Mae’r adran hon yn cynnwys rhannu eich data ar ôl cwblhau eich prosiect ymchwil. Am wybodaeth ynglŷn â rhannu data yn ystod prosiect ymchwil cydweithredol, ewch i’r adran Diogelwch Gwybodaeth.
Efallai y bydd y manteision hyn hefyd yn gwneud prosiectau ymchwil sy’n bwriadu rhannu eu data yn fwy deniadol i gyrff cyllido, gan arwain at fantais arall posibl i ymchwilwyr sy’n dewis gwneud hyn.
Weithiau mae ymchwilwyr yn pryderu y bydd eu data’n cael eu camddefnyddio, neu y byddant yn cael eu defnyddio i gwestiynu’r dadansoddiad gwreiddiol yn unig. Fodd bynnag yn ymarferol, mae hyn yn beth prin. Gall ymchwilwyr leihau’r risg o gamddehongli eu gwaith trwy sicrhau bod data wedi’u dogfennu’n dda, ac mae cynnwys gwybodaeth glir am ddulliau yn helpu ei gwneud yn hawdd i ymchwilwyr eraill i ddilysu eu casgliadau. Ond yn aml defnyddir data a rennir hefyd mewn ffyrdd nas rhagwelwyd gan y crëwr data: efallai bod y ffocws ar newidynnau neu agweddau ar y set ddata a farnwyd yn ddibwys ar gyfer y prosiect gwreiddiol, er enghraifft, neu gallai’r data fod yn werthfawr i ymchwilwyr mewn disgyblaeth arall, neu gallai ddarparu ysbrydoliaeth o ran cynnwys neu fethodoleg.
Mae trefnu bod allbynnau ymchwil ar gael yn fwy agored yn caniatáu i unrhyw un sydd â diddordeb ynddynt i’w defnyddio, heb yr angen am danysgrifiadau costus. Pan mae ymchwil yn cael ei gyllido gan arian cyhoeddus, mae’n arbennig o briodol y dylai ffrwyth yr ymchwil hwnnw fod ar gael yn gyhoeddus.
Mae ehangu mynediad yn ei gwneud yn haws i ymchwilwyr adeiladu ar waith ei gilydd. Mae hyn yn helpu gwneud y broses yn fwy effeithlon, a chynyddu maint y gwaith cynhyrchiol y gellir ei wneud.
Mae gwell gwybodaeth ynghylch sut y daethpwyd i gasgliadau yn helpu ymchwilwyr i olrhain camau’r rhai a fu o’u blaen. Mae hyn yn helpu cynyddu dealltwriaeth, dilysu canlyniadau, a gwneud y broses ymchwil yn fwy cadarn.
Mae data agored yn rhan bwysig o ysgolheictod agored. Mae data yn agored os ydynt ar gael i unrhyw un i gael mynediad atynt, eu defnyddio, eu haddasu a’u rhannu. Efallai y bydd rhai gofynion bach iawn (e.e. rhoi clod i’r sawl sydd wedi creu’r data), ond mae darpar ailddefnyddwyr yn cael llawer iawn o ryddid.
Dylid trefnu bod data agored ar gael drwy drwydded agored – gweler yr adran Trwyddedu data isod am ragor o fanylion.
Nid yw pob data’n addas i’w gwneud yn hollol agored: os yw’r cynnwys yn gyfrinachol neu’n sensitif, neu os yw’r ymchwilwyr yn bwriadu ceisio am batent, yna gallai fod rhesymau da dros gyfyngu ar fynediad. Fodd bynnag, hyd yn oed mewn achos o’r fath, mae’n werth ystyried a ellid rhannu rhyw fersiwn o’r set ddata (er enghraifft, fersiwn dienw, cryno neu wedi’i golygu), neu a ellid caniatáu mynediad rheoledig at y data.
Am ragor o wybodaeth am ddata agored, gweler yr Open Data Handbook gan yr Open Knowledge Foundation.
