chat loading...
Three people sitting at a wooden table in a library with laptops, surrounded by shelves filled with books, two women and one man engaged in working and smiling.

Llyfrgell Caerfyrddin

Mae’r Llyfrgell wedi’i lleoli gyferbyn â Bloc Parry ac Undeb y Myfyrwyr ar Gampws Caerfyrddin, ac mae modd ei chyrraedd o’r Cwad ac adeilad Carwyn James hefyd. Cafodd ei hadnewyddu’n ddiweddar er mwyn darparu amgylchedd dysgu mwy deniadol a modern i fyfyrwyr a staff ar y campws.​

Three people sitting at a wooden table in a library with laptops, surrounded by shelves filled with books, two women and one man engaged in working and smiling.
Three women seated at a wooden table in a modern, bright library with white walls and large windows, working on laptops and reading papers, surrounded by bookshelves and overlooking a lower floor seating area.

Mannau Astudio

Llawr Mesanîn (24)
Llawr Gwaelod (25)

Modern library interior with wooden desks equipped with computers, white swivel chairs, gray carpet, and green upholstered couch, surrounded by bookshelves filled with colorful books.

Cyfrifiaduron Mynediad Agored

Llawr Gwaelod (8)

Modern library interior with large windows, featuring green and gray sofas, a green and a yellow armchair, and bookshelves on the left side under a mezzanine, with colorful abstract mountain paintings on the wall.

Seddi Meddal

Llawr Gwaelod (16)

P’un ai eich bod yn chwilio am lyfr ar bwnc penodol, neu ryw fan penodol yn y llyfrgell (h.y. ystafell astudio neu ble i ddod o hyd i argraffwyr).

Mae Stackmap ar gyfer Llyfrgell Caerfyrddin isod

UWTSD Carmarthen Library Map
  • Mae modd cyrraedd y brif fynedfa drwy ddefnyddio ramp.
  • Mynediad drwy lifft i’r llawr cyntaf.
  • Mae ein casgliad o lyfrau wedi’i leoli ar y llawr gwaelod a’r llawr cyntaf.
  • Mae ein casgliad o gyfnodolion wedi’i leoli ar y llawr gwaelod.
  • Mae desg ymholiadau’r llyfrgell a’r peiriant hunanwasanaeth wedi’u lleoli ar y llawr gwaelod.
  • Mae blwch ar gyfer dychwelyd llyfrau wedi’i leoli y tu allan i’r fynedfa i gyntedd y llyfrgell.
  • Mae gofod arddangos yng nghyntedd y llyfrgell ar gyfer dangos gwaith myfyrwyr, arddangoswyr allanol, ac eitemau o’n casgliadau arbennig a’n harchifau.

Ymwelwyr: Mynediad i adnoddau ar-lein trwy alw i mewn 

  • Gall staff a myfyrwyr o brifysgolion eraill neu aelodau o’r cyhoedd ddefnyddio detholiad cyfyngedig o’n hadnoddau ar-lein.

Mae teithiau o gwmpas ein llyfrgell yng Nghaerfyrddin ar gael trwy gydol y flwyddyn i ddefnyddwyr unigol a grwpiau o hyd at 15. Mae rhagor o wybodaeth am deithiau a sut i archebu lle ar gael isod.
  • Dylid archebu lle ar daith o leiaf dri diwrnod ymlaen llaw gan ddefnyddio’r ffurflen archebu lle ar deithiau llyfrgell.
  • Dim mwy na 15 o fyfyrwyr fesul taith.
  • Bydd pob taith yn cymryd tua 30 munud.
  • Mae teithiau llyfrgell yn ymdrin ag agweddau hanfodol o ddefnyddio’r llyfrgell, a benthyca eitemau corfforol.