chat loading...

Hawlfraint a myfyrwyr

Gwybodaeth bellach i myfyrwyr ar sut i ddiogelu eu gwaith, faint y gellir ei gopïo, sut i ddod o hyd i gopïau hygyrch a ble i ddod o hyd i ddeunyddiau heb hawlfraint.

Hawlfraint ac adnoddau llyfrgell

Mae’r llyfrgell yn darparu mynediad i lyfrau, cyfnodolion, a mathau eraill o ddeunyddiau ymchwil y gallwch gael mynediad iddynt drwy gatalog y llyfrgell a chronfeydd data, neu drwy eich Rhestrau Adnoddau Ar-lein.

Mae’r llyfrgell yn talu am drwyddedau sy’n eich galluogi i lanlwytho neu argraffu swm cyfyngedig o ddeunydd. Nid ydynt ar gael yn gyhoeddus, a ni chaniateir i chi rannu’r rhain â phobl y tu allan i’r brifysgol.

Mae cyfraith hawlfraint yn berthnasol i ymchwil mewn amrywiol ffyrdd, gan ddibynnu ar ffactorau megis gwreiddioldeb, creadigaeth, trwyddedu ac eithriadau neu gytundebau perthnasol.

Copïau hygyrch o adnoddau

Mae darpariaeth yng nghyfraith hawlfraint i lyfrgelloedd wneud copïau hygyrch i fyfyrwyr ag anabledd. Gall hyn gynnwys copïau Braille neu sain ar gyfer myfyrwyr â nam ar eu golwg, neu lyfrau hygyrch neu erthyglau i fyfyrwyr dyslecsig. Cysylltwch â Chymorth Hygyrch? am ragor o wybodaeth ar hyn.

Defnyddio deunyddiau â hawlfraint yn eich aseiniadau

Yn ystod eich astudiaethau, bydd angen i chi gopïo neu lawrlwytho deunyddiau â hawlfraint megis erthyglau cyfnodolion, llyfrau, delweddau, a data. Gall deall hawlfraint sicrhau eich bod yn cydymffurfio â chyfraith hawlfraint a’ch bod yn foesegol yn eich triniaeth o’r defnydd o ddeunyddiau trydydd parti.

Mae eithriadau hawlfraint sy’n caniatáu defnyddio deunyddiau trydydd parti heb ofyn am ganiatâd deiliad yr hawlfraint. Mae’r rhain sy’n fwyaf perthnasol ar gyfer defnydd myfyrwyr ar gyfer:

  • eich astudio preifat eich hun
  • ymchwil anfasnachol
  • beirniadu ac adolygu – i wneud pwynt beirniadol, i gefnogi dadl, er enghraifft mewn traethawd neu draethawd hir, neu wrth ateb cwestiwn arholiad.

Gallwch ddysgu rhagor am Eithriadau Hawlfraint ar y wefan hon

Pan ydych yn defnyddio deunydd trydydd parti, mae’n hanfodol eich bod yn defnyddio’r hyn sy’n rhesymol a theg. Amlinellir canllawiau i ddelio teg yn ein hadran Cyflwyniad i Hawlfraint.

Yn ogystal, dylech fod yn glir ynghylch pa waith yw eich gwaith eich hun a beth yw gwaith trydydd parti drwy gyfeirnodi’r gywir.

Ni chaniateir defnyddio deunydd â hawlfraint ar gyfer dibenion addurniadol. Mae’n rhaid iddo fod yn berthnasol i’ch astudiaethau. Os ydych yn defnyddio delweddau ar gyfer dibenion addurno yn unig, sicrhewch eich bod yn defnyddio delweddau sydd yn y parth cyhoeddus neu sydd â thrwyddedau Creative Commons. Gweler ein hadran Adnoddau Pellach am ffynonellau’r rhain.

Rhannu deunydd â hawlfraint

Y brifysgol sy’n berchen hawlfraint y deunyddiau dysgu sydd wedi’u darparu i chi gan eich darlithwyr. Ni chaniateir i chi rannu’r rhain â phobl y tu allan i’r brifysgol. Mae hyn yn berthnasol i adnoddau’r llyfrgell, oni bai eu bod wedi’u cyhoeddi’n Mynediad Agored neu fod ganddynt drwydded Creative Commons. Byddai rhannu deunydd â hawlfraint yn cael ei ystyried yn torri hawlfraint. Os ydych yn rhannu rhywbeth ar-lein, mae pob amser yn fwy diogel rhannu dolen i’r ffynhonnell wreiddiol.

Diogelu eich hawlfraint

Fel arfer, bydd hawlfraint gwaith a grëwyd gan fyfyriwr yn y brifysgol yn cael ei neilltuo i’r myfyriwr hwnnw. Mae’n cael ei ddiogelu’n awtomatig cyn gynted y caiff ei “sefydlogi” mewn rhyw ffordd, megis ei gofnodi, ei dynnu ar bapur neu ei gofnodi’n electronig.

Gallwch ystyried trwyddedu eich gwaith o dan drwyddedau Creative Commons sy’n rhoi rheolaeth i chi ar sut y gall eraill ddefnyddio eich gwaith. Mae rhagor o wybodaeth ar hyn yn yr adran Creative Commons.

Os ydych yn rhannu eich gwaith ar-lein, ystyriwch ychwanegu hysbysiadau hawlfraint a pholisi tynnu i lawr mewn achosion o unrhyw dorri hawlfraint.

Dyma rai sefydliadau a all eich helpu i ddiogelu eich hawlfraint a’ch eiddo deallusol:

Interior of a modern library with rows of black bookshelves filled with books, large windows with geometric patterns, hanging white pendant lights, and a carpeted floor with a geometric design.