Fel rheol gyffredinol, mae’n arfer da sicrhau bod cymaint o ddata â phosibl ar gael i’w hailddefnyddio Dylech o leiaf anelu at sicrhau bod yr holl ddata sy’n cefnogi canfyddiadau neu gasgliadau ymchwil ar gael, oni bai bod rhesymau penodol dros gadw’r data’n breifat. Ond mae’n bosibl iawn y bydd eich prosiect yn cynhyrchu data eraill y mae’n werth eu rhannu.
Ceisiwch beidio â chyfyngu eich meddwl i derfynau’r ymchwil gwreiddiol: er y gall data yn sicr fod yn werthfawr i’r rhai sy’n gweithio mewn maes tebyg i’ch un chi, gallai fod modd eu cymhwyso hefyd mewn meysydd sy’n anoddach eu rhagweld. Weithiau gall data fod yn ddefnyddiol i ymchwilwyr mewn disgyblaethau eraill, neu i aelodau’r cyhoedd, neu at ddibenion addysgol neu hyfforddi. Cofiwch y casglwyd llawer o ddata hanesyddol yn wreiddiol am resymau nad oedd yn ymwneud o gwbl ag ysgolheictod academaidd, ond maent wedi bod yn drysor i ymchwilwyr ers hynny. Mae’n debyg nad oedd morwyr oedd yn cadw logiau tywydd ganrif neu ddwy yn ôl byth wedi rhagweld y byddai eu harsylwadau’n bwydo i mewn i ymchwil newid hinsawdd; yn yr un modd, dydych chi byth yn gwybod pwy allai ganfod eich data yn amhrisiadwy yn y dyfodol.Yn hytrach na gofyn pa ddata y dylid eu rhannu, efallai y byddai’n ddefnyddiol troi’r cwestiwn ar ei ben, a gofyn yn lle hynny pa ddata na ellir eu rhannu, gyda’r bwriad o rannu popeth arall. Mae’n bosibl y bydd angen i brosiectau sy’n cynhyrchu symiau mawr iawn o ddata wneud penderfyniadau ymarferol ynghylch faint y mae’n ymarferol eu rhannu. Gall rhesymau eraill dros gadw data’n breifat gynnwys cyfrinachedd, materion eiddo deallusol, neu gynlluniau i geisio am batent. Fodd bynnag, hyd yn oed os na ellir rhannu data’n agored, mae’n werth ystyried a allent fod ar gael mewn modd cyfyngedig: gweler yr adran ar hyn isod am ragor o fanylion.
Gall dewisiadau a wneir yn gynnar mewn prosiect ddylanwadu ar ba mor hawdd ydyw i rannu data’n ddiweddarach, ac felly mae’n bwysig cynllunio ymlaen llaw, gan roi ystyriaeth i gadwraeth ac ailddefnyddio data o’r cychwyn. Er enghraifft, mae’n hanfodol fod unrhyw ymchwil sy’n cynnwys cyfranogwyr dynol yn sicrhau cydsyniad priodol, ac mae’n llawer haws gwneud hyn adeg casglu’r data, yn hytrach na mynd yn ôl a gwneud hynny’n ôl-weithredol.
Mae’r adrannau isod yn archwilio rhai agweddau penodol ar baratoi data i’w rhannu.
Os yw data’n cynnwys gwybodaeth sensitif neu gyfrinachol, gall hyn fod yn rhwystr i rannu – yn enwedig os mai’r dymuniad yw eu rhannu heb gyfyngiadau. Er enghraifft, bydd angen i ddata sy’n cynnwys gwybodaeth bersonol am unigolyn byw adnabyddadwy fod yn ddienw neu dan ffugenw, oni bai y cafwyd caniatâd penodol gan y rhai sy’n destun yr ymchwil i rannu’r fersiwn sy’n cynnwys enwau.
