Gwasanaethau Digidol » Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu (LLR) » Myfyrwyr Partneriaeth a Benthycwyr Allanol
Caiff myfyrwyr mewn sefydliadau partner fynediad i rai o’r e-adnoddau y mae’r Brifysgol yn tanysgrifio iddynt, pan ganiateir hynny dan gytundebau trwyddedu. Mae’r e-adnoddau hyn yn rhoi mynediad i ystod eang o e-lyfrau, e-gylchgronau, cronfeydd data arbenigol, papurau newydd ar-lein a rhagor. Dylai myfyrwyr partneriaid gysylltu â’u sefydliad cartref i gael manylion mynediad ac am gymorth wrth ddefnyddio’r adnoddau hyn.
Defnyddiwch ein Llyfrgell Ar-lein gyda’ch cyfrif TG yn y Drindod Dewi Sant.
Mae’n bosibl cael mynediad i’r adnoddau isod drwy fanylion mewngofnodi a chyfrinair gwahanol. Caiff myfyrwyr y manylion mewngofnodi gan y gwasanaeth llyfrgell yn eu sefydliad cartref. Sylwer ei bod yn bosibl nad oes mynediad gan bob partneriaeth i’r adnoddau hyn.
Mae’r gronfa ddata amlddisgyblaethol hon yn darparu erthyglau testun llawn ar gyfer mwy na 4,600 o gylchgronau, yn cynnwys testun llawn ar gyfer bron iawn 3,900 o deitlau wedi’u hadolygu gan gymheiriaid. Mae ôl-ffeiliau ar ffurf PDF ar gael hyd 1975 neu ymhellach ar gyfer ymhell dros gant o gylchgronau, a darperir cyfeiriadau dyfynedig chwiliadwy am fwy na 1,000 o deitlau.
Cronfa ddata ysgolheigaidd ddiffiniol ym maes busnes, sy’n darparu casgliad blaenllaw o gynnwys llyfryddol a thestun llawn. Mae’r gronfa ddata yn un gynhwysfawr gan gynnig mynegeion a chrynodebau ar gyfer y cylchgronau ysgolheigaidd pwysicaf ym maes busnes mor bell yn ôl â 1886. Hefyd darperir cyfeiriadau dyfynedig chwiliadwy ar gyfer mwy na 1,300 o gylchgronau.
Education Source yw’r adnodd ar-lein mwyaf awdurdodol ar gyfer ymchwil addysg. Mae’n cynnig casgliad mwyaf a mwyaf cyflawn y byd o gylchgronau addysg â thestun llawn. Mae’r pynciau dan sylw yn cynnwys addysg ar bob lefel o blentyndod cynnar i addysg uwch, a phob arbenigedd addysgol, megis addysg amlieithog, addysg iechyd, a phrofion.
Mae Hospitality & Tourism Complete yn cwmpasu ymchwil ysgolheigaidd a newyddion y diwydiant yn gysylltiedig â phob maes o fewn lletygarwch a thwristiaeth. Mae’r casgliad hwn yn cynnwys mwy na 828,000 o gofnodion, gan ddyddio’n ôl mor bell â 1965. Mae testun llawn ar gyfer mwy na 490 o gyhoeddiadau, gan gynnwys cylchgronau, adroddiadau cwmnïau a gwledydd a llyfrau.
Bwriad Humanities Source yw diwallu anghenion myfyrwyr, ymchwilwyr ac addysgwyr sydd â diddordeb ymhob agwedd ar y dyniaethau. Mae Humanities Source yn cynnig cynnwys byd-eang yn gysylltiedig â’r meddylfryd llenyddol, ysgolheigaidd a chreadigol.
Mae Religion and Philosophy Collection yn darparu deunydd helaeth yn gysylltiedig â phynciau megis crefyddau’r byd, prif enwadau, astudiaethau Beiblaidd, hanes crefyddol, epistemoleg, athroniaeth wleidyddol, athroniaeth iaith, athroniaeth foesol a hanes athroniaeth.
SPORTDiscus with Full Text yw ffynhonnell fwyaf cynhwysfawr y byd ar gyfer cylchgronau testun llawn ym meysydd chwaraeon a meddygaeth chwaraeon, gan ddarparu testun llawn ar gyfer 550 o gylchgronau sydd wedi’u mynegeio yn SPORTDiscus. Mae’r ffeil awdurdodol hon yn cynnwys testun llawn ar gyfer llawer o’r cylchgronau ym mynegai SPORTDiscus sy’n cael eu defnyddio fwyaf – heb unrhyw embargo. Mae’n cynnwys erthyglau testun llawn yn dyddio’n ôl i 1985, a SPORTDiscus with Full Text yw’r offeryn ymchwil diffiniol ar gyfer pob maes o fewn llenyddiaeth chwaraeon a meddygaeth chwaraeon.
Busnes, Rheolaeth a Masnach – erthyglau cyfnodolion ysgolheigaidd a masnach, traethodau hir, adroddiadau marchnad, adroddiadau diwydiant, achosion busnes a newyddion byd-eang a masnach.
Llenyddiaeth, athroniaeth, hanes, gwyddoniaeth, y celfyddydau cain, cerddoriaeth, drama, archaeoleg a phensaernïaeth a’r gwyddorau cymdeithasol – erthyglau cyfnodolion.
Archifau cyfnodolion ysgolheigaidd testun llawn o’r celfyddydau, y dyniaethau a’r gwyddorau cymdeithasol.
Daw’r adnodd hwn â chronfeydd data cyflawn at ei gilydd ar draws yr holl brif feysydd pwnc, gan gynnwys Busnes, Iechyd a Meddygol, Gwyddorau Cymdeithasol, Addysg, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, a’r Dyniaethau.
