Gwasanaethau Digidol » Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu (LLR) » Defnyddio ein Llyfrgelloedd » Datrys Problemau
Os ydych chi wedi cael mynediad i’r adnodd trwy catalog y llyfrgell ond rydych chi’n dal i gael cais i dalu, llenwch y ffurflen rhoi gwybod am nam oherwydd gallai fod problem gyda’n tanysgrifiad.
Golyga hyn fod gennym drwydded defnyddwyr cyfyngedig ar gyfer y teitl hwnnw a bod uchafswm y nifer o ddefnyddwyr a nodir ar y drwydded wedi’i gyrraedd.
Trwy glicio ar y botwm “add to queue” neu “reserve” byddwch yn cael e-bost pan fydd copi ar gael. Pan fydd ar gael bydd hyn a hyn o amser gennych i gyrchu / lawrlwytho’r e-lyfr cyn iddo symud at y person nesaf yn y ciw.
Ni ellir adnewyddu e-lyfrau. Os yw eich cyfnod lawrlwytho wedi dod i ben gallwch fel arfer ei lawrlwytho eto ar unwaith os nad oes unrhyw un arall yn y ciw.
Ni ellir dychwelyd e-lyfrau. Bydd eich mynediad yn dod i ben yn awtomatig ar ddiwedd y cyfnod lawrlwytho rydych chi wedi’i ddewis.
Human Anatomy Atlas 2021 a Muscle 2018
Nid yw’r apiau symudol uchod yn cael eu cefnogi gan Google bellach ar fersiynau Android mwy newydd. Maent yn dal i fod ar gael ar gyfer dyfeisiau iOS.
Os na allwch ddod o hyd i'r ateb i'ch problem yn y rhestr uchod, a'ch bod yn dal i gael problemau cyrchu ein hadnoddau, rhowch wybod amdano gan ddefnyddio'r botwm isod.