Dylid nodi, fodd bynnag, nad yw dileu dynodyddion amlwg (enwau, cyfeiriadau e-bost, ac ati) yn ddigon efallai i wneud set ddata yn gwbl ddienw: gallai fod yn bosibl o hyd i adnabod rhywun trwy gyfuno darnau eraill o wybodaeth (cod post a chyflwr meddygol prin, er enghraifft). Yn ogystal, mae rhai mathau o ddata, fel recordiadau fideo, yn anodd iawn i’w gwneud yn ddienw i raddau digonol.
Weithiau gall fod angen golygu data am resymau eraill: er enghraifft, efallai bod y data’n ymwneud â lleoliad rhywogaeth sydd mewn perygl, neu eu bod yn cynnwys deunydd trydydd parti a rhywun arall yn rheoli’r hawliau eiddo deallusol. Mae’n ddefnyddiol nodi pa fath o wybodaeth sydd wedi’i dileu a pham (i’r graddau y mae gwneud hynny’n gydnaws â’r rhesymau dros olygu’r data), fel y bydd ailddefnyddwyr data yn gallu gwneud synnwyr o unrhyw fylchau yn y set ddata. Weithiau gall golygu data eu gwneud yn llai cynrychioliadol: mae esbonio’r camau a gymerwyd yn gallu helpu i ddiogelu rhag camddehongli anfwriadol.
Mae llawer o ddulliau neu dechnegau y gellir eu defnyddio i wneud data’n llai sensitif mewn rhyw ffordd, a gall yr hyn sy’n briodol amrywio’n sylweddol o achos i achos. Mae angen sicrhau cydbwysedd rhwng diogelu cyfranogwyr (a’r ymchwilydd gwreiddiol) neu ddileu gwybodaeth arall y gellid ei chamddefnyddio, a pheidio â diraddio’r data yn ormodol. Os nad yw’n bosibl neu’n ymarferol cynhyrchu set ddata y gellir ei rhannu’n agored heb leihau gwerth y data’n sylweddol, efallai y bydd angen ystyried opsiynau eraill – er enghraifft, adneuo mewn archif data sy’n cynnig cyfyngiadau mynediad.
Mae data’n ddefnyddiol i ddarpar ailddefnyddwyr dim ond os gallant wneud synnwyr ohonynt. Mae dogfennaeth yn darparu gwybodaeth gyd-destunol sy’n helpu defnyddwyr newydd i ymgyfarwyddo â’r set ddata, a’i dehongli’n gywir.
Gellir rhoi gwybodaeth am y set ddata gyfan (mewn ffeil README, er enghraifft), neu am agweddau penodol ar y data (er enghraifft, gyda newidynnau wedi’u labelu’n glir, neu anodiadau am anomaleddau gwirioneddol neu ymddangosiadol). Mae gan y ddau ddull rôl bwysig i’w chwarae.
Dylai dogfennaeth ymdrin â:
Gall fod o gymorth gofyn i gydweithiwr sydd heb weithio’n agos â’r set ddata o’r blaen i adolygu’r ddogfennaeth: yn aml mae’n haws i rywun â phersbectif allanol i sylwi ar fylchau, neu i nodi pethau y mae angen eu hegluro ymhellach.
Yn ogystal â darparu dogfennaeth y gellir ei defnyddio ochr yn ochr â’r set ddata i gynorthwyo dealltwriaeth, mae hefyd yn bwysig cael metadata da, neu ddata am y data. Mae hyn yn aml ar ffurf cofnod catalog sy’n disgrifio’r set ddata gyfan. Mae darparu metadata priodol yn helpu gwneud set ddata yn haws ei darganfod, gan gynyddu’r gobeithion o’i hailddefnyddio. Mae metadata cyfoethog yn agwedd allweddol ar yr egwyddorion canfyddadwy, hygyrch, rhyngweithredol ac ailddefnyddiadwy (FAIR) ar gyfer data – gweler yr adran isod am ragor o fanylion.
Os yw data’n cynnwys deunydd trydydd parti (er enghraifft, os yw’n cynnwys deunydd o nifer o setiau data sy’n bodoli eisoes), mae’n bosibl bod deiliad/deiliaid yr hawliau wedi gosod cyfyngiadau ar yr hyn y gellir ei wneud â’r data. Mae’n bwysig cadw at unrhyw delerau defnyddio wrth rannu data, a sicrhau bod unrhyw amodau sy’n berthnasol i ailddefnyddwyr dilynol yn cael eu gwneud yn glir.