Cynnwys llawn cylchgronau Vogue (cyfrol yr UD) mewn delwedd tudalen lliw llawn, i’r rhifyn cyntaf yn 1892 i’r presennol, gyda diweddariadau misol ar gyfer rhifynnau newydd.
Gall myfyrwyr partneriaeth a benthycwyr allanol fenthyca eitemau gan lyfrgelloedd Y Drindod Dewi Sant trwy gynlluniau’r Pasbort Llyfrgelloedd Ynghyd neu Fynediad SCONUL.
Mae’r Cynllun Pasbort Llyfrgelloedd Ynghyd yn galluogi unrhyw aelodau o wasanaethau llyfrgelloedd cyhoeddus Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Powys a Sir Benfro i fenthyca gan unrhyw un o’r sefydliadau a restrir yma.
I ymuno â’n llyfrgelloedd, bydd angen i chi lenwi ffurflen Pasbort Llyfrgelloedd Ynghyd, sydd ar gael gan eich llyfrgell gyhoeddus leol neu yn y ddolen uchod. Ar ôl ei llenwi, gallwch gyflwyno’r ffurflen yn Nesg Gymorth unrhyw un o’n llyfrgelloedd a chaiff cyfrif benthyciwr llyfrgell ei greu ar eich cyfer chi.
Gall defnyddwyr Pasbort Llyfrgell a defnyddwyr mynediad SCONUL fenthyca hyd at 5 eitem.
Caiff eitemau eu rhoi am 1 wythnos a byddant yn cael eu hadnewyddu’n awtomatig am hyd at 1 flwyddyn, oni bai bod cwsmer llyfrgell arall wedi gofyn amdano.
Gellir cael mynediad at yr adnoddau canlynol gyda manylion mewngofnodi a chyfrinair ar wahân. Gall myfyrwyr gael manylion mewngofnodi gan y gwasanaeth llyfrgell yn eu sefydliad cartref. Noder nad oes gan bob partneriaeth fynediad at yr adnoddau hyn o bosibl.
ACM Digital Library yw’r gadwrfa testun llawn o bapurau o gyhoeddiadau sydd wedi’u cyhoeddi, eu cyhoeddi ar y cyd, neu’u marchnata ar y cyd gan yr Association for Computing Machinery ac mae’n cynnwys cylchgronau, trafodion cynadleddau, cylchgronau technegol, newyddlenni a llyfrau.
Testun llawn chwiliadwy o fwy nag 800 o lyfrau mewn nifer o feysydd hanes. Mae’r rhain yn weithiau sydd o bwysigrwydd mawr i astudiaethau hanesyddol a chyfeirir atynt yn aml.
Mwy nag 1.2 miliwn o luniau o amgueddfeydd, orielau, casgliadau preifat ac artistiaid cyfoes.
Mae’n darparu mynediad at New Jacoby, Jacoby Online (Fragmente der Griechischen Historiker), New Pauly (gwyddoniadur y byd clasurol) a’r Supplementum Epigraphicum Graecum ar-lein (catalog o arysgrifau newydd sydd wedi’u cyhoeddi).
Casgliad digidol sylweddol o bapurau newydd hanesyddol Prydain.
Mae’n cynnwys lluniau ffacsimili digidol o dudalennau bron iawn pob gwaith a argraffwyd yn Lloegr, Iwerddon, yr Alban, Cymru a Gogledd America Brydeinig, ynghyd â gweithiau yn Saesneg a argraffwyd mewn lleoedd eraill o 1473 – 1700 – o’r llyfr cyntaf a argraffwyd yn Saesneg gan William Caxton, drwy oes Spenser a Shakespeare a chythrwfl Rhyfel Cartref Lloegr.
Mae’n darparu mynediad testun llawn i lenyddiaeth dechnegol o safon orau’r byd ym meysydd peirianneg drydanol, cyfrifiadureg, ac electroneg.
Mae’n rhoi mynediad i luniau lliw chwiliadwy o 65,000 o eitemau yng Nghasgliad John Johnson o Effemera Argraffedig yn Llyfrgell Bodley, gan roi cipolwg unigryw ar natur gyfnewidiol bywyd pob dydd yn y ddeunawfed ganrif, y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac ar ddechrau’r ugeinfed ganrif.
Gwasanaeth archifo cyfnodolion testun llawn sy’n rhoi mynediad i ôl-rifynnau’r holl gyfnodolion ysgolheigaidd sydd ar gael yn gyfredol yn JSTOR. Ni chynhwysir rhifynnau diweddar, fel arfer y 3-5 mlynedd ddiwethaf.
Mae’n rhoi mynediad i bapurau newydd cenedlaethol, rhanbarthol a lleol o Brydain yn ystod y 19eg Ganrif.
Mynediad at filoedd o erthyglau o gyfnodolion a llyfrau a gyhoeddwyd gan Elsevier ar bynciau megis y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg, Gwyddorau Bywyd, Gwyddorau Iechyd a’r Gwyddorau Cymdeithasol a’r Dyniaethau.
Mae’n rhoi mynediad i’r papurau newydd a’r pamffledi newyddion a gasglwyd gan y Parchedig Charles Burney (1757-1817).
Yr archif ddigidol gyflawn o The Times (Llundain).
Bydd angen i ddefnyddwyr gofrestru i ddefnyddio’r gwasanaeth. Dewch ag un o’r dulliau adnabod canlynol gyda chi:
Wedi i chi gofrestru fe gewch fynediad i’r eAdnoddau. Sylwch y gallwch chwilio am gynnwys o fewn adnoddau unigol yn unig, nid y gwasanaeth cyfan.
Ni chewch: