Gwasanaethau Digidol » Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu (LLR) » Mynediad Agored ac Ymchwil » Cyhoeddi Mynediad Agored » Canllawiau hyfforddi a Chwestiynau Cyffredin » Cwestiynau Cyffredin a Rhestr Termau
Ydy. Dylai holl awduron y Drindod Dewi Sant nodi er mwyn bod yn gymwys i gyflwyno i’r REF, rhaid i’r llawysgrif a dderbyniwyd ar gyfer erthyglau a phapurau cynhadledd gael ei lanlwytho i’r Gadwrfa Ymchwil yn sgil cael ei derbyn, a rhaid trefnu ei gwneud yn fynediad agored o fewn cyfnod penodol. Am ei bod yn debygol y bydd cyhoeddiadau ffurf hir yn cael eu cynnwys ym mholisi Mynediad Agored y REF yn y dyfodol, gofynnwn hefyd i ymchwilwyr adneuo eu llawysgrif ar gyfer penodau llyfrau a monograffau.
Mynediad Agored aur yw pan fydd y cyhoeddwr yn trefnu bod y gwaith gwreiddiol â mynediad agored, weithiau am ffi (‘Tâl Prosesu Erthyglau’ neu APC).
Mynediad Agored gwyrdd yw pan fydd awduron yn archifo copi o’u gwaith mewn cadwrfa annibynnol, megis Cadwrfa Ymchwil y Drindod Dewi Sant.
Mae Mynediad Agored Efydd yn cael ei ddefnyddio weithiau i gyfeirio at gyhoeddi lle mae’r gwaith cyhoeddedig gwreiddiol ar gael i’w ddarllen yn rhad ac am ddim, ond nid oes esboniad eglur o delerau’r drwydded i gwmpasu rhannu ac ailddefnyddio. Nid yw’r model hwn yn cydymffurfio â pholisïau’r rhan fwyaf o gyllidwyr.
Mae Mynediad Agored Diemwnt neu Blatinwm yn cael ei ddefnyddio weithiau i gyfeirio at gyhoeddi lle mae’r gwaith gwreiddiol yn cael ei gyhoeddi’n agored â thrwydded sy’n cwmpasu ailddefnyddio ac ni chodir ffioedd ar yr awdur. Yn yr achos hwn, bydd incwm fel arfer yn dod drwy ffynonellau amgen megis hysbysebu gan y cyhoeddwr neu gronfeydd y Brifysgol. Fel arfer mae’r model hwn yn cydymffurfio â pholisïau cyllidwyr.
Mae’r llwybr gwyrdd i Fynediad Agored yn canolbwyntio ar hunan-archifo copïau o weithiau a adolygwyd gan gymheiriaid yng Nghadwrfa Ymchwil Mynediad Agored y Drindod Dewi Sant. Gall ymchwilwyr adneuo copïau o’u llawysgrifau a dderbyniwyd yn y Gadwrfa, a byddant yn dod ar gael yn agored ac yn ddirwystr ar y we. Mae hyn yn gallu helpu ymchwilwyr i gydymffurfio â pholisïau’r REF a chyllidwyr ac nid oes rhaid i’r Brifysgol dalu ffi cyhoeddwr.
Mae Sherpa yn cynnwys polisïau cyffredinol cyhoeddwyr ynghylch hunan-archifo erthyglau cyfnodolion a rhai cyfresi cynadleddau, gan gynnwys pa fersiwn o erthygl y mae modd ei adneuo, lle gellir ei adneuo, ac unrhyw amodau sy’n gysylltiedig â’r adneuo.
Hefyd mae modd defnyddio’r Offeryn Gwirio Cyfnodolion i gymharu polisïau Mynediad Agored cyfnodolion â pholisïau Mynediad Agored cyllidwyr.
