chat loading...

Dewis cyhoeddwr Mynediad Agored

Wrth ddewis cyhoeddwr ar gyfer eich ymchwil mae’n bwysig ystyried ystod o ffactorau:

Byddwch yn wyliadwrus o gyhoeddwyr rheibus: cyhoeddwyr yw’r rhain sy’n ecsbloetio’r model Mynediad Agored drwy godi ffi am gyhoeddi heb unrhyw brosesau rheoli ansawdd megis adolygu gan gymheiriaid a golygu.   Mae Think Check Submit yn caniatáu i chi ddynodi cyhoeddwyr y gellir ymddiried ynddynt ar gyfer eich ymchwil.

Bellach mae gan y Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu gytundebau â nifer o gyhoeddwyr i hyrwyddo modelau cyhoeddi agored a’i gwneud yn haws i ymchwilwyr prifysgol gael budd o Fynediad Agored.

Cytundebau Cyhoeddwyr Mynediad Agored: Cyfnodolion

Mae’r Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu yn cydweithio â chyhoeddwyr i symud i fodelau cyhoeddi mynediad agored, a bellach maent yn cymryd rhan mewn nifer o gytundebau Mynediad Agored sy’n talu am gost Taliadau Prosesu Erthyglau (APCs) fel dewis amgen i gostau tanysgrifio’r llyfrgell, gan helpu i sicrhau bod yr ymchwil diweddaraf ar gael â Mynediad Agored.

Mae’r cytundebau hyn yn caniatáu i ymchwilwyr prifysgol gyhoeddi erthyglau Mynediad Agored mewn detholiad o gyfnodolion gyda chyhoeddwyr sy’n cymryd rhan heb unrhyw gost ychwanegol, neu ar gyfradd ostyngedig.   Amlinellir manylion pellach y cytundebau â phob cyhoeddwr isod.

Fel arfer mae cymhwystra’n seiliedig ar sefydliad yr awdur gohebol h.y. yr awdur sy’n cyflwyno’r erthygl i’w chyhoeddi.   Os ydych yn cydweithio ar erthygl cyfnodolyn ac mae’r awdur gohebol wedi’i leoli tu allan i’r Drindod Dewi Sant argymhellwn adneuo’r llawysgrif a dderbyniwyd yn ein Cadwrfa Ymchwil

Fel arfer mae’r cytundebau hyn yn cwmpasu erthyglau ymchwil, erthyglau adolygu a phapurau cynhadledd.   Nid yw erthyglau golygyddol ac adolygiadau llyfrau’n gymwys fel arfer.

Er mwyn cael budd o’r cytundebau hyn, defnyddiwch eich cyfeiriad e-bost yn y Drindod Dewi Sant bob tro wrth gyflwyno eich erthygl a gohebu â’r cyhoeddwr.

Cyhoeddwyr Mynediad Agored

Mae PCYDDS yn rhan o gytundeb Cyfnodolion AGORED yr ACM 2023 – 2025. O dan y cytundeb hwn gellir trefnu bod erthyglau ymchwil a thrafodion cynadleddau sydd ag awdur gohebol o’r brifysgol ar gael trwy fynediad agored pan gânt eu cyhoeddi, gyda’r awdur gohebol yn cael yr opsiwn o ddewis trwydded CC-BY ar gyfer rhannu ac ailddefnyddio erthyglau.

Gall copïau o erthyglau gan awduron cysylltiedig yn PCYDDS gael eu hadneuo yng nghadwrfa agored y Brifysgol i’w lledaenu’n agored, hyd yn oed os nad yr awdur yw’r awdur gohebol. Wedi i’r erthygl gael ei chyhoeddi ar sail mynediad agored, dylid adneuo’r fersiwn gyhoeddedig derfynol; os yw’r erthygl wedi’i chyhoeddi ar sail tanysgrifiad, dylid adneuo’r llawysgrif derfynol a dderbyniwyd.

Mae gwybodaeth bellach ar gael yn: Mynediad Agored & ACM

Mae’r Drindod Dewi Sant yn cymryd rhan yng Nghytundeb Darllen a Chyhoeddi Brill sy’n caniatáu i awduron gohebol gyhoeddi erthyglau ymchwil ac adolygu a phapurau cynhadledd mewn cyfnodolion hybrid a mynediad agored llawn Brill heb gostau prosesu erthyglau.

Mae rhagor o wybodaeth am fynediad agored i awduron ar gael gan Brill: Open Access for Authors.

