Gwasanaethau Digidol » Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu (LLR) » Mynediad Agored ac Ymchwil » Cyhoeddi Mynediad Agored » Trwyddedau Creative Commons
Mae Creative Commons yn sefydliad rhyngwladol di-elw sy’n galluogi rhannu a defnyddio creadigrwydd a gwybodaeth drwy offer cyfreithiol rhad ac am ddim. Mae eu trwyddedau hawlfraint yn darparu ffordd syml, safonol o roi caniatâd i’r cyhoedd rannu a defnyddio gwaith creadigol – ar amodau a ddewisir gan y crëwr.
Mae Creative Commons yn cynnig amrywiaeth o drwyddedau cydnabyddedig rhyngwladol i ganiatáu i waith gael ei rannu a’i ailddefnyddio dan amrywiaeth o amodau. Ceir manylion y trwyddedau yn: Am y Trwyddedau – Creative Commons. Mae’r trwyddedau sy’n cael eu defnyddio’n fwyaf aml fel a ganlyn:
Fel mater o drefn, cymhwysir trwydded CC-BY i bob cyhoeddiad ymchwil a archifir i’r Gadwrfa Ymchwil. Rhaid i ymchwil a gyllidir drwy UKRI, y Wellcome Trust a’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal gael ei gyhoeddi dan drwydded CC-BY oni chytunwyd ar eithriad gyda’r cyllidwr. Gall awduron ymchwil nad oedd wedi’i gyllido gymhwyso trwyddedau Creative Commons eraill fel y bo’n briodol: cysylltwch â’r tîm Mynediad Agored am fanylion pellach yn openaccess@uwtsd.ac.uk
Ym mhob achos, dylai staff ymchwil ymgynghori ag INSPIRE ynghylch trafod Hawliau Eiddo Deallusol gyda chyhoeddwyr (yn cynnwys hawlfraint, trwyddedu, cyfnodau embargo) er mwyn sicrhau telerau contractiol sy’n bodloni Polisi Eiddo Deallusol y Brifysgol ac unrhyw bolisïau cyllidwyr perthnasol.
Rhoddir trwydded CC BY-NC-ND i draethodau ymchwil a thraethodau hir fel mater o drefn. Caiff myfyrwyr ddewis trwydded Creative Commons wahanol wrth adneuo os bydd angen.
Pan fyddwch chi fel awdur yn defnyddio trwydded CC-BY (y cyfeirir ati weithiau fel “Trwydded Briodoli CC”), chi sy’n cadw hawlfraint dros eich gwaith, gan ganiatáu i bobl eraill ei ddosbarthu, ei ailgymysgu ac adeiladu arno, hyd yn oed mewn lleoliad masnachol. RHAID i unrhyw un sy’n defnyddio’ch gwaith sydd â thrwydded CC-BY roi priodoliad i chi mewn unrhyw waith sy’n codi yn sgil hynny. Nid yw CC-BY yn effeithio ar eich hawliau moesol i’r gwaith (o ran “defnydd difrïol” o’ch gwaith) nac ar eich hawliau “defnydd teg”. Ceir esboniadau pellach o’r termau hyn isod.
Mae defnyddio CC-BY yn ei gwneud yn eglur i’ch cynulleidfa y caiff gweithiau deilliannol o’r fath eu caniatáu heb iddynt orfod cysylltu â chi a gofyn. Mae’r drwydded hon yn ceisio lledaenu’ch gwaith i’r eithaf. Os dewiswch drwyddedu dan CC-BY, fe’ch cynghorir i ddarparu datganiad byr ynghylch cyfeirnodi, gan ddweud wrth ddefnyddwyr posibl sut yr hoffech gael eich cydnabod, er enghraifft:
“Mae hon yn erthygl Mynediad Agored a ddosbarthwyd dan delerau Trwydded Priodoliad Creative Commons, sy’n caniatáu defnyddio, dosbarthu, ac ailgynhyrchu heb gyfyngiadau mewn unrhyw gyfrwng, ar yr amod bod yr awdur a’r ffynhonnell wreiddiol yn cael eu cydnabod.”
Efallai yr hoffech ddarparu dolen i’r crynodeb CC-BY ar-lein i helpu eich defnyddwyr i ddeall eu rhwymedigaethau: Creative Commons — Priodoliad 4.0 Rhyngwladol — CC BY 4.0
Mae Creative Commons yn rhoi tri disgrifiad o bob trwydded ar gael: “crynodeb” hawdd ei ddarllen, copi o’r cod cyfreithiol llawn a thrwydded y gall peiriant ei darllen. Gall eu Dewiswr Trwyddedau hwylus hefyd eich helpu i benderfynu pa drwydded yw’r fwyaf priodol i’ch gwaith.
Daw’r esboniadau canlynol o ddisgrifiad y Creative Commons ar gyfer y Drwydded CC-BY.
Mae peth o’r wybodaeth ar y dudalen hon wedi’i haddasu o Brifysgol Rhydychen dan drwydded Creative Commons Priodoliad 3.0 Heb ei Addasu (CC BY 3.0). Cynnwys gwreiddiol yn: Copyright, Creative Commons and Open Access (ox.ac.uk)