Mae ORCID (Rhif Adnabod Agored Ymchwilwyr a Chyfranwyr) yn god adnabod ymchwilydd unigryw a ddefnyddir yn fyd-eang ac y byddwch yn ei gadw ar hyd eich oes, hyd yn oed os byddwch yn symud i sefydliad arall. Mae ORCID yn angenrheidiol ar gyfer ceisiadau grant i’r Wellcome Trust ac argymhellwn yn gryf i ymchwilwyr ychwanegu eu rhif ORCID at unrhyw gyhoeddiadau a adneuir yng Nghadwrfa Ymchwil y Drindod Dewi Sant.
Mae Creative Commons yn sefydliad di-elw sy’n galluogi rhannu a defnyddio creadigrwydd a gwybodaeth drwy offer cyfreithiol rhad ac am ddim. Mae eu trwyddedau hawlfraint yn darparu ffordd syml, safonol o roi caniatâd i’r cyhoedd rannu a defnyddio gwaith creadigol – ar amodau a ddewisir gan y crëwr. Rhagor o wybodaeth a chyfarwyddyd ynghylch dewis trwydded.
Mae’r Drindod Dewi Sant yn tanysgrifio i nifer o gytundebau cyhoeddwyr cenedlaethol er mwyn caniatáu i ymchwilwyr gyhoeddi â Mynediad Agored. Os nad yw’r cyfnodolyn neu fonograff rydych yn ei gyhoeddi wedi’i gynnwys mewn cytundeb sydd eisoes yn ei le, nid oes cyllid gan y Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu i dalu am ffioedd Mynediad Agored megis Taliadau Prosesu Erthyglau (APCs) neu Daliadau Prosesu Llyfrau (BPCs). Os ydy’ch ymchwil yn cael ei gyllido efallai byddwch yn gymwys i ddefnyddio rhan o’ch grant tuag at y taliadau hyn yn ddibynnol ar bolisi eich cyllidwr: mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen Polisïau Cyllidwyr. Os nad ydy’ch ymchwil yn cael ei gyllido argymhellwn i chi drefnu bod eich erthygl ar gael drwy’r llwybr Mynediad Agored gwyrdd drwy adneuo yn y Gadwrfa Ymchwil.
Mae Mynediad Agored yn cwmpasu amrywiaeth o elfennau megis pwy yw’r darllenwyr, ail-ddefnyddio, hawlfraint, postio a’r gallu i ddarllen testun gan beiriant. O fewn y meysydd hyn, mae cyhoeddwyr ac asiantaethau cyllido wedi dilyn llawer o bolisïau gwahanol, rhai ohonynt yn fwy agored a rhai’n llai agored. Er enghraifft, mae polisi sy’n caniatáu i unrhyw un ddarllen erthygl yn rhad ac am ddim chwe mis ar ôl iddi gael ei chyhoeddi yn fwy agored na pholisi sy’n creu embargo o ddeuddeg mis; mae hefyd yn llai agored na pholisi sy’n caniatáu darllen erthygl yn rhad ac am ddim yn syth ar ôl ei chyhoeddi. Gellid dweud bod hyn hefyd yn berthnasol i gynllun trwyddedu Creative Commons: mae CC-BY yn caniatáu i’r darllenydd wneud llawer mwy, dyweder, na CC BY-NC-SA neu drwydded â’r cymal ND (dim deilliadau).
Defnyddir amrywiaeth o dermau i gyfeirio at wahanol fersiynau o bapur (neu lawysgrif) awdur. Mae’r rhai mwyaf cyffredin a ddefnyddir fel a ganlyn:
Mae Pecyn Cymorth Fersiynau y LSE yn ddefnyddiol er mwyn deall gwahanol fersiynau papurau ac mae ganddo gyngor da i awduron.
Mae Plan S yn fenter ar gyfer cyhoeddi Mynediad Agored a lansiwyd ym mis Medi 2018. Yn ôl Plan S mae’n ofynnol, o 2021, fod cyhoeddiadau gwyddonol sy’n deillio o ymchwil a gyllidir gan grantiau cyhoeddus yn cael eu cyhoeddi mewn cyfnodolion neu ar blatfformau â Mynediad Agored sy’n cydymffurfio. Mae cOAlition S yn gonsortiwm rhyngwladol o sefydliadau sy’n cyllido ymchwil a rhai sy’n gweithredu ymchwil.
