chat loading...

Cefnogaeth ar Gyfer Staff Mewn Partneriaethau

Mae gwybodaeth am y gwasanaethau llyfrgell sydd ar gael i fyfyrwyr yn cael ei darparu gan y sefydliad lle maent yn astudio.

Fodd bynnag, yn unol ag ymrwymiad y Brifysgol i bartneriaethau cydweithredol, mae Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu’r Drindod Dewi Sant yn cynnig mynediad i fyfyrwyr Addysg Uwch sydd wedi cofrestru ar raglenni’r Brifysgol mewn sefydliadau partner fel y’i nodir isod. Bwriedir i’r ddarpariaeth hon ategu’r gwasanaethau a ddarperir gan lyfrgelloedd sefydliadau partner.

Mynediad i Lyfrgelloedd y Drindod Dewi Sant

Cydnabyddir efallai bydd rhai myfyrwyr mewn sefydliadau partner, yn enwedig y rheini sy’n byw’n agos yn ddaearyddol at y Brifysgol, yn dymuno defnyddio deunyddiau Llyfrgell y Brifysgol ar gyfer gwybodaeth gefndir. Mae modd gwneud hyn yn rhad ac am ddim, drwy gynllun benthyca cytbwys Llyfrgelloedd Ynghyd.

Benthyciadau Rhyng-lyfrgellol a SCONUL Access

Gellir gwneud cais am fenthyciadau rhyng-lyfrgellol drwy lyfrgell y sefydliadau partner. Nid yw’n bosibl i fyfyrwyr ar raglenni partneriaeth wneud cais am fenthyciadau rhyng-lyfrgellol yn uniongyrchol gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.


Yn anffodus, nid yw myfyrwyr sefydliadau partner yn gymwys ar gyfer SCONUL Access.

Hawlfraint a thrwyddedu

Gellir dod o hyd i ganllawiau hawlfraint i staff a myfyrwyr ar ein Hwb Hawlfraint. Noder os gwelwch yn dda bod yr adnodd hwn wedi ei ddatblygu ar ran PCYDDS fel rhan o gymuned Addysg Uwch y DU ac mae’n cyfeirio at hawlfraint yng nghyfraith y DU a’r drwydded a ddelir gan PCYDDS oddi wrth yr Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint. Partneriaethau sy’n gyfrifol am sicrhau cydymffurfiaeth â’r ddeddfwriaeth hawlfraint leol berthnasol ar gyfer eu lleoliad a’u sector, ac am ddarparu cymorth priodol a chanllawiau i staff a myfyrwyr. Gellir dod o hyd i wybodaeth bellach ar partneriaethau AB a leolir yn y DU yma: Trwydded CLA ar gyfer Addysg Bellach

Mae’r defnydd o adnoddau ar-lein PCYDDS yn amodol ar delerau ac amodau trwydded y darparwr. Partneriaethau sy’n gyfrifol am sicrhau bod myfyrwyr a staff yn cadw at amodau’r drwydded.

Dynes yn gwenu wrth edrych at y camera tra'n tynnu llyfr o silff mewn llyfrgell gyda silffoedd llawn llyfrau o'i chwmpas