Mae Cadw Hawliau yn fenter dan arweiniad cyllidwyr i alluogi ymchwilwyr i gyhoeddi mewn cyfnodolion tanysgrifio a chadw eu hawl i hunan-adneuo eu llawysgrif mewn cadwrfa Mynediad Agored heb embargo. I hwyluso hyn, dylid ychwanegu datganiad cadw hawliau at eich llawysgrif wrth ei chyflwyno:
At ddiben Mynediad Agored, mae’r awdur wedi cymhwyso Trwydded Priodoliad Creative Commons (CC-BY) i unrhyw fersiwn Llawysgrif Awdur a Dderbyniwyd sy’n deillio o’r cyflwyniad hwn.
Mae cOAlition S wedi trefnu bod templedi llythyrau eglurhaol ar gael i awduron sy’n dymuno ceisio eglurder gan gyhoeddwyr ar gadw hawliau cyn adolygiad gan gymheiriaid.
Mae’r Brifysgol yn cynghori ymchwilwyr i ddefnyddio cadw hawliau ar bob cyhoeddiad ymchwil a gyllidwyd i sicrhau cydymffurfio â pholisi mynediad agored cyllidwyr. Mae defnyddio’r testun cadw hawliau’n golygu eich bod chi fel awdur wedi cymhwyso trwydded CC BY i’r llawysgrif a dderbyniwyd – wedyn i gyd mae angen i chi ei wneud yw ei chyflwyno i Gadwrfa Ymchwil y Drindod Dewi Sant. Os nad yw’r drwydded CC BY yn ei lle adeg cyflwyno’r papur, mae risg na fydd yn cydymffurfio â pholisi’r cyllidwr.
Mae’r cyllidwyr canlynol yn sôn am gadw hawliau, gweler eu tudalen cyllidwyr am wybodaeth ynghylch eu gofynion:
Mae peth o’r wybodaeth ar y dudalen hon wedi’i haddasu o Brifysgol Rhydychen dan drwydded Creative Commons Priodoliad 3.0 Heb ei Addasu (CC BY 3.0). Cynnwys gwreiddiol yn: Cadw hawliau (ox.ac.uk).