chat loading...

Cyflwyniad i Wasanaethau’r Llyfrgell

Mae sesiynau Cyflwyniad i Wasanaethau’r Llyfrgell ar gael wyneb yn wyneb yn ein llyfrgelloedd yng Nghaerfyrddin ac Abertawe, ac ar-lein ar gyfer y rhai nad ydynt yn byw’n agos i lyfrgell PCYDDS. Mae cyflwyniadau ar gael drwy gydol y flwyddyn i fyfyrwyr unigol, staff a grwpiau. Mae gwybodaeth bellach ar sut i archebu ar gael isod.

Ble, Pryd a Sut i Archebu

  • Gellir archebu Cyflwyniad i Wasanaethau’r Llyfrgell (wyneb yn wyneb neu ar-lein) gan fyfyrwyr a staff o leiaf tri diwrnod ymlaen llaw gan ddefnyddio’r ffurflen archebu Cyflwyniad i Wasanaethau’r Llyfrgell
  • Bydd pob sesiwn yn cymryd tua 30 munud ac yn ymdrin â hanfodion defnyddio ein llyfrgelloedd a’n gwasanaethau.
  • Mewn sesiynau wyneb yn wyneb, mae staff yn rhoi cyflwyniad ac yn eich arwain o gwmpas ein llyfrgelloedd. Byddwn yn dangos i chi sut i ddefnyddio ein hadnoddau ac yn ateb cwestiynau a fydd gennych am ddefnyddio’r llyfrgell. Uchafswm nifer y cyfranogwyr fesul sesiwn wyneb yn wyneb yw 15.
  • Mae sesiynau ar-lein ar gael i ddysgwyr o bell, a myfyrwyr ym Mirmingham, Llundain a Chaerdydd. Cyflwynir y sesiynau hyn fel cyflwyniad ar Teams, gan roi trosolwg o’r gwasanaethau rydym yn eu cynnig, gyda phwyslais arbennig ar wasanaethau sy’n berthnasol i fyfyrwyr nad oes ganddynt fynediad at lyfrgell ffisegol PCYDDS. Cyflwynir y sesiynau gan aelodau staff y llyfrgell a fydd yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau.
  • Dylai pob myfyriwr newydd gael ei archebu ar Gyflwyniad gan eu Rheolwr Rhaglen fel rhan o’u cyfnod cynefino. Fodd bynnag, croeso i fyfyrwyr a staff archebu Cyflwyniadau ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn academaidd, p’un a ydynt yn newydd i’r brifysgol neu’n edrych i fynychu sesiwn adolygu am y gwasanaethau mae gan y llyfrgell i’w cynnig. Yn ogystal, bydd angen i fyfyrwyr newydd fynychu sesiynau Sgiliau Academaidd a Gwybodaeth a Sgiliau Digidol yn ystod eu tymor cyntaf, mae rhagor o wybodaeth ar y rhain ar gael yma

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni drwy’r swigen Sgwrsio â’r Llyfrgell ar y dudalen hon. Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i’n llyfrgelloedd!