Gellir lliniaru rhai anawsterau posibl wrth ddefnyddio data trydydd parti trwy gynllunio ymlaen llaw. Er enghraifft, os ydych yn defnyddio rhywfaint o ddata trydydd parti na ellir eu rhannu, efallai y gellir strwythuro set ddata gyfunol mewn ffordd sy’n ei gwneud hi’n hawdd gwahanu’r data hwn oddi wrth weddill y deunydd. Mae hyn yn caniatáu i weddill y cynnwys gael ei rannu mewn modd priodol ar ddiwedd y prosiect – ynghyd â chyfeirnod llawn o’r deunydd trydydd parti na ellir ei rannu.
Lluniwyd Egwyddorion Data FAIR i hyrwyddo:
Lle bo’n gyfreithlon gwneud hynny, mae’r Brifysgol yn cefnogi’r consensws byd-eang cyffredin y dylai data ymchwil a gyllidir yn gyhoeddus fod ar gael yn agored cyn gynted ag y bo modd gyda chyn lleied o gyfyngiadau ag sydd angen.
Mae egwyddorion FAIR yn pwysleisio gallu peiriannau i ymdrin â data: yn sgil y twf mewn maint a chymhlethdod mae cefnogaeth gyfrifiadurol yn gynyddol angenrheidiol wrth ganfod ac ymdrin â data. Ymhlith pethau eraill, mae’r egwyddorion yn hyrwyddo’r defnydd o fetadata cyfoethog, dynodyddion parhaus, trwyddedau data, a geirfaoedd a rennir a safonau cymunedol. Mae egwyddorion FAIR wedi’u hatgynhyrchu’n llawn yn yr adran isod.
Er mai un o nodau allweddol yr egwyddorion yw hyrwyddo ailddefnyddio, nid yw data FAIR bob amser yn ddata agored. Os hwylusir y broses o ddarganfod drwy ddefnyddio metadata cyfoethog, ac os darperir manylion clir am y broses gwneud cais i gael mynediad at y data, yna gall hyd yn oed set ddata sensitif na ellir ei darparu’n agored gyrraedd lefel uchel o ran egwyddorion FAIR.
Wrth ddewis dull o rannu data, mae llawer o bethau i feddwl amdanynt:
Mae’r dull rhannu data delfrydol yn ei gwneud yn hawdd i’r rhai sydd â diddordeb i ddysgu am y data ac i gael copi, a bydd yn sicrhau bod y data’n parhau i fod ar gael ymhell i’r dyfodol.
Pa bynnag ddull a ddefnyddir, mae’n arfer da i gyhoeddiadau ymchwil sy’n defnyddio data i gynnwys datganiad argaeledd data. Nodyn byr yw hwn sydd naill ai’n nodi ble a sut y gellir cael mynediad at y data perthnasol, neu os nad oes rhywfaint neu’r cyfan o’r data ar gael, yn esbonio’r rheswm am hyn.
Trafodir manteision ac anfanteision rhai dulliau cyffredin o rannu data isod. Ceir rhagor o wybodaeth yn yr adran Opsiynau ar gyfer cadw eich data: gellir defnyddio nifer o’r opsiynau a restrir yno i rannu data.
Un o’r dulliau gorau o sicrhau bod data ar gael i’w hailddefnyddio yw trwy adneuo copi mewn archif neu gadwrfa ddata arbenigol. Mae archifau data’n bodoli at y diben penodol o gadw a rhannu data, ac o’r herwydd maent yn gymwys iawn i wneud data’n ddarganfyddadwy, yn hygyrch ac yn gynaliadwy.
Ymdrinnir yn fanylach ag archifau data yn yr adran Sut i gadw eich data ymchwil.
