr ysgol a’r brifysgol), ef yn esgob Tyddewi. Roedd ei esgobaeth newydd yn un enfawr, yn cynnwys bron hanner Cymru; roedd hefyd yn dlawd yn ariannol. Talwyd y rhan fwyaf o’i chlerigwyr yn wael, gyda safonau addysgol isel. Roedd Burgess yn benderfynol y dylid gwella’r hyfforddiant ar gyfer ymgeiswyr i’r offeiriadaeth.
Gan gredu y dylai’r rhan fwyaf o glerigwyr y dyfodol fynychu coleg preswyl yn yr esgobaeth, penderfynodd sefydlu coleg diwinyddol yn Llanddewi Brefi yng Ngheredigion. Lluniwyd cynlluniau a rheoliadau drafft mor gynnar â 1809. Ond hyd yn oed erbyn 1820, doedd y gwaith adeiladu heb ddechrau o hyd, er bod £13 000 wedi’i gasglu ar gyfer y prosiect. Y gwanwyn hwnnw, cyfarfu Burgess â John Scandrett Harford, Arglwydd Maenor Llanbedr Pont Steffan, mewn parti cinio a gynhaliwyd gan esgob Caerloyw. Cynigiodd Harford safle tair erw Cae’r Castell i Burgess, yn lleoliad posibl i’r coleg. Wedyn penderfynwyd dechrau adeiladu cyn gynted â phosibl. Gosodwyd carreg sylfaen Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, ar 12 Awst 1822; disgrifiodd Burgess ef yn ddiwrnod hapusaf ei fywyd. Agorodd y coleg ar 1 Mawrth 1827.
Roedd Burgess wedi dweud yn aml y byddai’n fodlon aros yn Nhyddewi am weddill ei oes. Fodd bynnag, yn 1825, yn chwe deg wyth oed, daeth yn esgob Caersallog, (a thrwy hynny symud i esgobaeth lai a chyfoethocach). Bu farw yn Southampton ar 19 Chwefror 1837; fe’i claddwyd yng nghroesfa côr deheuol eglwys gadeiriol Caersallog.
Roedd Burgess yn ysgolhaig dan gamp, a chasgliad esgob ysgolheigaidd a welir, a’r cyfrolau wedi’u casglu dros ei oes. Ei brif ddiddordeb, yn fyfyriwr ac wedyn yn gymrawd yn Rhydychen, oedd astudiaethau clasurol. Ar ôl ei ordeinio, ehangodd ei frwdfrydedd i gynnwys diwinyddiaeth a’r Hebraeg. Llyfrgell weithiol sydd ganddo i raddau helaeth, a llyfrau wedi’u prynu i’w defnyddio yn hytrach nag i’w harddangos. Mae gan lawer o’r llyfrau rwymiad papur cyhoeddwr dros dro.
Roedd Burgess yn glasurwr rhagorol, a gadwodd ei ddiddordeb mewn llenyddiaeth Roeg a Lladin drwy gydol ei oes. Er enghraifft, roedd yn berchen ar ddau incunable a argraffwyd yn Fenis, Rhetorica gan Aristotle, a gyhoeddwyd gan Philipo de Petri ym 1481, ac Introductivae grammatices libri quatuor gan Theodōros Gazēs, (a argraffwyd gan Aldo Manuzio ym 1495).
Yn Rhydychen, cafodd Burgess ei fentora gan yr ysgolhaig clasurol nodedig (a golygydd Chaucer), Thomas Tyrwhitt. Ar ôl marwolaeth Tyrwhitt yn 1786, llywiodd Burgess argraffiad ei ffrind o De Poetica, (a gyhoeddwyd ym 1794) Aristoteles drwy’r wasg. Gadawodd Tyrwhitt hefyd argraffiad Aldus o De Poetica yn 1536 i Burgess. Ysgrifennodd Burgess ar y wynebddalen, ‘Thomas Burgess Dec. 7 1797. This book belonging to my late dear friend Thomas Tyrwhitt Esq. was given me by his brother the Revd. Rob. Tyrwhitt.’ Mae gan y gyfrol fach rwymiad Eidalaidd cyfoes; mae’r byrddau wedi’u gorchuddio â phapur coch boglynnog â motiffau blodau a fasys. Mae’r llyfr hefyd wedi’i lofnodi gan berchennog cynharach, W. Carte. Mae sawl person wedi anodi’r testunau Groeg a Lladin.
