Gwasanaethau Digidol » Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu (LLR) » Defnyddio ein Llyfrgelloedd » Lawrlwytho e-lyfrau
Mae gan eich llyfrgell ar-lein filoedd o e-lyfrau sy’n ymdrin ag ystod eang o feysydd pwnc. Os ydych yn chwilio am e-lyfr penodol gallwch ddod o hyd i awduron a theitlau gan ddefnyddiocatalog y llyfrgell.
Gellir darllen y rhan fwyaf o e-lyfrau ar-lein trwy ddefnyddio gliniadur, cyfrifiadur bwrdd gwaith, llechen neu ffôn clyfar.
If using an iPhone, iPad or Mac to read online and the screen remains blank, you may need to allow pop-ups for your browser as iOS devices disable them by default.
Mae’n bosibl lawrlwytho’r rhan fwyaf o’n he-lyfrau i’w darllen all-lein naill ai ar ffurf EPUB neu fformat PDF. I lawrlwytho e-lyfrau i’ch dyfais bydd angen i chi greu ID Adobe a lawrlwytho meddalwedd ychwanegol megis Bluefire Reader ar gyfer llechi a dyfeisiau symudol neu Adobe Digital Editions ar gyfer dyfeisiau eraill. Argymhellir eich bod yn lawrlwytho’r fersiwn ddiweddaraf ar gyfer eich system weithredu.
Diogelir e-lyfrau llyfrgell dan gyfraith hawlfraint yn yr un modd â llyfrau print. Ar gyfer y rhan fwyaf o e-lyfrau rheolir hyn yn awtomatig gan feddalwedd rheoli hawliau digidol (DRM).
Mae faint y gellir ei gopïo neu ei argraffu yn amrywio o’r naill gyhoeddwr i’r llall, ond fel arfer caiff ei arddangos pan fyddwch yn defnyddio pob llyfr. Sylwer: os byddwch yn lawrlwytho e-lyfr bydd y swyddogaethau argraffu a chopïo wedi eu hanalluogi.
Ystod: Casgliad cyffredinol o e-lyfrau sy’n cynnwys ystod eang o bynciau.
Mynediad: gellir darllen ar-lein a lawrlwytho ar gael. Ar y fformat darllen-yn-unig mae’r cyfleuster copïo, argraffu ac arbed yn gyfyngiadau. Mae lawrlwythiadau ar gael am hyd at 7 diwrnod.
Mynediad defnyddiwr ar y pryd: Mae gan y rhan fwyaf o lyfrau ar y llwyfan hon drwyddedau defnyddwyr cyfyngedig.
Y fformatau sydd ar gael: PDF ac EPUB yn dibynnu ar y cyhoeddwr.
Lawrlwytho: Gellir lawrlwytho’r rhan fwyaf o deitlau. Gellir cadw adrannau llyfr ar ffurf PDF a’u harbed am gyfnod amhenodol. Lawrlwythwch ar gyfrifiadur bwrdd gwaith a gliniaduron gan ddefnyddio Adobe Digital Editions. Ar gyfer dyfeisiau symudol Defnyddiwch y Bluefire Reader neu’r ap e-lyfrau EBSCO. Bydd angen i chi greu cyfrif i lawrlwytho llyfrau i’w darllen heb gysylltu. Edrychwch ar dudalennau cymorth EBSCOHost i gael rhagor o wybodaeth.
Mynediad: Mae gan EBSCO nodweddion mynediad amrywiol. I gael rhagor o wybodaeth, gweler Mynediad at e-lyfrau EBSCO; Canllaw Defnyddwyr a Chwestiynau Cyffredin.
Ystod: mynediad llawn i’r casgliadau canlynol – Busnes a Rheoli, Astudiaethau Clasurol, Hanes, Llenyddiaeth, Athroniaeth, Seicoleg a Chrefydd.
Mynediad: Darllen ar-lein a lawrlwytho penodau unigol sydd ar gael. Mae cyfyngiadau hawlfraint yn berthnasol.
Mynediad i ddefnyddwyr ar y pryd: Dim cyfyngiad
Fformatau ar gael: HTML a PDF
Lawrlwytho: Gellir lawrlwytho penodau unigol ar ffurf PDF a’u cadw am gyfnod amhenodol.
Cwmpas: Yn rhannol, caiff teitlau eu prynu’n unigol ond maent yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau.
Mynediad: Darllen ar-lein a chyfleuster lanlwytho ar gael. Mae cyfleuster copïo, argraffu a chadw ar gael ar y fformat darllen-yn-unig ond mae’r cyfyngiadau’n berthnasol. Mae lawrlwythiadau ar gael am hyd at 21 diwrnod.
Mynediad defnyddwyr ar y pryd: Oes, ar gyfer y rhan fwyaf o deitlau. Mae gan rai teitlau gyfyngiadau defnyddwyr ar yr un pryd.
Y fformatau sydd ar gael:
Lawrlwytho: Ydy, mae’n bosibl lawrlwytho llyfrau cyfan am gyfnod o hyd at 21 diwrnod. Gellir cadw adrannau llyfr ar ffurf PDF a’u harbed am gyfnod amhenodol. Mae angen Adobe Digital Editions neu BlueFire Reader ar gyfer lawrlwytho llyfrau EPUB. I gael rhagor o wybodaeth gweler Canllaw ProQuest ebook central.
Dewisiadau mynediad: mae modd mynediad y gall defnyddwyr ei newid eu hunain. I gael rhagor o wybodaeth gweler ProQuest Ebook Central: Mynediad
Stod: Yn rhannol, caiff teitlau eu prynu’n unigol.
Mynediad: Gellir darllen ar-lein a lanlwytho. Argraffu a chopïo’n gyfyngedig ar fformat darllen-yn-unig. Gellir lawrlwytho eitemau ar fformat darllen yn unig am hyd at 3 diwrnod.
Mynediad Defnyddwyr ar y Pryd: Oes, ar gyfer y rhan fwyaf o deitlau. Mae gan rai gyfyngiad nifer defnyddwyr ar yr un pryd.
Y fformatau sydd ar gael: Darllen ar-lein, neu lawrlwytho ar ffurf PDF neu EPUB.