chat loading...

Hawlfraint ac Addysgu

Mwy o wybodaeth i staff am hawlfraint deunyddiau addysgu, sut i sicrhau eich bod yn cydymffurfio â hawlfraint a goblygiadau torri hawlfraint.

Defnyddio deunydd â hawlfraint

Mae deddfwriaeth a thrwyddedau hawlfraint yn galluogi i chi ddefnyddio testun, delweddau, darnau o ffilm ayb ar gyfer addysgu heb orfod gofyn am ganiatâd gan ddeiliaid yr hawlfraint. Mae’r Brifysgol yn darparu mynediad at gynnwys electronig trwy drefniadau trwyddedu gyda chyhoeddwyr.

Pan fyddwch yn defnyddio unrhyw ddeunydd â hawlfraint wrth addysgu mae’n rhaid i chi gymhwyso egwyddorion masnachu teg a defnyddio’r hyn sy’n gwbl angenrheidiol a theg yn unig. Dylech hefyd gydnabod ffynhonnell deunydd trydydd parti a ddefnyddir. Dysgwch fwy am Ddelio Teg.

Darparu adnoddau ar gyfer myfyrwyr

Y ffordd hawsaf i wneud yn siŵr bod y deunydd rydych yn ei ddarparu yn cydymffurfio â hawlfraint yw defnyddio eich rhestrau Adnoddau Ar-lein Leganto – caiff y rhain eu gwirio gan staff y Llyfrgell i sicrhau bod yr holl ddeunydd yn cydymffurfio. Lle bo rhai ar gael, byddwn yn darparu dolenni i’n e-lyfrau ac erthyglau digidol.

Nid yw’n debygol bod ffeiliau a lanlwythir i Moodle, fel fersiynau PDF, yn cydymffurfio felly mae’n well mynd trwy’r llyfrgell. Gallwn ddarparu penodau neu erthyglau digidol trwy eich rhestrau Adnoddau Ar-lein neu’r ffurflen gais digideiddio.

Gellir darparu dolenni at adnoddau Mynediad Agored yn rhydd ond efallai na chaniateir eu copïo.

Dangos ffilmiau ac adnoddau teledu a fideo

Caniateir dangos ffilmiau ac adnoddau teledu a fideo mewn ystafelloedd dosbarth naill ai ar DVD neu drwy un o’n gwasanaethau ffrydio fel Box of Broadcasts.

Gallwch chwarae ffilmiau a rhaglenni teledu drwy wasanaethau tanysgrifio (fel Netflix) os ydych wedi talu am danysgrifiad dilys. Rhaid chwarae’r rhain yn ‘fyw’ ac ni ellir eu recordio, h.y. trwy gipio darlith.

Defnyddio delweddau â hawlfraint

Caniateir defnyddio delweddau sy’n dal i fod o fewn hawlfraint at ddibenion addysgol, ar yr amod ei fod yn berthnasol i’r pwnc. Os mai dim ond at ddibenion addurniadol maen nhw, yna mae’n arfer gorau i ddefnyddio delweddau sydd yn y parth cyhoeddus neu sydd â thrwydded Creative Commons. Dysgwch ragor am Creative Commons, neu ddarganfod ffynonellau delweddau heb hawlfraint yn ein hadran Adnoddau Pellach.

Creu deunyddiau addysgol

Y Brifysgol yw perchennog cyntaf hawliau unrhyw waith a wneir yn ystod eich cyflogaeth, oni bai eich bod wedi gwneud cytundeb i’r gwrthwyneb.

Cyfryngau Cymdeithasol

Os byddwch yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol neu safleoedd rhwydweithio cymdeithasol byddwch yn ofalus wrth rannu cynnwys fel ffotograffau neu ddelweddau oherwydd efallai y cânt eu hailddefnyddio gan eraill heb ganiatâd.

Os ydych yn dymuno ailddefnyddio delweddau sy’n perthyn i eraill ond sydd wedi’u rhannu ar safleoedd cyfryngau cymdeithasol, cofiwch fod y rhain wedi’u hamddiffyn gan hawlfraint ac fe’ch cynghorir i gael caniatâd os ydych yn dymuno eu hail-gyhoeddi.