Roedd Burgess yn berchen ar sawl copi diddorol arall o weithiau gan Aristoteles. Roedd y rhain yn cynnwys dwy gyfrol ffolio o’r argraffiad a olygwyd gan yr ysgolhaig o’r Swistir Isaac Casaubon ac a gyhoeddwyd yn 1605. Mae ‘Westminster Abbey’ wedi’i stampio ar y ddau lyfr. Roedd gan Burgess hefyd ddeg o’r un ar ddeg cyfrol bedwarplyg o argraffiad cyflawn Frankfurt rhwng 1577 i 1587, a olygwyd gan Friedrich Sylburg. Mae’r argraffiad hwn yn nodedig am ei flaenlythrennau addurniadol cain a’i ddarluniau achlysurol.
Roedd gan Burgess ddigon o ddiddordeb yn yr astudiaeth o Homer i gynhyrchu ei argraffiad beirniadol ei hun, Initia Homerica, (cyhoeddwyd 1788). Mae ei gopi yn cynnwys cywiriadau testunol a marciau prawf ddarllen aml a wnaed ganddo mewn llawysgrif. Efallai ei fod wedi gobeithio cyhoeddi rhagor o argraffiadau. Roedd Burgess hefyd yn berchen ar y tair cyfrol ffolio o esboniadau Eustathius ar yr Iliad a’r Odyssey, a gyhoeddwyd gan Hieronymus Froben yn Basel yn 1560. Yn ogystal â gramadeg Groeg Gazēs, roedd yn berchen ar ddeg cyfrol Henri Estienne, Thēsauros tēs ellēnikēs glōssēs, (argraffiad a gyhoeddwyd 1816 i 1828) a deuddeg cyfrol Bibliotheca Graeca Johann Albert Fabricius (1790-1809).
Roedd gan Burgess ddiddordeb arbennig yn yr Hebraeg. Roedd yn argyhoeddedig, yn ogystal â bod yn ffocws ar gyfer astudiaethau Beiblaidd, bod goblygiadau deallusol a moesol i ddysgu’r iaith. Yn ei lyfr, Motives to the study of Hebrew, (ail argraffiad, 1814), ysgrifennodd Burgess, ‘You may acquire the Hebrew language, and read the Bible through in its original, in less time than you can learn to play, with tolerable dexterity, any single game at cards.’ (Yn ôl y sôn, cafodd fwy o drafferth o lawer â’r Gymraeg na’r Hebraeg.) Golygodd hefyd sawl gramadeg a gwerslyfr Hebraeg.
Roedd gan Burgess gopïau o A grammar of the Arabic language gan John Richardson (ail argraffiad, 1801); Lingua sacra David Levi (1803); The Persian interpreter gan Edward Moises (1792); a Lexicon syriacum concordantiale gan Carolus Schaaf (editio secunda, 1717).
Mewn cyferbyniad, ymddengys nad oedd gan Burgess ddiddordeb arbennig yn archaeoleg yr hen fyd. Roedd yn berchen ar gopi o Description of the plain of Troy, a ysgrifennwyd gan yr archeolegydd a’r teithiwr Ffrengig, Jean-Baptiste Lechevalier. (Credai Lechevalier ei fod wedi lleoli safle Caerdroea ger pentref modern Pinarbaşi.) Fodd bynnag, cafodd Burgess y llyfr yn rhodd gan ei gyfieithydd Andrew Dalzel.
Fel y gellid disgwyl, cymerodd Burgess ran yn nadleuon crefyddol ei ddydd, ac mae ei lyfrgell yn adnodd cyfoethog i unrhyw un sydd am astudio’r dadleuon niferus. Er enghraifft, tua diwedd magnum opus Edward Gibbon, The decline and fall of the Roman empire, meddai Gibbon, ‘I have described the triumph of barbarism and religion; and I can only resume, in a few words, their real or imaginary connection with the ruin of ancient Rome.’ Creodd nyth gacwn yn Eglwys Loegr, a sbarduno toreth o bamffledi gwrthwynebus. Roedd Burgess yn berchen ar ddetholiad o gyfrolau a oedd yn ymateb i’r ddadl, a ysgrifennwyd gan Henry Edwards Davis, James Chelsum, East Apthorp, Francis Eyre, a Smyth Loftus. Cyhoeddwyd y rhain yn 1778 i gyd, sef blwyddyn graddio Burgess a dwy flynedd ar ôl cyhoeddi’r gyfrol gyntaf o History Gibbon.