Mae taliadau tudalen yn wahanol i Daliadau Prosesu Erthyglau (APCs) ac yn talu am gost argraffu erthygl mewn cyfnodolyn printiedig traddodiadol. Tra bydd y rhan fwyaf o gyfnodolion ar-lein yn caniatáu cynnwys delweddau heb gostau ychwanegol, gall rhai cyhoeddiadau hefyd godi ffi i gwmpasu cost argraffu delweddau mewn lliw yn yr argraffiad printiedig. Ni fydd y rhan fwyaf o gyllidwyr ymchwil yn talu am gost y taliadau hyn.
Na fyddwch: Bydd y Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu yn adolygu pob eitem a gyflwynir i’r Gadwrfa ac yn gwirio polisïau cyhoeddwyr cyn trefnu bod eich llawysgrif ar gael. Bydd y rhan fwyaf o gyfnodolion yn caniatáu adneuo copi o erthygl yng Nghadwrfa Mynediad Agored y Brifysgol.
Gallai fod amod megis cyfnod embargo (er enghraifft, gellir rhyddhau copi’r Gadwrfa Mynediad Agored 6 mis ar ôl ei gyhoeddi’n unig). Yn ganllaw bras, mae cyhoeddwyr yn caniatáu i’r Llawysgrif Awdur a Dderbyniwyd (AAM) h.y. y fersiwn terfynol a gyflwynwyd yn cynnwys pob newid yn sgil ei adolygu gan gymheiriaid, gael ei lledaenu drwy’r Gadwrfa Mynediad Agored, ond nid y fersiwn cyhoeddedig gyda gwaith fformatio’r cyfnodolyn.
Mae Sherpa yn darparu gwybodaeth am bolisïau Mynediad Agored cyhoeddwyr a gofynion cyllidwyr i wirio sefyllfa’r cyfnodolyn o’ch dewis. Argymhellwn yn gryf eich bod yn gwirio polisi’r cyfnodolyn ei hun (fel arfer i’w weld dan ‘I Awduron’ neu rywbeth tebyg) i sicrhau bod unrhyw embargo yn cydymffurfio â pholisïau’r REF a chyllidwyr. Gofynnwch i’r Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu am help yn openaccess@uwtsd.ac.uk os ydych yn ansicr.
Yn aml mae fersiwn y cyhoeddwr (sef y Fersiwn a Gofnodwyd, neu VoR) o’ch gwaith dan hawlfraint i’r cyhoeddwr ac ni ellir ei adneuo yn rhywle arall. Byddai hyn yn cynnwys safleoedd y cyfryngau cymdeithasol megis ResearchGate a Chadwrfa Ymchwil y Drindod Dewi Sant. Argymhellwn eich bod yn adneuo eich Llawysgrif Awdur a Dderbyniwyd derfynol yn lle hynny. Os ydych wedi cyhoeddi drwy unrhyw un o’r llwybrau mynediad agored a wnaed gan gyhoeddwr (Aur neu Hybrid) gallwch adneuo fersiwn terfynol eich ymchwil pan fydd y drwydded yn caniatáu hyn.
Oes, dylech adneuo’r Llawysgrif Awdur a Dderbyniwyd yn y Gadwrfa Ymchwil, hyd yn oed os ydych hefyd yn adneuo mewn cadwrfeydd eraill megis ArXiv, EuropePMC ac ati. Nid yw safleoedd eraill o reidrwydd yn bodloni gofynion polisi’r REF o ran metadata (e.e. casglu’r dyddiad y cafodd yr erthygl ei derbyn, sy’n ofynnol yn rhan o’r cyflwyniad i’r REF) neu ofynion mynediad agored polisïau cyllidwyr. At hynny, gall adneuo yn y Gadwrfa Ymchwil roi hwb i natur ganfyddadwy eich ymchwil ac mae’n darparu fersiwn rheoledig mewnol o’ch ymchwil a fydd yn sicrhau cydymffurfio â chyllidwyr os bydd anhawster gyda fersiwn y cyhoeddwr.
