chat loading...

Pwysigrwydd Mynediad Agored: Polisi Mynediad Agored PCYDDS

Cyhoeddi Mynediad Agored yw’r broses o drefnu bod cyhoeddiadau a data ysgolheigaidd ar gael yn rhwydd ac i’w hailddefnyddio er mwyn i unrhyw un allu cael budd o ymchwil.

Mae Mynediad Agored yn annog cydweithio, tryloywder, ac arloesi, drwy drefnu bod ymchwil ar gael i bawb ac nid yn unig i’r rheini sy’n gallu fforddio talu.   Drwy rannu ymchwil yn agored, gall ymchwilwyr gydweithio’n haws ac adeiladu ar waith ei gilydd.  Mae Mynediad Agored hefyd yn cynyddu tryloywder ac atebolrwydd yn sgil sicrhau bod canfyddiadau ymchwil yn hygyrch ac yn agored i’r cyhoedd ehangach allu craffu arnynt.  Mae diwylliant Mynediad Agored yn ceisio dileu rhwystrau rhag lledaenu gwaith ymchwil, hyrwyddo cydweithio ac arloesi, a chynyddu effaith a pherthnasedd ymchwil i gymdeithas.

Er mwyn annog Mynediad Agored ymhlith y gymuned academaidd a sicrhau bod mynediad rhwydd i ymchwil a gyllidir yn gyhoeddus, mae’r REF, UKRI a llawer o gyllidwyr ymchwil bellach yn gwneud cyhoeddi Mynediad Agored yn orfodol.

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cydnabod bod cyhoeddiadau ysgolheigaidd yn ased gwerthfawr y gellir ei ddefnyddio i gyfleu canfyddiadau ymchwil a bod yn sail ar gyfer ymchwil newydd ac arloesol. Gan ein bod yn derbyn arian cyhoeddus, rydym yn cydnabod ein rhwymedigaeth i drefnu bod ein gwaith ymchwil ar gael i gylch mor eang ag y bo modd. Rydym yn dymuno sicrhau bod ein hymchwil yn cyrraedd y gynulleidfa ehangaf posibl ac rydym wedi ymrwymo i gefnogi Mynediad Agored er budd ymchwilwyr eraill a’r gymdeithas ehangach.

Darllenwch Bolisi Mynediad Agored llawn PCYDDS.

Fel ymchwilydd yn y Brifysgol, gallwch wneud gwahaniaeth drwy rannu’ch gwaith yn agored.  Gweithredu yn sgil Derbyn – adneuwch eich Llawysgrif Awdur a Dderbyniwyd derfynol yn ein Cadwrfa Mynediad Agored cyn gynted â phosibl ar ôl i erthygl cyfnodolyn, papur cynhadledd, monograff neu bennod mewn llyfr o’ch gwaith chi gael ei derbyn i’w chyhoeddi.

Dechrau Arni

Dau berson yn sefyll ochr yn ochr y tu allan i ffenestr mewn man adnoddau digidol, gyda stondin gyda chyfres o lyfrau a baner cefndir yn dangos adnoddau llyfrgelloedd a dysgu Prifysgol Cymru Trinidad Santaid David Birmingham.