Roedd gan Burgess ddau gopi gwych o’r Fwlgat, sef cyfieithiad Jerôm o’r Beibl i’r Lladin. Llawysgrif oedd un o’r rhain. Mae’r coloffon anarferol o hir yn dweud wrthym mai gwaith G. de Fécamp, mynach cloff, ydoedd. Fe’i cwblhawyd yn 1279, ar ôl cymryd dros dair blynedd i’w gynhyrchu. Mae’n debyg iddo gael ei ariannu gan James, abad Saint-Pierre-sur-Dives, ger Liseaux yn Normandi. Mae’r flaenlythyren ar gyfer Cân y Caniadau yn dangos mynach Benedictaidd gyda meitr, yn penlinio o flaen y forwyn Fair a’r baban Iesu. Mae bron yn sicr bod y mynach yn cynrychioli’r Abad Iago. Mae’n debyg i’r llawysgrif gyrraedd Prydain trwy gyfrwng y Carthwsiaid yn y 15fed neu’r 16eg ganrif.
Argraffiad oedd ail Fwlgat Burgess; roedd yn berchen ar gopi o Feibl Fenisaidd 1476 Nicholas Jenson. Mae’r argraffu wyneb rotwnda yn berffaith. Mae arysgrif perchnogaeth ar y dudalen gyntaf, wedi’i ysgrifennu mewn llawysgrif: Collegii Paris, Societ. Jesu.
Roedd gan Burgess sawl Testament Newydd Groegaidd rhagorol. Ymhlith y rhain oedd cyfrol y Testament Newydd o Feibl Amlieithog Complutense, a noddwyd gan y Cardinal Francisco Jiménez de Cisneros, (1514). Mae testunau Groeg a Lladin wedi’u hargraffu mewn colofnau sy’n wynebu’i gilydd. Hwn oedd yr argraffiad print cyntaf o’r Testament Newydd Groeg, (er nad y cyntaf i’w gyhoeddi). Mae’r teip Groeg yn arbennig o drawiadol; mae’r llythrennau yn fawr, yn agored ac yn urddasol. Ochr yn ochr â hyn, roedd Burgess hefyd yn berchen ar gopi o’r trydydd argraffiad o Destament Newydd Groeg Erasmus, a gyhoeddwyd yn 1522. Argraffwyd hwn yn Basel gan Johann Froben. Mae’r testun Groeg wedi’i osod ochr yn ochr â chyfieithiad Lladin Erasmus yntau mewn colofnau sy’n wynebu’i gilydd. Mae’r wynebddalen wedi’i gosod oddi mewn i ffin torlun pren, sy’n darlunio Llechen Cebes, sef cynrychiolaeth alegorïaidd o feiau a rhinweddau bywyd dynol. Roedd gan Burgess gopi o’r Testament Newydd Groeg yn unig, a argraffwyd gan Simon de Colines ym Mharis yn 1534.
Hon oedd yr ymgais gyntaf i gyhoeddi argraffiad beirniadol; yn ogystal â defnyddio testun Erasmus ac un Beibl Complutense, darparodd de Colines nifer o ddarlleniadau unigryw, o bosibl yn seiliedig ar awdurdod llawysgrifau. Yn anffodus, ni chafodd ei fersiwn unrhyw ddylanwad ar argraffiadau diweddarach. Mae’r wynebddalen yn cynnwys dyfais Tempus Colines, sy’n darlunio ffigwr o’r Tad Amser â’i bladur. Mae i’r gyfrol ymylon goffredig cyfoethog hefyd. I ategu hyn, roedd Burgess yn berchen ar gopi o Destament Newydd Groeg a gyhoeddwyd gan Claude de Marne ac Andreae Wecheli Heredes yn 1601. Roedd y gyfrol yn ailargraffiad o’r hyn a gyhoeddwyd ym 1550 gan lysfab Colines, Robert Etienne. Roedd gan Burgess hefyd Destament Newydd Syriaidd, a olygwyd gan Guy le Fèvre de la Boderie ac a gyhoeddwyd yn 1584. Mae wedi’i argraffu mewn nodau Hebraeg, gyda chyfieithiad Lladin rhynglinol.
Roedd Burgess yn berchen ar un incwnabwlwm arwyddocaol arall. Argraffwyd ei gopi o Legenda Aurea neu Chwedl Aur gan Jacobus de Voragine, llyfr poblogaidd o fucheddau’r saint, gan olynydd William Caxton, Wynkyn de Worde, ym 1498.
Roedd Burgess yn berchen ar gasgliad gwych o weithiau gan y tadau eglwysig cynnar: Origen, John Chrysostom, Cyril, Cyprian, ac Eusebius. Ymhlith y rhain, roedd ganddo gopi o Myriobiblon Photius, (a gyhoeddwyd gan Jean a David Berthelin yn 1653). Disgrifiodd Photius, patriarch Caergystennin yn y 9fed ganrif, gannoedd ar gannoedd o lyfrau, yn aml gyda dadansoddiadau trylwyr a detholiadau helaeth. Gan fod llawer o’r gweithiau dan sylw ar goll erbyn hyn, mae’n ffynhonnell amhrisiadwy o wybodaeth.
