chat loading...

Rhestrau Adnoddau ar-lein

Rydym wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â chydweithwyr yn yr adrannau academaidd, er mwyn darparu’r profiad dysgu gorau posibl ar gyfer myfyrwyr y Drindod Dewi Sant.

Myfyrwyr:

Gallwch gyrchu eich rhestr adnoddau ar-lein ar dudalen y modwl ar Moodle. Dylai fod dolen mewn colofn ar ochr dde’r dudalen.

Os nad oes rhestr adnoddau wedi’i chysylltu â thudalen eich modwl ar Moodle, cysylltwch â’ch darlithydd modwl.

O gatalog y llyfrgell gallwch ddewis adnodd ac o fewn cofnod yr eitem gallwch ddewis ‘rhestr darllen’ ac ‘ychwanegu at ffefrynnau’. Bydd angen i chi fewngofnodi i ddefnyddio’r swyddogaeth hon.

O restr adnoddau ar-lein gallwch glicio ar y tri dot a dewis yr opsiwn ‘cadw fel ffefryn’. Mae eich rhestr ffefrynnau ar gael ar ochr chwith uchaf y dudalen yn yr adran rhestr darllen.

Dylech hofran eich llygoden dros y ddolen i’r adnodd a bydd dolen â’r geiriau ‘nodi ei fod wedi torri’ yn ymddangos. Cliciwch ar y ddolen hon a bydd blwch naid yn ymddangos ar y sgrin. Mae lle i chi ysgrifennu esboniad byr o’r broblem. Pwyswch ‘cadarnhau’ a bydd y mater yn cael ei anfon at y llyfrgell. Bydd staff y llyfrgell yn ymchwilio i’r broblem a’i datrys cyn gynted â phosibl. Byddwn yn cysylltu â chi os oes angen rhagor o wybodaeth arnom, a phan fydd y mater wedi’i ddatrys byddwn yn rhoi gwybod i chi drwy e-bost.  

Yng nghornel dde uchaf y sgrin mae opsiwn gosodiadau ar ffurf symbol cog. Mae clicio ar hwn yn agor dewislen sy’n cynnwys gosodiadau iaith a hygyrchedd.

Staff Academaidd:

Llunio rhestrau darllen: arfer gorau

Gall rhestr ddarllen/ adnoddau dda alluogi myfyrwyr i reoli eu darllen yn fwy effeithiol, datblygu eu sgiliau ymchwil annibynnol, cyfoethogi eu dysgu a’u dealltwriaeth o bwnc a chodi cyfraddau boddhad myfyrwyr.

Mae polisi rhestrau darllen y Drindod Dewi Sant yn darparu fframwaith i sicrhau bod y Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu a staff academaidd yn gweithio gyda’i gilydd i wella profiadau myfyrwyr o weithio gyda rhestrau darllen. Fodd bynnag dyma gyngor da i’ch rhoi ar ben ffordd:

  • Dylech gynnwys ystod o adnoddau dysgu’n cynnwys llyfrau, cyfnodolion, clipiau fideo, podlediadau, lluniau, arteffactau a gwefannau.
  • Byddwch yn realistig; gwnewch yn fawr o adnoddau sydd ar gael o’r llyfrgell ar hyn o bryd neu y mae’n hawdd cael gafael arnynt h.y. nid ydynt allan o brint neu’n eithriadol o ddrud.
  • Diweddarwch eich rhestrau’n rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn cynnwys deunydd cyfredol, yr argraffiadau mwyaf diweddar, eu bod yn gywir a bod unrhyw URL yn adlewyrchu’r cyfeiriad gwe (URL) cyfredol.
  • Cysylltwch restrau adnoddau â’r ddarpariaeth Sgiliau Gwybodaeth er mwyn helpu myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau llythrennedd digidol a llythrennedd gwybodaeth wrth iddynt symud ymlaen drwy eu cwrs.
  • Sicrhewch eu bod yn amrywiol ac yn cynrychioli’r corff myfyrwyr
  • Gwnewch yn siŵr eu bod ar gael ar fformat electronig, gan ddileu rhwystrau i garfannau mawr a myfyrwyr nad ydynt ar y campws.

Darllen Pellach: Pedagogy of Reading Lists

Edrychwch ar dudalen Moodle y modwl. Os oes rhestr adnoddau wedi’i chreu, dylai ymddangos ar y dudalen hon. Os nad ydych yn siŵr, cysylltwch â Resource.Lists@uwtsd.ac.uk.

Gwiriwch fod y rhestr yn Leganto wedi’i chysylltu â’r cod modwl perthnasol: Dewiswch ‘cyswllt at gwrs’ ar frig y rhestr ddarllen a nodwch god y modwl. Mae hyn yn cysylltu’r rhestr adnoddau â thudalen y modwl ar Moodle.

Pan fydd y rhestr yn barod, dewiswch ‘mae fy rhestr yn barod’. Mae hyn yn anfon y rhestr i’r llyfrgell i’w hadolygu. Ar ôl i’r rhestr gael ei hadolygu, bydd statws y rhestr yn newid i ‘cyhoeddwyd’. Bydd y rhestr wedyn yn weladwy i fyfyrwyr. Mae hyn fel arfer yn cymryd ychydig ddiwrnodau.

Cliciwch ar y tri dot ar frig tudalen rhestr adnoddau Leganto. Yr opsiwn olaf ar y gwymplen yw ‘dileu’r rhestr’.