Mae polisi PCYDDS yn ei gwneud yn ofynnol i ymchwilwyr adneuo eu data ymchwil mewn archif data ymchwil pynciol addas lle bo ar gael: chwiliwch gofrestr Re3data gadwrfeydd data ymchwil, neu’r catalog sydd ar gael yn FAIRsharing i ddod o hyd i archif data sy’n gysylltiedig â’ch disgyblaeth chi.
Os nad oes archif addas ar gael, gallwch hefyd archifo eich data yng nghadwrfa’r Brifysgol.
Mae llawer o archifau data yn gallu cymhwyso rheolaethau mynediad i adneuon data, ac felly gallant fod yn opsiwn da ar gyfer data nad ydynt yn addas i’w rhannu’n gwbl agored. Ymdrinnir â hyn yn yr adran nesaf isod.
Mae llawer o wasanaethau’n bodoli gyda’r nod o’i gwneud yn hawdd rhannu deunydd ymchwil ar-lein (gan gynnwys data ond heb fod yn gyfyngedig i hynny). Gallai’r rhain fod yn wasanaethau a ariennir yn gyhoeddus neu’n rhai masnachol, ac maent yn cynnwys Zenodo.
Mae’r llwyfannau hyn yn amrywio cryn dipyn, felly mae’n bwysig gwirio’r telerau a’r amodau’n ofalus. Gallant ddarparu ffordd gyflym a chyfleus o sicrhau bod data a deunyddiau eraill ar gael, ond efallai na fydd data mor hawdd eu darganfod, ac nid ydynt bob amser yn gwarantu cynaliadwyedd. Yn gyffredinol maent hefyd yn llai tebygol na chadwrfeydd arbenigol neu wasanaethau sefydliadol o gynnig curadu gweithredol neu reolaethau mynediad.
Os oes gwefan gan eich prosiect, efallai y bydd yn briodol cadw copi o’r data yno. Gall hyn fod yn ffordd effeithiol o rannu’r data gyda’r cyhoedd yn ehangach, ac efallai y bydd yn caniatáu i chi gynnig nodweddion na fyddai ar gael drwy archif data, fel rhyngwyneb chwilio penodol.
Fodd bynnag, nid yw’n ddoeth dibynnu ar hyn fel yr unig ddull o wneud data ar gael yn y tymor hir. Mae cynnal gwefan wedi i brosiect ddod i ben yn cyflwyno nifer o heriau: yn gyffredinol mae cyrff cyllido’n amharod i dalu costau sy’n codi ar ôl y cyfnod grant, ac mae aelodau’r tîm prosiect yn debygol o symud ymlaen at weithgarwch arall, ac felly mae’n anodd rhagweld am ba hyd y bydd gwefan prosiect yn parhau’n ddichonadwy. Felly dylid ystyried gwefan prosiect fel dull ychwanegol o rannu data ochr yn ochr ag adneuo copi mewn archif data, yn hytrach nag fel dewis arall yn lle hynny.
Mewn rhai meysydd, gall ymchwilwyr ddarparu ffeiliau data i’w cyhoeddi ochr yn ochr ag erthygl cyfnodolyn sy’n cyflwyno’r casgliadau y daethpwyd iddynt ar sail y data. Mae’r dull hwn yn ei gwneud yn hawdd iawn i ddarllenwyr gael mynediad at y data, ac mae ganddo’r fantais o gyflwyno yn ei gyd-destun. Os yw’r cyfnodolyn yn un sefydledig, mae hefyd yn debygol y bydd y data’n parhau i fod ar gael am gyfnod sylweddol (er ei bod yn werth gwirio telerau ac amodau’r cyfnodolyn i weld a yw hyn wedi’i warantu).
Fodd bynnag, unwaith eto ceir rhesymau pam na ddylid dibynnu ar hyn fel yr unig ddull o rannu data. Er bod gwneud y data ar gael fel hyn yn gyfleus i ddarllenwyr, efallai y bydd yn anoddach i eraill sydd â diddordeb darganfod y data. Yn ogystal, yn aml bydd y data sy’n berthnasol i erthygl benodol yn is-set yn unig o’r data a gynhyrchir gan brosiect ymchwil. Lle bo modd, mae’n arfer da felly i adneuo fersiwn lawn o’r set ddata yn ogystal mewn archif data addas.
