chat loading...

Gofynion Cyllidwyr

Os yw eich ymchwil wedi’i gyllido, mae’n bwysig gwneud yn siŵr eich bod yn cydymffurfio ag unrhyw ofynion polisi data ymchwil gan eich corff cyllido.

Mae UKRI yn disgwyl i chi wneud eich data mor agored â phosibl a’u gwneud yn gaeedig dim ond pan fo hynny’n angenrheidiol.  Gellir dod o hyd i bolisi data ymchwil agored UKRI yn: Gwneud eich data ymchwil yn agored – UKRI

Mae’r UKRI hefyd yn cyhoeddi Arweiniad ar arfer gorau wrth reoli data ymchwil – UKRI

Mae perchnogaeth o’r data a gynhyrchir gan ymchwil a gyllidir gan UKRI neu gynghorau ymchwil yn aros gyda’r ymchwilwyr neu eu sefydliadau. Dylai ymchwilwyr gynnal a rheoli hawlfraint a pherchnogaeth eiddo deallusol ar ddata fel bod y deunyddiau ymchwil sylfaenol yn parhau mor agored â phosibl.  Mae gan bob cyngor ymchwil ei bolisïau a’i ganllawiau rhannu a rheoli data ei hun y mae’n rhaid i chi eu dilyn:

Mae’r Wellcome Trust yn gofyn am Gynllun Rheoli Allbynnau lle bydd yr ymchwil yn creu data, meddalwedd, neu ddeunyddiau a fydd yn dal gwerth fel adnodd i eraill yn y byd academaidd neu ddiwydiant. Mae hyn yn ymdrin â rheoli pob math arwyddocaol o allbwn ymchwil, gan gynnwys data.  Ceir arweiniad ar sut i gwblhau Cynllun Rheoli Allbynnau drwy’r ddolen isod: Cynllun Rheoli Allbynnau – Cyllid Grant | Wellcome

Mae Wellcome Open Research yn gofyn bod y data ffynhonnell sy’n sail i’r canlyniadau’n cael eu gwneud ar gael cyn gynted y bydd erthygl wedi’i chyhoeddi. Mae gan Wellcome Bolisi Data Agored ac maent yn darparu canllawiau data ar y dudalen Canllawiau Data | Wellcome Open Research

Mae canllaw i gynllunio rheoli data ar gyfer ymgeiswyr am gyllid gan y Wellcome Trust  ar gael o Brifysgol Bryste.

O Dachwedd 2023 ymlaen, nid oes gan yr Academi Brydeinig bolisi trosfwaol ar reoli a rhannu data, ac nid oes angen cynllun rheoli data ffurfiol. Fodd bynnag, mae rhai cynlluniau cyllido’n gofyn i ymgeiswyr am ddatganiad ynglŷn â sut y bydd unrhyw ddata digidol a ddatblygir yn ystod y prosiect yn cael eu storio, a sut y byddant yn cael eu gwneud yn hygyrch.

Mae’r gofynion yn amrywio rhwng cynlluniau cyllido, felly cynghorir ymgeiswyr i ddarllen y canllawiau’n ofalus i wirio beth sy’n ddisgwyliedig. Mae rhai o raglenni’r Academi Brydeinig yn nodi y dylid adneuo adnoddau digidol mewn cadwrfa hygyrch briodol, tra’n cydnabod y gallai fod angen cyfyngu ar fynediad at ddata cyfrinachol.

O Dachwedd 2023 ymlaen, nid oes gan y Leverhulme Trust bolisi ffurfiol ar reoli a rhannu data.

Mae NIHR Open Research yn gofyn bod y data ffynhonnell sy’n sail i’r canlyniadau’n cael eu gwneud ar gael cyn gynted y bydd erthygl wedi’i chyhoeddi, lle bo modd. Wrth rannu data ymchwil, mae’r NIHR a NIHR Open Research yn cydnabod ei bod yn rhaid: diogelu cyfrinachedd a phreifatrwydd unigolion; parchu telerau cydsyniad unigolion sy’n ymwneud ag ymchwil; bod yn gyson â fframweithiau cyfreithiol, moesegol a rheoleiddiol perthnasol; a gwarchod rhag costau afresymol.

Mae cynlluniau rheoli data a mynediad yn cael eu cyflwyno ar draws holl raglenni cyllido’r NIHR, a rhaid eu cwblhau adeg cychwyn yr ymchwil.

Rhaid cynnwys datganiadau rhannu data wrth gyhoeddi darganfyddiadau ymchwil, gan ddisgrifio sut i gael mynediad at y data ymchwil sylfaenol.

Mae gan yr NIHR ddatganiad sefyllfa ar rannu data ymchwil ar y dudalen Safbwynt yr NIHR ar rannu data ymchwil | NIHR

Rhaid i ymchwilwyr ddilyn canllawiau data’r NIHR ar y dudalen Canllawiau Data | NIHR Open Research