Os ydych yn postio llawysgrif sydd wedi’i derbyn ar arXiv neu weinydd rhagargraffiadau arall, labelwch hi felly, er enghraifft yn y Sylwadau neu’r Nodiadau os nad oes maes penodol am y ‘fersiwn’: ‘Llawysgrif sydd wedi’i Derbyn’, ‘Derbyniwyd i’w chyhoeddi yn [Teitl y Cyfnodolyn] ar [ddyddiad]’)
Os ydy mynediad agored yn Europe PMC yn ofynnol gan eich cyllidwr, yn fwy na thebyg bydd angen i chi adneuo’r llawysgrif yno eich hun, oni bai bod eich erthygl â mynediad agored Aur pryd bydd y cyhoeddwr efallai yn gwneud hynny drosoch.
Er mwyn cynyddu gallu staff a sicrhau ein bod yn gallu bodloni polisi’r REF, rhoddir blaenoriaeth i gyflwyniadau cyfredol sydd wedi’u hysgrifennu yn ystod amser yr ymchwilwyr gyda’r Drindod Dewi Sant. Er yr ystyrir cyhoeddiadau a ysgrifennwyd gan ymchwilwyr presennol y Drindod Dewi Sant yn ystod eu cyflogaeth neu eu hastudiaethau mewn sefydliadau eraill, ni all y Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu warantu y trefnir i’r rhain fod ar gael, yn enwedig os ydynt eisoes wedi’u cyhoeddi â Mynediad Agored yn rhywle arall.
Y dyddiad derbyn yw’r dyddiad pryd mae’r cyhoeddwr wedi derbyn yn bendant eich cynnyrch i’w gyhoeddi. Gallai fod y dyddiad rydych chi, fel awdur, yn ystyried bod y golygydd wedi dweud wrthych fod y papur wedi’i dderbyn hyd yn oed mewn e-bost anffurfiol. Bydd hyn ar ôl adolygiadau gan gymheiriaid, a gwneud golygiadau a newidiadau eraill. Efallai bydd eich gwaith wedi’i dderbyn ‘dros dro’ neu’n ‘amodol’ cyn y dyddiad hwn, ond nid y ‘dyddiad derbyn’ mo’r rhain.
Wrth adneuo deunydd yng Nghadwrfa Ymchwil y Drindod Dewi Sant, anfonwch e-bost y cyhoeddwr sy’n cadarnhau bod y papur wedi’i dderbyn i openaccess@uwtsd.ac.uk fel tystiolaeth o’r dyddiad derbyn ar gyfer y REF.
Adneuwch nhw os gwelwch yn dda. Bydd adneuo’n rhoi mynediad i chi i fersiwn mynediad agored o’ch ymchwil a reolir gan y Drindod Dewi Sant er mwyn i chi allu gwarantu cydymffurfio â’r cyllidwr a’r REF. Bydd hyn hefyd yn gymorth o ran darganfod, lledaenu, a chadwraeth ymchwil y Drindod Dewi Sant.
Na ddylech – mae angen adneuo’r papur unwaith yn unig. Os ydych yn gyd-awdur, dylai’ch enw gael ei gysylltu â’r cofnod yn awtomatig.
Yn ogystal â bod â mynediad agored drwy’r Gadwrfa ei hun, mae ein cynnwys Mynediad Agored yn cael ei fynegeio gan lawer o ffynonellau academaidd allanol. Mae’r rhain yn cynnwys Google Scholar a Core.ac.uk.
Darllenwch ein Polisi Dileu Deunydd i gael manylion pellach. Sylwer bod cyflwyniadau i’r Gadwrfa Ymchwil yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol yn unol ag egwyddorion Mynediad Agored ac ni chânt eu symud ond yn unol â Pholisi Dileu Deunydd y Brifysgol. Ni ddilëir gweithiau a gyflwynwyd pan fydd yr ymchwilydd yn gadael y Brifysgol.
