chat loading...

Hawlfraint i Myfyrwyr ac Ymchwilwyr

Gwybodaeth bellach i myfyrwyr ac ymchwilwyr ar sut i ddiogelu eu gwaith, faint y gellir ei gopïo, sut i ddod o hyd i gopïau hygyrch a ble i ddod o hyd i ddeunyddiau heb hawlfraint. Dewiswch gategori i gael mwy o wybodaeth.

Hawlfraint i Fyfyrwyr

Bydd gwaith yn cael ei ddiogelu gan hawlfraint yn awtomatig cyn gynted ag y bod cofnod ar unrhyw ffurf o’r hyn sydd wedi’i greu; nid oes cofrestru swyddogol ar gyfer hawlfraint. Fodd bynnag, gallwch gymryd camau i ddarparu tystiolaeth eich bod wedi creu gwaith ar amser penodol.

Cam defnyddiol i’w gymryd wrth gyhoeddi deunydd â hawlfraint yw ei farcio â’r symbol hawlfraint rhyngwladol © gyda’ch enw a blwyddyn creu’r deunydd yn dilyn. Gallech ystyried rhoi marciau tebyg ar y deunydd ar eich gwefan, os oes gennych wefan.

Bydd hysbysiad wedi’i eirio’n gywir hefyd yn atal tor rheolau, gan ei fod yn nodi bod y gwaith wedi’i ddiogelu dan y gyfraith. Mae arddangos hysbysiad yn dangos bod gennych ymwybyddiaeth o hawlfraint, a’ch bod yn cymryd tor rheolau ynghylch eich gwaith o ddifrif. Hefyd gallech roi dyfrnod ar ddeunydd megis dogfennau a ffotograffau.

Os oes gennych ddiddordeb mewn datblygu’ch Eiddo Deallusol, mae’n hollbwysig ei ddiogelu’n gyntaf cyn gwneud unrhyw ddatgeliadau.
Nid oes canran fanwl o’r maint ‘cyfyngedig’ y gallwch ei gopïo dan eithriadau delio teg megis ymchwil anfasnachol ac astudio preifat, fodd bynnag isod ceir canllawiau ar yr hyn a fyddai’n cael ei ystyried yn deg:
  • un erthygl mewn rhifyn unigol o gyfnodolyn neu set o drafodion cynhadledd, neu adroddiad cyfraith unigol
  • hyd at 10% o lyfr, neu bennod gyflawn, p’un bynnag yw’r mwyaf
  • cerdd gyfan neu stori fer o gasgliad, ar yr amod nad yw’r eitem yn fwy na 10 tudalen
  • hyd at 10% (uchafswm o 20 tudalen) o lyfr byr (heb benodau), adroddiad neu bamffled
  • un darluniad unigol neu fap hyd at faint A4
  • darnau byr o weithiau cerddorol (nid gweithiau neu symudiadau cyfan). Ni chaniateir copïo at ddibenion perfformio
Mae pob unigolyn anabl bellach wedi’i gwmpasu gan ddeddfwriaeth sy’n golygu os ydy’i anabledd yn effeithio ar ei allu i astudio neu weithio, mae hawl iddo/iddi astudio ar sail gyfartal â rhywun heb anabledd.

Mae’n bosibl bellach addasu’r holl waith â hawlfraint i fformat priodol, cyhyd â nad oes copïau hygyrch addas ar gael i’w prynu.

Gall hyn gynnwys:
  • gwneud copïau Braille, sain neu brint bras o lyfrau, papurau newydd neu gylchgronau ar gyfer pobl â nam ar y golwg
  • ychwanegu disgrifiad clywedol at ffilmiau neu ddarllediadau ar gyfer pobl â nam ar y golwg
  • gwneud ffilmiau neu ddarllediadau ag isdeitlau ar gyfer pobl fyddar neu drwm eu clyw
  • gwneud copïau hygyrch o lyfrau, papurau newydd neu gylchgronau ar gyfer pobl ddyslecsig

Ydy, cyhyd â’i fod at eich ymchwil anfasnachol neu’ch astudio preifat eich hun. Nid oes cyfyngiadau ar newid fformat y gwaith â hawlfraint cyhyd â bod y copïo’n deg. Ni ddylech wneud copi ac wedyn ei anfon at unigolion eraill.

Mae Creative Commons yn ddull o drwyddedu deunydd i ddiogelu rhai o’r hawliau, yn hytrach na hawlfraint sy’n diogelu’r gwaith yn llwyr. Cewch fwy o wybodaeth am y mudiad Creative Commons a’r trwyddedau ar wefan CC. Er enghraifft mae rhai pobl yn hapus i adael i chi ailddefnyddio’u gwaith (e.e. llun, fideo) os ydy at ddiben anfasnachol ac os rhowch gydnabyddiaeth iddynt. Gallwch chwilio am ddeunydd a drwyddedir dan wahanol fathau o drwyddedau Creative Commons gan ddefnyddio cyfleuster chwilio Creative Commons.

Hawlfraint i Ymchwilwyr

Yr enw ar yr eitemau hyn yw gweithiau amddifad. Os gallwch ddangos tystiolaeth o ddiwydrwydd dyladwy i olrhain deiliad yr hawlfraint, gellir eu defnyddio at ddibenion addysgol. Fodd bynnag, caiff deiliad cyfreithlon yr hawlfraint ofyn am gael dileu ei holl waith ar unrhyw adeg ac mae rhaid i chi wneud hynny.

Oes, os ydych chi’n cyflwyno gwaith pobl eraill fel rhan o’ch ymchwil. Yn aml bydd cynadleddau’n cael eu recordio, eu ffrydio’n fyw neu eu rhannu ar-lein, sy’n golygu bod torri hawlfraint yn fwy o risg. Er hynny mae’n bosibl y gallwch ddefnyddio darnau dan eithriadau delio teg.

Ystafell llyfrgell fodern gyda silffoedd llyfrau du wedi'u trefnu mewn rhesi ac yn llenwi'r ystafell dan ystlumod goleuadau gwyn a ffenestri mawrion sy'n caniatáu mewn golau naturiol