O ran Prydain, roedd gan Burgess ddetholiad o gyfrolau diddorol. Roedd y rhain yn cynnwys argraffiad 1666 o Of the Laws of Ecclesiastical Polity: Eight Books Richard Hooker, y gwaith mawr cyntaf ym meysydd diwinyddiaeth, athroniaeth a meddwl gwleidyddol i’w ysgrifennu yn Saesneg. Roedd Burgess hefyd yn berchen ar gopïau o Historia Ecclesiastica Beda, a argraffwyd gan John Smith a’i fab George yn 1722, a Concilia Henry Spelman (1639), ymgais i ddogfennu’r holl gynghorau eglwysig a gynhaliwyd ym Mhrydain neu a fynychwyd gan gynrychiolwyr Prydain, tan 1066.
Roedd gan Burgess edmygedd arbennig o John Milton; roedd ei gasgliad yn cynnwys Poems of Mr John Milton, both English and Latin (1645); Paradise regain’d (1671); The doctrine & discipline of divorce (1644); ac A treatise of civil power in ecclesiastical causes (1659). Fodd bynnag, roedd Burgess hefyd yn berchen ar gopi o De doctrina Christiana, a’i gyfieithiad i’r Saesneg, A treatise on Christian doctrine (cyhoeddwyd y naill a’r llall gyntaf yn 1825). Roedd Robert Lemon, Dirprwy Geidwad Papurau Gwladol Ei Fawrhydi, wedi dod o hyd i’r llawysgrif yn Swyddfa Papurau’r Wladwriaeth.
Wedyn paratôdd llyfrgellydd Siôr IV, Charles Sumner, gopi i’w gyhoeddi. Ystyriwyd y gwaith yn anuniongred, a oedd yn herio athrawiaeth y Drindod. Roedd Burgess yn argyhoeddedig na allai fod gan Milton, gan ysgrifennu cyfres o draethodau a dadlau ei achos mewn anerchiadau i Gymdeithas Frenhinol Llenyddiaeth yn 1826, 1827 a 1828. Mae ei lyfr Milton not the author of the lately discovered Arian work De Doctrina Christiana (1829), yn casglu at ei gilydd ei holl waith ar y pwnc.
Fel Burgess, mynychodd William Buckland, deon Abaty Westminster a llywydd y Gymdeithas Ddaearegol, Goleg Caerwynt ac wedyn Coleg Corpus Christi Rhydychen. Rhoddodd Buckland gopi o’i lyfr Reliquiæ diluvianæ; or, observations on the organic remains contained in caves, fissures, and diluvial gravel, and on other geological phenomena, attesting the action of a universal deluge, (cyhoeddwyd 1823). Ynddo, ysgrifennodd Buckland am ogof Kirkdale, tua phum milltir ar hugain i’r gogledd-ddwyrain o Gaerefrog. Darganfuwyd helaethrwydd o esgyrn wedi’u claddu yn y ddaear. Er mai olion hienâu oedd y mwyaf cyffredin, roedd eliffantod, rhinos, ceffylau, ych, ceirw, llwynogod a llygod mawr hefyd. Roedd Buckland yn meddwl bod rhaid i’r hienâu fod wedi llusgo’r rhywogaethau ysglyfaethus i’r ogof, i wledda arnyn nhw’n hamddenol. Daeth i’r casgliad bod y ffawna wedi byw yn y lle, yn hytrach na bod yr esgyrn wedi cael eu hysgubo i mewn i Brydain o’r trofannau yn nilyw Noa. Ond roedd Buckland yn dal i dderbyn hanes dilyw’r Beibl, gan ysgrifennu am y ‘last great convulsion that has affected our planet.’
Roedd Burgess yn berchen ar argraffiad pum cyfrol o weithiau Isaac Newton, a gyhoeddwyd rhwng 1789 a 1785 ac a olygwyd gan Samuel Horsley, un o’i ragflaenwyr yn esgob Tyddewi. Roedd ganddo nifer fach o gyfrolau poblogaidd o hanes naturiol. Roedd y rhain yn cynnwys A Naturalist’s Calendar (1795) gan Gilbert White; dim ond pedair milltir ar ddeg i’r gogledd o dref enedigol White, Selborne, mae un Burgess, sef Odiham. Roedd Burgess hefyd yn berchen ar dair o’r pedair cyfrol o Flora Rustica gan Thomas Martyn (1792-94) gyda’i blatiau ysgythrog deniadol wedi’u lliwio â llaw.