Ar frig tudalen Leganto cliciwch ar y tri dot a dewiswch ‘golygu’r rhestr’. Yma gallwch ddiweddaru enw’r rhestr adnoddau. Bydd angen i chi hefyd sicrhau bod y rhestr adnoddau yn gysylltiedig â’r dudalen Moodle gywir. Un o’r opsiynau yn y ddewislen ar ôl dewis y tri dot yw ‘rheoli’r cyswllt at y cwrs’. Yma gallwch ychwanegu a dileu cyswllt at gwrs, fel bod y rhestr yn cysylltu â’r tudalennau Moodle perthnasol.

Gallwch ychwanegu eitemau sydd yn y llyfrgell eisoes at eich rhestrau trwy chwilio’n uniongyrchol trwy ein llyfrgell ar-lein.

Cliciwch ar ‘ychwanegu’ ac yna ‘chwilio’r llyfrgell’. Chwiliwch am yr eitem rydych chi’n chwilio amdani yn ôl teitl, awdur, ISBN, ISSN neu allweddair. Ar ôl i chi ddod o hyd i’r hyn rydych chi’n chwilio amdano, defnyddiwch yr eicon ‘+’ a dilynwch y cyfarwyddiadau ar eich sgrin. Ar ôl i chi ddewis ychwanegu’r eitem at yr adran ofynnol, bydd ffenestr naid yn eich annog i dagio’r eitem; bydd hyn yn penderfynu faint o gopïau bydd y llyfrgell yn eu prynu ar gyfer y modwl. Os hoffech gael gwared ar yr eitem, cliciwch ar y tri dot ar ochr dde’r eitem, ac yna ‘dileu eitem’. Bydd yr eitem yn cael ei thynnu oddi ar y rhestr.

Os na allwch wneud unrhyw newidiadau i’r rhestr adnoddau o hyd, cysylltwch â Resource.Lists@uwtsd.ac.uk a bydd y llyfrgell yn gwirio bod gennych y caniatâd perthnasol.

Gallwch wneud diweddariadau i’ch rhestr adnoddau unrhyw bryd. Gallwch wirio catalog y llyfrgell am argraffiadau newydd ac ychwanegu cyfeiriadau newydd at adnoddau yr hoffech i ni eu prynu. Cofiwch ail-anfon eich rhestr i’r llyfrgell fel y gallwn brynu’r eitemau newydd a gwirio bod yr eitemau ar y rhestr yn gyfredol ac yn gweithio’n iawn.

Cysylltwch â Resource.Lists@uwtsd.ac.uk os oes angen unrhyw gyngor arnoch.

Mae ein Polisi Rhestrau Adnoddau Ar-lein yn nodi y dylai rhestrau adnoddau yn ddelfrydol gynnwys hyd at 7 eitem hanfodol, ond gydag uchafswm terfynol o 15. Gall y rhestrau hefyd gynnwys uchafswm o 25 o eitemau darllen pellach.

Gweler ein  polisi Rhestrau Adnoddau Ar-lein am ragor o wybodaeth.

Gall gymryd hyd at 2-3 diwrnod gwaith i wirio’r rhestr a’i gwneud ar gael i fyfyrwyr.

Ar yr eitem rydych chi am ei digideiddio, cliciwch ar y ddolen ‘manylion llawn’ ac yna ewch i’r tab ‘gweithredoedd eitem’.  Ar waelod y dudalen mae botwm ‘gwneud cais digideiddio’. Cliciwch ar y ddolen hon a mewnbynnu manylion yr adran/bennod sy’n ofynnol. Bydd tag ‘digideiddio ar y gweill’ yn cael ei ychwanegu at yr eitem ar ôl i’r cais gael ei gyflwyno.

Un bennod/erthygl neu 10% o gyfanswm y cyhoeddiad, pa un bynnag yw’r mwyaf. Gweler y Polisi Hawlfraint am ragor o wybodaeth.

Na, os ydym yn ymwybodol o argraffiad mwy newydd byddwn yn ymdrechu i ddiweddaru’r rhestrau.

Rhowch wybod i’r llyfrgell am y ddolen sydd wedi torri gan ddefnyddio’r ddolen â’r geiriau ‘nodi ei fod wedi torri’.

Byddwn yn prynu 1 copi ar gyfer darllen hanfodol i bob 10 myfyriwr, ac 1 copi ar gyfer darllen pellach i bob 50 myfyriwr. Rydym yn blaenoriaethu prynu e-lyfrau pan fo’n bosibl. Gweler ein Polisi Datblygu Casgliadau am ragor o wybodaeth.

Gall eitemau printiedig gymryd hyd at ychydig wythnosau i fod ar gael yn y llyfrgell, ac weithiau’n hirach os nad ydynt mewn stoc gyda’n cyflenwyr ar hyn o bryd. Mae e-lyfrau fel arfer ar gael o fewn wythnos.

Cofiwch hefyd y dyddiad cau ar gyfer archebu ar ddiwedd blwyddyn sydd fel arfer tua diwedd mis Mai er mwyn caniatáu i archebion gael eu prosesu erbyn diwedd y flwyddyn gyllideb ym mis Gorffennaf. Bydd archebion a wneir ar ôl y dyddiad cau a chyn rhyddhau cyllideb y flwyddyn ganlynol yn cymryd mwy o amser. Rhennir y dyddiad cau ar gyfer archebu drwy’r bwletin staff.

Byddwch yn derbyn e-bost a gynhyrchir gan y system pan fydd eitem yn cael ei gwrthod, a rhoddir nodyn ar yr eitem yn Leganto. 

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â Resource.Lists@uwtsd.ac.uk.