Mae wedi bod yn arfer cyffredin yn y gorffennol i ymchwilwyr ychwanegu nodyn at gyhoeddiadau ymchwil i ddweud bod data ar gael ar gais rhesymol gan yr awduron. Fodd bynnag, nid yw hwn yn ddull delfrydol o rannu data: mae’n dibynnu ar allu darpar ailddefnyddwyr i gysylltu â’r ymchwilwyr gwreiddiol, a all fod yn anodd os oes tipyn o amser wedi mynd heibio a manylion cyswllt wedi newid.
Hyd yn oed os yw’r data’n sensitif iawn, ac y byddai angen cytundeb rhannu data pwrpasol ar gyfer unrhyw ailddefnyddio, mae’n well, os oes modd, cael archif data arbenigol i ymwneud â’r broses hon, yn hytrach na rhoi’r cyfrifoldeb ar ymchwilwyr unigol. Mae gan rai archifau data brosesau ar waith i drosglwyddo ceisiadau yn ôl i grewyr data pan fo angen, ac efallai y bydd yn bosibl dod i gytundeb ymlaen llaw ynghylch pa gamau y dylid eu cymryd (os o gwbl) os na ellir dod o hyd i’r crewyr data.
Os nad oes dull rhannu arall yn ymarferol, byddai gwneud data ar gael ar gais yn well na pheidio â’u gwneud ar gael o gwbl, ond dylid ystyried hynny’n ddewis olaf, a’i fabwysiadu dim ond ar ôl ymdrin â’r holl bosibiliadau eraill.
Mae nifer o resymau dilys dros beidio â gwneud data ar gael i’r cyhoedd. Mae rhai o’r rhain yn ymwneud â natur y data eu hun (e.e. os yw’r data’n gyfrinachol neu’n sensitif mewn ffordd arall), tra bydd eraill yn deillio o natur y broses ymchwil (e.e. efallai bod ymchwilwyr yn dal i weithio ar eu prif ddadansoddiad, neu’n bwriadu ceisio am batent). Sylwer os ydych yn bwriadu rhannu data cyfrinachol, mae’n debygol y bydd angen i chi gael cytundeb rhannu data ar waith.
Fodd bynnag, hyd yn oed os na ellir rhannu data’n agored, neu eu rhannu ar unwaith, nid yw hyn yn golygu’n awtomatig na ellir eu rhannu o gwbl. Mae’r adrannau isod yn archwilio rhai o’r opsiynau ar gyfer cyfyngu mynediad at ddata sydd wedi’u hadneuo mewn archif data.
Cydnabyddir yn gyffredinol bod gan ymchwilwyr hawl i gyfnod o fynediad breintiedig pan allant weithio ar y data cyn eu gwneud ar gael i eraill. Fodd bynnag, os yw’r cyfnod hwn yn ymestyn y tu hwnt i ddiwedd ffurfiol prosiect – oherwydd bod ymchwilwyr yn aros i gyhoeddiadau ymddangos, er enghraifft – efallai y bydd yr adeg pryd y gellir rhannu’r data’n digwydd pan fydd ymchwilwyr eisoes wedi symud ymlaen at brosiectau eraill. Mae hyn ar y gorau yn boendod, ac ar y gwaethaf gallai ei wneud yn llawer llai tebygol y bydd data’n cael eu rhannu.
Ateb cyfleus i’r broblem hon yw adneuo copi o’r data mewn archif sy’n caniatáu i’r data gael eu rhoi dan embargo cyfnod penodol. Golyga hyn fel arfer y bydd cofnod metadata ar gael ar gyfer y data, ond ni fydd modd lawrlwytho’r data eu hun tan i’r embargo ddod i ben.
