Gwasanaethau Digidol » Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu (LLR) » Cefnogaeth ar Gyfer Staff » Hwb Hawlfraint » Creative Commons

BY
Gall bobl eraill gopïo, arddangos, perfformio ac ail-gymysgu gwaith. Rhaid rhoi cydnabyddiaeth i grëwr y gwaith.

ND
Dim ond air am air y gall bobl eraill gopïo, dosbarthu, arddangos neu berfformio gwaith. Ni chaniateir deilliadau nac addasiadau o’r gwaith.

SA
Gall bobl eraill ddosbarthu gwaith, ond dim ond dan drwydded sy’n union yr un fath â’r un y mae’r crëwr wedi’i ddewis ar gyfer eu gwaith.

NC
Gellir copïo, dosbarthu, arddangos, perfformio neu ailgymysgu gwaith at ddibenion anfasnachol yn unig.
Gall crewyr ddewis cyfuno’r cydrannau hyn i greu gwahanol gyfuniadau trwydded megis:
Attribution-ShareAlike (BY-SA)

Attribution-NonCommercial-NoDerivatives (BY-NC-ND)
Mae trwyddedau Creative Commons wedi’u dylunio i fod yn rhyngweithredol â’i gilydd, gan hwyluso cyfuno ac ailddefnyddio cynnwys a gwahanol drwyddedau.

Mae’r Drwydded CCO yn achos arbennig ymhlith trwyddedau – mae’n nodi bod darn o waith yn eiddo cyhoeddus. Mae crëwr a pherchennog yr eiddo yn hepgor unrhyw hawl sydd ganddynt i’r gwaith, gan olygu y gellir eu defnyddio, eu rhannu, eu golygu a’u hailgyhoeddi heb gyfyngiad – hyd yn oed at ddibenion masnachol