Gwasanaethau Digidol » Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu (LLR) » Defnyddio ein Llyfrgelloedd » Gwasanaethau ar gyfer Myfyrwyr o Bell
Mae’r dudalen hon yn dwyn llawer o wybodaeth ynghyd sy’n arbennig o berthnasol i ddysgwyr o bell. Fodd bynnag, os oes unrhyw beth nad ydych chi’n siŵr amdano, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy ddefnyddio’r swigen sgwrsio ar waelod y dudalen.
Mae’r cyflwyniad rhithwir hwn wedi’i fwriadu ar gyfer unrhyw fyfyrwyr na allant fynychu taith o gwmpas y llyfrgell yn y cnawd. Mae sesiynau ar gael trwy gydol y flwyddyn a gallwch archebu lle gan ddefnyddio’r ffurflen hon: Teithiau Llyfrgell.
Mae gan bob myfyriwr ac aelod o staff Lyfrgellydd a Chynghorydd Sgiliau Digidol sydd wedi’u neilltuo i’w pwnc astudio neu maes gwaith. Os oes angen ychydig o gymorth, cyngor neu anogaeth gyfeillgar arnoch, gallwch drefnu apwyntiad gydag aelod o’n tîm ar amser sy’n gyfleus i chi. Mae gwybodaeth bellach, gan gynnwys sut i wneud apwyntiad, ar gael ar ein tudalen Trefnu Apwyntiad.
Efallai y byddwch yn gallu defnyddio a benthyca eitemau o lyfrgelloedd academaidd eraill yn y DU gan ddefnyddio cynllun SCONUL Access.
Os ydych yn byw yng Nghymru efallai y gallwch gofrestru i ddefnyddio Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Defnyddiwch ein gwasanaeth Angen Rhagor? i ofyn am sganiau o eitemau a gedwir yn ein llyfrgelloedd.
Defnyddiwch ein gwasanaeth Angen Mwy? i archebu eitemau sydd ar gael mewn llyfrgelloedd eraill ond nad ydynt yn cael eu cadw yn PCYDDS.
Os ydych yn ddysgwr o bell cofrestredig ac angen i eitemau gael eu postio atoch, byddwch yn ymwybodol bod tâl bychan am bostio:
Bydd yr arddangosfa hon yn arddangos e-lyfrau o’n casgliadau ar-lein, yn edrych ar themâu amrywiol ac yn dangos llyfrau newydd sydd wedi’u hychwanegu at y casgliadau yn ddiweddar.