Mae cytundeb ‘darllen a chyhoeddi’ gan y Drindod Dewi Sant â Cambridge University Press sy’n cwmpasu Ymchwil, Erthyglau Adolygu a Chyfathrebu Cyflym (RRR), ynghyd ag erthyglau megis Adroddiadau Cryno ac Adroddiadau Achos o fewn unrhyw gyfnodolion hybrid ac aur o Gasgliad Cyfnodolion Cyflawn CUP. Seilir cymhwystra ar sefydliad yr awdur perthnasol. Er mwyn manteisio ar y cytundeb hwn, sicrhewch eich bod yn dewis Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant fel eich sefydliad a’ch bod yn darparu’ch cyfeiriad e-bost yn y Drindod Dewi Sant wrth gyflwyno’ch erthygl. Fel arfer bydd erthyglau a dderbynnir dan y cytundeb hwn yn cael eu cyhoeddi dan drwydded CC-BY.

Ceir rhagor o wybodaeth o wefan Polisïau Mynediad Agored Cambridge University Press.
Mae PCYDDS yn cydgyfranogi yng nghytundeb cyhoeddi mynediad agored Jisc / Elsevier UK 2022 – 2024. Wrth gyhoeddi ymchwil ac erthyglau adolygu mewn siwrnalau hybrid Elsevier Core cymwys, bydd awduron yn gallu dewis cyhoeddi gan ddefnyddio mynediad agored  heb unrhyw gost ychwanegol i’r awdur. Mae cymhwyster yn dibynnu ar dadogaeth yr awdur gohebol. Er mwyn manteisio ar y cytundeb hwn, sicrhewch eich bod yn dewis Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant fel eich sefydliad, a darperwch eich cyfeiriad e-bost PCYDDS wrth gyflwyno eich erthygl. Er mwyn bod yn gymwys, bydd rhaid bod gan yr erthyglau ddyddiad derbyn rhwng 1.1.2022 a 31.12.2024.

Mae cyfarwyddyd pellach ar gael ar wefan Mynediad Agored Elsevier, yn ogystal â rhestr o siwrnalau cymwys.

Mae gan y Drindod Dewi Sant gytundeb ‘darllen a chyhoeddi’ gydag Oxford University Press sy’n caniatáu i awduron perthnasol gyhoeddi erthyglau Ymchwil ac Adolygu dan drwyddedau mynediad agored mewn mwy na 400 o gyfnodolion heb unrhyw gost. Seilir gwirio cymhwystra gan Oxford University Press ar y math o erthygl a sefydliad yr awdur perthnasol. Er mwyn manteisio ar y cytundeb hwn, sicrhewch eich bod yn dewis Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant fel eich sefydliad a’ch bod yn darparu’ch cyfeiriad e-bost yn y Drindod Dewi Sant wrth gyflwyno’ch erthygl. Yn dilyn y broses adolygu gan gymheiriaid a gwirio awduron, cyhoeddir erthyglau a dderbynnir dan drwydded Mynediad Agored.

Ceir rhagor o wybodaeth am gyhoeddi gydag Oxford University Press o Ganolfan Adnoddau Awduron OUP.

Mae’r Drindod Dewi Sant yn cymryd rhan yn y Cytundeb â Sage ar gyfer Llyfrgell Electronig Addysg Uwch Cymru (WHEEL) a drefnir drwy Jisc ac sy’n caniatáu i awduron gyhoeddi erthyglau mynediad agored yng nghyfnodolion Sage am bris gostyngol.  Bydd y disgownt hwn yn cael ei gymhwyso’n awtomatig pan fydd yr awdur sy’n cyhoeddi’i waith yn dewis Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant fel ei sefydliad cyswllt.

Mae’r Drindod Dewi Sant yn cymryd rhan yng Nghytundeb Darllen a Chyhoeddi Springer Nature sy’n caniatáu i awduron gohebol gyhoeddi erthyglau ymchwil ac adolygu gwreiddiol, cyfathrebiadau cryno ac erthyglau addysg barhaus mewn cyfnodolion hybrid cymwys Springer heb unrhyw gostau prosesu erthyglau pellach.

Mae rhestr o’r cyfnodolion hybrid a chanllaw i awduron sy’n cyhoeddi gyda Springer o dan y cytundeb hwn i’w gweld yma: Open access agreement for UK | Open research | Springer Nature.

Mae cytundeb ‘darllen a chyhoeddi’ gan y Drindod Dewi Sant â chyfnodolion Taylor a Francis sy’n caniatáu i awduron perthnasol gyhoeddi erthyglau ymchwil dan drwyddedau mynediad agored yng nghyfnodolion Hybrid (Open Select) Taylor a Francis heb unrhyw gostau ychwanegol. Seilir gwirio cymhwystra ar y math o erthygl a sefydliad yr awdur perthnasol. Er mwyn manteisio ar y cytundeb hwn, sicrhewch eich bod yn dewis Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant fel eich sefydliad a’ch bod yn darparu’ch cyfeiriad e-bost yn y Drindod Dewi Sant wrth gyflwyno’ch erthygl. Yn dilyn y broses adolygu gan gymheiriaid a gwirio awduron, cyhoeddir erthyglau a dderbynnir dan drwydded Mynediad Agored.