Taliad Prosesu Erthyglau (APC) | Taliad a godir gan gyhoeddwr ar awdur am erthygl, i dalu am gost cyhoeddi a gwneud y gwaith yn un mynediad agored. |
Taliad Prosesu Llyfrau (BPC) | Taliad a godir gan gyhoeddwr ar awdur am lyfr, i dalu am gost cyhoeddi a gwneud y gwaith yn un mynediad agored. |
Awdur Gohebol (CA) | Yr awdur sy’n cymryd y prif gyfrifoldeb am gyflwyno gwaith i’r cyfnodolyn i’w gyhoeddi, ac am gyfathrebu â’r cyfnodolyn. |
Embargo | Yng nghyd-destun Mynediad Agored, embargo yw pan fydd testun llawn gwaith mewn cadwrfa yn cael ei gyfyngu rhag sylw’r cyhoedd am gyfnod penodol ar ôl ei adneuo. Y cyhoeddwr sy’n diffinio cyfnod yr embargo. |
FAIR | Set o egwyddorion ar gyfer data agored: Gallu eu Canfod, Gallu Cael Mynediad Iddynt, Gallu i ryng-weithredu a Gallu eu Hailddefnyddio. Gweler FAIR Principles – GO FAIR (go-fair.org) |
Mynediad Agored Gwyrdd | Gwaith a gyhoeddwyd mewn llyfr traddodiadol neu gyfnodolyn tanysgrifio y tu ôl i wal dalu, pan fo copi i’w ddarllen yn rhad ac am ddim ar gael mewn cadwrfa ar wahân. Y Llawysgrif Awdur a Dderbyniwyd derfynol fel arfer yw’r copi yn y gadwrfa ac nid copi teiposod y cyhoeddwr. |
Mynediad Agored Aur | Gwaith a gyhoeddwyd â mynediad agored yn ei darddle ac mae copi i’w ddarllen yn rhad ac am ddim ar gael trwy’r cyhoeddwr, gyda thrwydded y gellir ei dynodi’n glir (e.e. trwydded Creative Commons). Fel arfer mae erthyglau’n amodol ar Daliad Prosesu Erthyglau (APC) a delir gan yr awdur neu ei sefydliad/corff cyllido. |
Cyfnodolyn hybrid | Cyfnodolyn tanysgrifio lle mae rhai erthyglau â mynediad agored ac y mae rhai y tu ôl i wal dalu. Fel arfer mae erthyglau mynediad agored mewn cyfnodolion hybrid yn amodol ar Daliad Prosesu Erthyglau (APC) a delir gan yr awdur neu ei sefydliad/corff cyllido. |
Metadata | Data sy’n disgrifio ac sy’n rhoi gwybodaeth am ddata eraill. Yng nghyd-destun y Gadwrfa, metadata yw’r wybodaeth am y gwaith sy’n cael ei adneuo, megis y teitl, yr awdur, ISSN / ISBN, cyhoeddwr, crynodeb ac ati |
Cytundeb darllen a chyhoeddi | Cytundeb â chyhoeddwr sy’n talu am gostau tanysgrifio traddodiadol ar gyfer cynnwys tu ôl i wal dalu, a chostau cyhoeddi mynediad agored. |
Cadwrfa | Platfform digidol sydd ar gael am ddim ar y We ac a luniwyd i letya a chadw cynnwys Mynediad Agored, megis erthyglau, monograffau, penodau, papurau cynhadledd, traethodau ymchwil a chynnwys ymchwil academaidd arall. |
Mae peth o’r wybodaeth ar y dudalen hon wedi’i addasu o Brifysgol Rhydychen dan drwydded Creative Commons Priodoliad 3.0 Heb ei Addasu (CC BY 3.0). Cynnwys gwreiddiol yn: https://openaccess.ox.ac.uk/faq/