chat loading...
Interior of a library with shelves filled with books, a round table surrounded by wooden chairs, and a desk with computer keyboards, monitors, and a bottle of hand sanitizer on the table.

Adnoddau Ar-lein y Llyfrgell a Hygyrchedd i’r We

Mae’r Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu wedi ymrwymo i ddarparu adnoddau ar-lein sy’n hygyrch i’n holl ddefnyddwyr.

Ein nod yw darparu adnoddau sy’n bodloni neu’n rhagori ar lefel AA Canllawiau W3C ar Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) 2.2 ac sydd bellach yn cynnwys asesiad o hygyrchedd fel arfer safonol wrth brynu adnoddau newydd.

Mae ein casgliadau digidol yn cael eu lletya gan gyhoeddwyr trydydd parti ar eu platfformau eu hun ar y we sy’n cael eu datblygu’n annibynnol.   Mae llawer o gyhoeddwyr yn blaenoriaethu hygyrchedd digidol ac mae ganddynt eu datganiadau hygyrchedd eu hun.

Interior of a library with shelves filled with books, a round table surrounded by wooden chairs, and a desk with computer keyboards, monitors, and a bottle of hand sanitizer on the table.

Os byddwch yn cael unrhyw broblemau’n gysylltiedig â hygyrchedd adnoddau neu wasanaethau ein llyfrgell ar-lein, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau cyffredinol cysylltwch â ni yn library@uwtsd.ac.uk.

Mae miloedd o e-Lyfrau yn ein llyfrgell ar-lein gan amrywiaeth o gyflenwyr cynnwys gwahanol sydd â safonau hygyrchedd gwahanol.  I ddod o hyd i e-Lyfrau penodol, gallwch ddod o hyd i deitlau ac awduron gan ddefnyddio catalog y llyfrgell a gweld eu datganiadau hygyrchedd lle y maent ar gael.

Fel arfer, cynigir e-Lyfrau mewn dau fformat, gan ddibynnau ar ddewisiadau’r cyhoeddwr:

  • Mae EPUB yn fformat seiliedig ar HTML sy’n cefnogi testun sy’n ail-lifo.  Pan fydd defnyddwyr yn newid maint eu porwr neu’n cyrchu’r llyfr ar ddyfais lai fel ffôn neu dabled, bydd y testun yn addasu’n awtomatig i faint y sgrin.   Yn ogystal, gall defnyddwyr addasu maint y ffont ar gyfer y rhan fwyaf o e-Lyfrau o fewn dewislen y darllenydd EPUB.
  • Fformat seiliedig ar ddelweddau yw PDF sy’n cadw golwg a theimlad llyfr printiedig.  Mae gan y llyfr nifer benodol o dudalennau gyda lled sefydlog.   Efallai na fydd y llyfrau’n arddangos yn dda ar ddyfeisiau llai a bydd angen i chi chwyddo’r testun er mwyn ei weld.

Weithiau, mae eitemau na fyddant yn bodloni’r meini prawf hygyrchedd sydd y tu allan i reolaeth y cyhoeddwr neu’r llwyfan.  Er enghraifft:

  • Efallai na fydd rhai e-Lyfrau yn caniatáu chwyddo neu gynyddu maint y ffont
  • Efallai na fydd gan rai e-Lyfrau ddelweddau gyda thestun amgen
  • Efallai fydd rhai e-Lyfrau’n cynnwys testun mewn iaith wahanol i brif iaith yr e-Lyfr.

Os ydych yn cael anawsterau gyda hygyrchedd ein he-Lyfrau, rhowch wybod i library@pcydds.ac.uk a byddwn yn cysylltu â’r darparwr cynnwys.

Primo gan Ex Libris sy’n gyrru Catalog y Llyfrgell.  Mae Primo yn cydymffurfio’n rhannol â lefel AA Canllawiau’r WAI ar Hygyrchedd Cynnwys y We 2.1.   Ceir gwybodaeth fanwl bellach yn Adroddiad Cydymffurfiaeth Hygyrchedd Primo.

Mae ein Rhestrau Adnoddau Ar-lein yn cael eu gyrru gan Leganto gan Ex Libris.  Mae Leganto yn cydymffurfio’n rhannol â lefel AA Canllawiau’r WAI ar Hygyrchedd Cynnwys y We 2.1.  Ceir gwybodaeth fanwl bellach yn Adroddiad Hygyrchedd Cynnyrch Leganto.

Mae RefWorks yn cydymffurfio’n rhannol â lefel AA Canllawiau’r WAI ar Hygyrchedd Cynnwys y We 2.1.  Ceir gwybodaeth fanwl bellach yn y Canllaw Hygyrchedd RefWorks ac yr Adroddiad Hygyrchedd Cynnyrch RefWorks.

Mae RefWorks yn offeryn rheoli, ymchwil  ysgrifennu a chydweithredu ar-lein sydd wedi’i gynllunio er mwyn helpu i ymchwilio, casglu, rheoli, storio a rhannu pob math o wybodaeth yn hawdd, yn ogystal â chynhyrchu dyfyniadau a llyfryddiaethau.

Mae’r Gadwrfa Ymchwil yn cynnwys papurau ymchwil testun llawn, erthyglau cyfnodolion, penodau llyfrau a thraethodau ymchwil a ysgrifennwyd gan staff a myfyrwyr y Brifysgol yn ogystal â data ymchwil.

Mae Polisi’r Brifysgol yn annog ymchwilwyr i sicrhau bod eu gwaith ar gael ar-lein, yn rhad ac am ddim i’r darllenydd, cyn gynted â phosibl ar ôl ei gyhoeddi.

Mae Cadwrfa Ymchwil y Brifysgol wedi’i phweru gan Eprints. Gellir dod o hyd i ddatganiadau hygyrchedd ar gyfer y Gadwrfa Ymchwil yn y Datganiad Hygyrchedd ar gyfer y Gadwrfa Ymchwil.

Sylwer, efallai, na fydd dogfennau hŷn ar gael mewn fformat hygyrch. Os ydych eisiau gwneud cais am gopi hygyrch o unrhyw ddogfen a gedwir yn ein Cadwrfa Ymchwil, cysylltwch ag openaccess@ppcydds.ac.uk.

Dylai ein tudalennau gadw at ganllawiau hygyrchedd PCYDDS.

Offer Hygyrchedd sydd Ar Gael i Bawb

Mae gan lawer o borwyr a chymwysiadau nodweddion hygyrchedd mewnol i helpu i wella profiad y defnyddiwr.