Gwasanaethau Digidol » Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu (LLR) » Defnyddio ein Llyfrgelloedd » Adnoddau Clyweledol
Sylwer bod BoB ar gael o fewn y DG yn unig.
Mae rhagor o fideos am ddefnyddio BoB ar gael o Learning Onscreen.
Adnodd cyfeiriol cyffredinol i’r anatomi dynol gydag offer delweddu a dysgu 3D i ryngweithio ac archwilio systemau’r corff dynol.
Mae’n cynnwys mwy na 5,000 o strwythurau anatomaidd gwrywaidd a benywaidd sy’n rhyngweithiol ac yn feddygol gywir. Fe’i datblygwyd gan ddarlunwyr meddygol a hyfforddwyd yn feddygol ac a fetiwyd gan anatomyddion blaenllaw. Mae’n cwmpasu anatomeg systemig, anatomeg ranbarthol, y synhwyrau, gweithrediadau cyhyrau, a 25 o groestoriadau.
Cewch fynediad i’r Human Anatomy Atlas ar gyfrifiadur bwrdd gwaith, gliniadur neu ddyfais symudol.
Ceir gwybodaeth am y gofynion system er mwyn defnyddio’r adnodd yng Nghanolfan Gymorth Visible Body.
Gwybodaeth am ei lawrlwytho i ddyfais symudol.
Platfform datblygiad proffesiynol a rhwydweithio ar gyfer gyrfaoedd sy’n rhoi mynediad i filoedd o gyrsiau ar-lein.
Fel defnyddiwr LinkedIn Learning, gallwch rannu fideos, cyrsiau, Llwybrau Dysgu a Chasgliadau â defnyddwyr eraill y gwasanaeth. Caiff staff a myfyrwyr fynediad drwy ddefnyddio’ch cyfeiriad e-bost a manylion mewngofnodi ar gyfer y Drindod Dewi Sant.