Mae teithiau o amgylch ein llyfrgelloedd yng Nghaerfyrddin, Llambed ac Abertawe ar gael drwy gydol y flwyddyn i fyfyrwyr unigol a grwpiau o hyd at 15. Mae rhagor o wybodaeth am deithiau a sut i archebu ar gael isod.
Mae teithiau llyfrgell yn ymdrin ag agweddau sylfaenol ar ddefnyddio’r llyfrgelloedd, a benthyca eitemau corfforol. Bydd angen i fyfyrwyr newydd fynychu sesiwn Sgiliau Gwybodaeth Hanfodol a sesiwn Cyfeirnodi yn ystod eu tymor cyntaf, a ddarperir gan eu Llyfrgellydd Cyswllt Academaidd. Mae gwybodaeth bellach am hyn ar gael ar ein tudalennau Sgiliau Gwybodaeth a gellir bwcio’r sesiynau hyn drwy gysylltu ag infoskills@uwtsd.ac.uk. Cysylltwch a ni trwy’r swigen Sgwrsio a’r Llyfrgell ar y dudalen hon os oes genych unrhyw gwestiynau. Edrychwn ymlaen at eich groesawu i’n llyfrgelloedd!