chat loading...

Cyhoeddi Mynediad Agored

Cyhoeddi Mynediad Agored yw’r broses o drefnu bod cyfathrebiadau ysgolheigaidd ar gael yn rhwydd ac i’w hailddefnyddio er mwyn i unrhyw un allu cael budd o ymchwil.    Fel ymchwilydd yn y Brifysgol, gallwch wneud gwahaniaeth drwy rannu’ch gwaith yn agored.

Gweithredu yn sgil Derbyn

Adneuwch eich Llawysgrif Awdur a Dderbyniwyd derfynol yn ein Cadwrfa Mynediad Agored cyn gynted â phosibl ar ôl i erthygl cyfnodolyn, papur cynhadledd, monograff neu bennod mewn llyfr o’ch gwaith chi gael ei derbyn i’w chyhoeddi, a helpu i sicrhau bod eich gwaith yn cydymffurfio â pholisïau mynediad agored y REF a chyllidwyr.

Cewch fwy o wybodaeth yn ein canllawiau Mynediad Agored:

Two lowercase letter 'c's inside a black circle, representing the Creative Commons logo

Trwyddedau Creative Commons

Mae Creative Commons yn sefydliad rhyngwladol di-elw sy’n galluogi rhannu a defnyddio creadigrwydd a gwybodaeth drwy offer cyfreithiol rhad ac am ddim. Mae eu trwyddedau hawlfraint yn darparu ffordd syml, safonol o roi caniatâd i’r cyhoedd rannu a defnyddio gwaith creadigol - ar amodau a ddewisir gan y crëwr.

Person with dark hair and glasses wearing a burgundy sweater typing on a laptop at a desk with a notebook, pen, and water bottle near a window.

Cadw Hawliau

Mae Cadw Hawliau yn fenter dan arweiniad cyllidwyr i alluogi ymchwilwyr i gyhoeddi mewn cyfnodolion tanysgrifio a chadw eu hawl i hunan-adneuo eu llawysgrif mewn cadwrfa Mynediad Agored heb embargo.