chat loading...

Cyflwyniad i Reoli Data Ymchwil

Mae rheoli data ymchwil yn cwmpasu ystod o weithgareddau sy’n gysylltiedig â data dros gyfnod cyfan y prosiect ymchwil. Mae hyn yn cynnwys:

  • Cynllunio rheoli data

  • Casglu a gweithio gyda data yn ystod cyfnod byw y prosiect

  • Cydymffurfio â gofynion cyfreithiol a moesegol sy’n ymwneud â data ymchwil

  • Yr hyn sy’n digwydd i’r data ar ôl cwblhau’r prosiect: cadw neu waredu’r data, a’u rhannu lle bo’n briodol.

Mae rheoli data ymchwil yn dda yn rhan hanfodol o ymchwil da, ac mae iddo ddau brif nod:

  • Cynorthwyo’r broses ymchwil drwy sicrhau bod data’n cael eu cadw’n ddiogel a chaniatáu’r defnydd gorau ohonynt;

  • Ymestyn bywyd data y tu hwnt i’r prosiect, drwy sicrhau eu bod yn parhau’n ddefnyddiol ac yn hygyrch.

Dewiswch opsiwn isod i ddysgu rhagor:

Dwylo person yn pwyso allwedd ar fysellfwrdd cyfrifiadur portatile gyda symbolau digidol o raddfa cyfiawnder a dogfen yn arddangos uwchben y bysellfwrdd mewn delwedd rhithwir werddlas