Ceir rhagor o wybodaeth am gyhoeddi gyda Taylor a Francis o dudalennau gwe Canllaw Gwasanaethau i Awduron gan Taylor a Francis.

Mae’r Drindod Dewi Sant yn cymryd rhan yng Nghytundeb Darllen a Chyhoeddi Mynediad Agored Jisc Wiley 2020-2023, sy’n caniatáu i awduron gyhoeddi ymchwil gwreiddiol ac erthyglau adolygu mewn unrhyw rai o gyfnodolion OnlineOpen Wiley heb unrhyw gostau mynediad agored pellach ar gyfer llawysgrifau a dderbynnir ar ôl 2 Mawrth 2020. Mae hyn yn berthnasol i bapurau ymchwil ac erthyglau adolygu gwreiddiol yn unig.

Mae gwybodaeth bellach a chyfarwyddiadau ynghylch cyhoeddi gyda Wiley dan y cytundeb hwn i’w gweld yn: Open access agreement for eligible UK institutions

Os ydych yn cyhoeddi mewn cyfnodolyn tanysgrifio (hybrid), mewngofnodwch i Wiley Author Services ar ôl derbyn cadarnhad eich bod wedi’ch derbyn, cliciwch Select OnlineOpen, dewiswch Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant fel eich sefydliad cyswllt, a nodi manylion unrhyw gyllid, os ydy hynny’n berthnasol. Pan fyddwch wedi gwneud hyn, dewiswch OnlineOpen. Bydd y Drindod Dewi Sant yn cael ei hysbysu am eich cais a bydd yn ei adolygu.

Sylwer os nad yw ymchwil wedi’i gyllido ac nid oes cytundeb cyhoeddwr ar gyfer prifysgolion ar gael i gyllido cyhoeddi’n uniongyrchol mewn cyfnodolyn mynediad agored (mynediad agored aur), rydym yn argymell cyflwyno’ch llawysgrif awdur a dderbyniwyd i gadwrfa ymchwil y Brifysgol fel dewis amgen (mynediad agored gwyrdd). Bydd hyn yn caniatáu i’ch gwaith fod ar gael â mynediad agored pryd mae’r fersiwn cyhoeddedig ar gael dim ond drwy danysgrifiad neu drwy wal dalu. I gael help wrth gyflwyno gwaith i’n cadwrfa, ewch i’r Canllaw Adneuo.

IEEE

Ar hyn o bryd mae cytundeb ‘darllen yn unig’ gan y Drindod Dewi Sant ag IEEE nad yw’n cwmpasu cyhoeddi mynediad agored.  Mae rhagor o wybodaeth ynghylch ffioedd mynediad agored ar gael yma.

Dolenni defnyddiol eraill

DOAJ – Directory of Open Access Journals: mynegai helaeth o gyfnodolion mynediad agored amrywiol o bob cwr o’r byd.

Cytundebau Cyhoeddwyr Mynediad Agored: Llyfrau

Mae’r Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu yn aelod-gefnogwr o Open Book Publishers (OBP), cyhoeddwr Mynediad Agored annibynnol yn y DU ym maes y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, sy’n cael ei redeg gan ysgolheigion ac sy’n ymrwymedig i drefnu bod ymchwil o ansawdd uchel ar gael yn rhwydd i ddarllenwyr o gwmpas y byd.

Mae OBP yn rhoi mynediad rhwydd a pharhaol at e-lyfrau i ddarllenwyr heb unrhyw ffioedd Mynediad Agored (a elwir hefyd yn Daliadau Prosesu Llyfrau neu BPCs) i awduron.

Mae mwy o wybodaeth i awduron newydd sydd â diddordeb mewn cyhoeddi gydag OBP ar gael yn Gwybodaeth i Awduron Newydd | Open Book Publishers

Er nad oes gennym gytundebau eraill i gefnogi cyhoeddi llyfrau â Mynediad Agored, mae hwn yn faes sy’n esblygu’n gyflym felly gwiriwch y dudalen hon yn rheolaidd i gadw’n gyfredol ag unrhyw wybodaeth newydd.

Mae gan y cyhoeddwyr canlynol bolisïau yn eu lle sy’n caniatáu mynediad agored gwyrdd a byddant yn caniatáu adneuo monograffau yn y Gadwrfa Ymchwil gyda chyfnod embargo.   Sylwer nad rhestr gynhwysol mo hon ac anogir ymchwilwyr i wirio gyda’r cyhoeddwr o’u dewis neu gyda’r tîm Mynediad Agored:

Dyn yn eistedd mewn caffi gyda chalffonni gwyn yn defnyddio cyfrifiadur MacBook gyda cwpan coffi ar y bwrdd o'i flaen