Gwasanaethau Digidol » Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu (LLR) » Defnyddio ein Llyfrgelloedd » Benthyca, Ceisiadau ac Adnewyddiadau
Gallwch ofyn am eitemau a’u casglu o unrhyw un o’n llyfrgelloedd trwy ein gwasanaeth Clicio a Chasglu. Dylid gofyn am eitemau drwy ein catalog llyfrgell. Fe gewch e-bost i roi gwybod i chi pan fydd yr eitem ar gael i’w chasglu. Yna, bydd gennych saith diwrnod i gasglu’ch eitem. Gwiriwch oriau agor y llyfrgelloedd cyn ymweld â ni.
Os dewch chi o hyd i eitem yn ein catalog rydych chi eisiau ei benthyca, ond nid yw ar gael neu mae ar goll o’r silffoedd, gallwch wneud cais i gadw’r eitem. Pan ddaw’r eitem ar gael i’w fenthyca, cewch e-bost yn eich hysbysu ei fod yn barod i’w gasglu.
Os nad yw ein llyfrgelloedd yn cadw’r adnoddau y mae eu hangen arnoch, defnyddiwch ein gwasanaeth Angen Rhagor. Mae hefyd yn bosibl i lawer o fyfyrwyr a staff Y Drindod Dewi Sant fanteisio ar gynlluniau benthyca er mwyn ymuno â gwasanaethau llyfrgell eraill ar draws y DU. Ewch i’n tudalen Defnyddio Llyfrgelloedd Eraill i gael manylion pellach.
Wedi i chi gael e-bost yn eich hysbysu bod eitem ar gael, bydd gennych 7 diwrnod o’r dyddiad hwnnw i gasglu’r eitem.
| Aelodau Llyfrgell | Benthyciadau | Ceisiadau |
| Israddedigion | 15 | 10 |
| Ôl-raddedigion | 20 | 20 |
| Myfyrwyr Ymchwil | 25 | 25 |
| Staff y Brifysgol | 30 | 25 |
| SCONUL Access/Libraries Together Passport / External | 5 | 5 |
Gallwch ddefnyddio ein peiriannau hunanwasanaeth i fenthyca/adnewyddu/dychwelyd eitemau neu gall staff eu benthyca i chi wrth y ddesg wasanaeth mewn unrhyw lyfrgell (rhaid i chi ddangos eich cerdyn adnabod bob tro).
Rhaid dychwelyd eitemau erbyn y dyddiad/amser sydd wedi’u stampio ar y label dyddiad neu ar y dderbynneb os ydych wedi benthyca’r eitem i chi’ch hun. Chi sy’n gyfrifol am bob eitem a fenthycir ar eich cerdyn adnabod.