Gwasanaethau Digidol » Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu (LLR) » Defnyddio ein Llyfrgelloedd
Mae ein llyfrgelloedd yn cynnig mannau agored, llachar gydag ystod eang o gyfleusterau a mannau astudio, wedi’u dylunio i weddu i bob arddull dysgu. Rydym yn cynnig casgliadau a ddatblygwyd i adlewyrchu ymchwil ac addysgu adrannau academaidd, amrywiaeth eang o adnoddau electronig, a chefnogaeth gan staff arbenigol.
Gobeithiwn y bydd bod yn rhan o’r Llyfrgell yn eich ysbrydoli, yn eich grymuso ac yn eich cefnogi i gyflawni eich nodau a’ch amcanion. Mae ein staff yma i helpu, boed hynny yn bersonol wrth y Ddesg Gymorth neu drwy e-bost, ffôn, Twitter neu Facebook. Rydym yn gwerthfawrogi eich adborth, felly mae croeso i chi gysylltu â thîm y llyfrgell os oes unrhyw beth y gallwn ei wneud i wella’r gwasanaethau rydym yn eu cynnig i chi.
Eich cerdyn adnabod PCYDDS yw eich cerdyn Llyfrgell hefyd a bydd yn ddilys am hyd eich cwrs, ymchwil neu gyflogaeth. Cofiwch gario’ch cerdyn adnabod gyda chi bob amser gan y bydd ei angen arnoch i fenthyg eitemau a defnyddio rhai o’n gwasanaethau. Dylech drin hwn fel eich cerdyn banc a pheidiwch â rhannu eich manylion.
Cardiau wedi’u colli/eu dwyn -Os byddwch yn colli eich cerdyn adnabod, bydd angen i chi wneud cais am un arall yn ei le a sylwer y codir tâl am gerdyn newydd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael o’r Hyb Myfyrwyr.

Darganfyddwch sut i fenthyg, gwneud cais ac adnewyddu eitemau gan ddefnyddio ein gwasanaethau llyfrgell.

Mae ein Cyflwyniad i Wasanaethau'r Llyfrgell ar gael drwy gydol y flwyddyn, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i fyfyrwyr unigol, staff a grwpiau.

Os oes angen ychydig o gymorth, cyngor neu anogaeth gyfeillgar arnoch, gallwch drefnu apwyntiad gydag aelod o’n tîm ar amser sy’n gyfleus i chi.

Mae ein gwasanaeth Clicio ac Eistedd yn galluogi myfyrwyr i gadw mannau astudio unigol a chyfrifiaduron personol.

Trosolwg o'r gwasanaethau sydd ar gael i ddysgwyr o bell.

Weithiau mae angen i fyfyrwyr a staff y Drindod Dewi Sant fenthyca llyfrau, defnyddio casgliadau at ddibenion cyfeirio neu gael lle tawel i astudio neu weithio yn agosach at ble maen nhw’n byw.

Gwybodaeth am Stackmap Explore a sut i ddod o hyd i lyfrau ar silffoedd llyfrgelloedd.

Gwybodaeth am sut i lawrlwytho e-lyfrau o wahanol lwyfannau e-lyfrau.

Mae’r llyfrgell yn rhoi mynediad i ystod eang o adnoddau clyweledol.

Awgrymiadau datrys problemau i helpu gyda phroblemau cyffredin y gallech ddod ar eu traws wrth gael mynediad at adnoddau eraill.

Trosolwg o'r adnoddau sydd ar gael i fyfyrwyr partneriaeth a benthycwyr allanol.

Dysgwch sut i gysylltu â Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu