chat loading...

Adneuo eich data

Mae polisi PCYDDS yn gofyn i ymchwilwyr adneuo eu data ymchwil mewn archif data ymchwil pynciol addas lle bo ar gael. Os nad oes gwasanaeth addas ar gael, gallwch hefyd archifo eich data yng nghadwrfa’r Brifysgol.

Dilynwch y camau hyn i wneud eich data ymchwil yn hygyrch.

  1. Gwnewch yn siŵr bod eich data wedi’u paratoi ar gyfer eu rhannu.  Dilynwch ein canllawiau am gymorth ar:
    • Benderfynu pa ddata i’w cadw
    • Golygu setiau data neu eu gwneud yn ddienw ar gyfer eu cadw
    • Dewis fformat ffeil cynaliadwy
    • Disgrifio a dogfennu eich data
  2. Chwiliwch gofrestr Re3data o gadwrfeydd data ymchwil, neu’r catalog sydd ar gael yn FAIRsharing i ddod o hyd i archif sy’n gysylltiedig â’ch disgyblaeth.
    Os nad ydych yn gallu dod o hyd i archif, ewch ymlaen i gam 4.
  3. Ar ôl i chi adneuo eich data mewn archif addas, anfonwch URL eich set ddata i openaccess@uwtsd.ac.uk i ni ei chysylltu ag unrhyw allbynnau ymchwil perthnasol yng nghadwrfa’r Brifysgol.  Os nad ydych wedi adneuo unrhyw gyhoeddiadau yn gysylltiedig â’ch ymchwil eto, cynhwyswch ddolen i’ch set ddata wrth gyflwyno eich cyhoeddiad i’r gadwrfa.
  4. Os na allwch gyflwyno eich data i archif pynciol addas, mewngofnodwch i https://repository.uwtsd.ac.uk/

Cliciwch Set ddata newydd a dilyn y cyfarwyddiadau cam wrth gam, gan gwblhau cynifer o feysydd â phosibl.  Gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi cyfnod embargo os oes angen.  Bydd aelod o’r tîm Mynediad Agored yn prosesu’ch adnau ac yn gwneud eich data ar gael.

Mae’r canllawiau hyn yn berthnasol i ddata ymchwil digidol.  Os byddwch yn cynhyrchu data copi caled, ffisegol, gwerthfawr trwy eich ymchwil, efallai y byddwch yn dymuno ystyried eu hadneuo mewn archif addas.   Mae’r Archifau Cenedlaethol yn rhoi manylion yr archifau sydd ar gael yn y DU.

Person yn sefyll wrth ddesg gyda gliniadur, teipio ar y bysellfwrdd, gyda phapurau ysgrifenedig a phêl yn agos