chat loading...

Stackmap Explore

Gallwch ffeindio’ch ffordd o gwmpas ardaloedd Llyfrgelloedd y Drindod Dewi Sant yn hawdd drwy ddefnyddio’r swyddogaeth Explore yn Stackmap!

P’un a ydych yn chwilio am lyfr ar bwnc penodol, neu am le o fewn y llyfrgell (h.y. ystafell astudio neu ble mae’r peiriannau argraffu) bydd Explore yn dangos i ble mae angen i chi fynd!

Cliciwch ar ddolen Explore a dewis naill ai ‘subjects’ neu ‘places’ (neu gallwch chwilio am bwnc / lle gan ddefnyddio’r blwch chwilio).

Cliciwch ar fap llawr y Llyfrgell o’ch dewis i weld union leoliad eich pwnc / lle ar y llawr hwnnw. Bydd y lleoliad yn cael ei amlygu mewn PORFFOR / COCH!

Defnyddiwch y nodwedd Chwyddo i gynyddu/lleihau maint y map (ar ddyfais symudol gallwch ddefnyddio’ch bys, neu ddefnyddio llygoden ar gyfrifiadur).

Cliciwch ar y botwm ‘hafan’ neu ar logo Stackmap i ddechrau eto.
Cliciwch ar logo Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i fynd â chi i dudalen hafan y Llyfrgell.

Sut mae ein llyfrau wedi’u trefnu ar y silffoedd?

Mae arwydd ar ddiwedd pob bae o lyfrau’n rhestru’r pynciau sydd ar gael ymhob bae, ynghyd â’u rhifau.

Mae ein llyfrgelloedd yn defnyddio system ddosbarthu Degol Dewey, sef y system ddosbarthu a ddefnyddir yn fwyaf eang yn y byd. Mae hon yn rhannu’r holl wybodaeth yn ddeg prif ddosbarth:

000 Cyfrifiadureg, gwybodaeth a gweithiau cyffredinol
100 Athroniaeth a seicoleg
200 Crefydd
300 Gwyddorau cymdeithasol
400 Iaith
500 Gwyddoniaeth
600 Technoleg
700 Y celfyddydau a hamdden
800 Llenyddiaeth
900 Hanes a daearyddiaeth

Mae pob un o’r prif ddosbarthiadau hyn wedi’i rannu’n ddeg adran, e.e.

700 Y Celfyddydau cyffredinol
710 Cynllunio ardaloedd a phensaernïaeth tirweddau
720 Pensaernïaeth
730 Cerflunio, cerameg a gwaith metel
740 Y celfyddydau graffig a’r celfyddydau addurnol

Ac yn y blaen.

Mae’r trydydd digid yn dynodi’r is-adran, e.e.

725 Pensaernïaeth: adeiladau cyhoeddus
727 Pensaernïaeth: adeiladau at ddibenion addysgol
728 Pensaernïaeth: adeiladau preswyl

Wedyn fel arfer ceir pwynt degol, ac ar ôl hwnnw mae’r pwnc yn cael ei rannu ymhellach. Mae’r pwynt degol yn ei gwneud yn haws darllen y rhif, ond nid oes unrhyw arwyddocâd mathemategol iddo!

727.3 Adeiladau prifysgol
728.09429 Tai: Cymru

Yn y Drindod Dewi Sant, rydym ni hefyd yn defnyddio olddodiad tair llythyren ar ôl y rhifau.

Fel arfer mae hwn yn cynnwys tair llythyren gyntaf enw’r awdur.  Os oes golygydd i’r gwaith, defnyddir tair llythyren gyntaf naill ai’r golygydd neu’r teitl.  Os ydy’r gwaith yn ymwneud ag artist neu bensaer, rydym ni’n defnyddio tair llythyren gyntaf ei enw/ei henw. Mae gweithiau am raglenni cyfrifiadurol yn defnyddio tair llythyren gyntaf y rhaglen.

Mae hyn yn helpu i ddod o hyd i waith unigol ar y silff.  E.e.

727.6 EXE Exell, Karen. The global spectacular 
720.92 AAL Stewart, John. Alvar Aalto,architect
006.693 GPU Engel, Wolfgang (ed.). GPU Zen 2: advanced rendering techniques

Dewey®, DDC® a Dewey Decimal Classification® yw nodau masnach perchnogol OCLC Online Computer Library Center, Inc. ac fe’u defnyddir gyda chaniatâd.

Llyfrgell gyda silffoedd o lyfrau trefnus ar ochrau a chefn, gyda llyfrau amrywiol liw a maint wedi'u gosod yn dynn ar y silffoedd