Mantais arall i’r dull hwn yw bod modd dyfynnu’r data cyn iddynt fod ar gael yn gyhoeddus, ac felly gellir eu cyfeirnodi mewn cyhoeddiadau ymchwil a datganiadau argaeledd data.
Mae hyd yr embargo y bernir ei fod yn briodol yn amrywio rhwng disgyblaethau a rhwng cyrff cyllido. Mae cyllidwyr yn mynnu’n aml y dylai data fod ar gael cyn gynted ag y bo modd; mae rhai yn pennu cyfnod amser penodol (all weithiau fod yn fyrrach na’r hyn y byddai ymchwilwyr yn dymuno iddo fod), er y gall fod lle i drafod os oes rhesymau da dros oedi.
Gall rhai archifau data weithredu ystod o gyfyngiadau mynediad gwahanol. Mae rheolaethau mynediad cyffredin yn cynnwys:
Fodd bynnag, mae darpariaeth yn y maes hwn yn amrywio’n sylweddol: ni fydd pob archif data yn gallu cynnig yr holl opsiynau a restrir uchod, ac efallai y bydd rhai yn cynnig opsiynau eraill. Mae’n bwysig felly ymchwilio’n gynnar i’r hyn sydd ar gael mewn archifau o ran data yn eich disgyblaeth chi, fel y gallwch gynllunio ar gyfer rhannu yn y pen draw gyda hyn mewn golwg.
Am enghraifft o gadwrfa sy’n cynnig haenau mynediad lluosog, gweler tudalen Gwasanaeth Data’r DU ar Reoli mynediad. .
Efallai y bydd rhai archifau data’n gofyn i chi enwebu stiward data. Person yw hwn all gymryd cyfrifoldeb am ateb cwestiynau (a lle bo’n briodol, wneud penderfyniadau) am eich data rhag ofn na ellir cysylltu â chi. Os oes modd, mae’n well enwebu deiliad swydd benodol yn hytrach nag unigolyn a enwir.
Mae trwydded yn esbonio’r telerau ar gyfer defnyddio’ch data – gan wneud yn glir yr hyn a all fod fel arall yn sefyllfa gyfreithiol eithaf cymhleth. Os yw eich ymchwil wedi’i gyllido, bydd angen i chi gydymffurfio ag unrhyw ofynion trwyddedu gan gyllidwyr wrth adneuo eich data ymchwil.
Mae trwydded yn ddatganiad ffurfiol a gyhoeddir gan ddeiliad yr hawliau i waith penodol (e.e. cronfa ddata neu set ddata arall), sy’n rhoi caniatâd i ddefnyddio’r gwaith mewn ffyrdd penodol. Er enghraifft, efallai y byddwch yn nodi, os caiff eich data eu hailddefnyddio, ei bod yn rhaid eich crybwyll chi fel y crëwr, neu ei bod yn rhaid i’r data gael eu defnyddio at ddibenion ymchwil ac addysgol, ond nid mewn cyd-destunau masnachol.
Mae trwyddedau data’n perthyn i ddau gategori eang:
Mae’r rhain yn rhoi hawliau i unigolion neu endidau penodol. Maent fel arfer ar ffurf contract cymharol ffurfiol, y bydd angen i’r ddau barti gytuno arno.
Mae’r rhain yn rhoi hawliau i unrhyw un, yn aml yn amodol ar rai amodau sylfaenol fel cydnabod crëwr y data. Maent fel arfer ar ffurf datganiad byr sy’n cyd-fynd â’r set ddata, weithiau gyda dolen i wybodaeth fwy cynhwysfawr mewn man arall.
Os bydd darpar ailddefnyddiwr yn dymuno ailddefnyddio’ch data at ddiben nad yw’r drwydded agored yn ymdrin ag ef, gall gysylltu â chi o hyd i drafod y posibilrwydd – ond mae’r drwydded yn dileu’r angen i wneud hyn mewn achosion syml.
Ymhlith y trwyddedau agored a ddefnyddir yn gyffredin ar gyfer data mae Creative Commons a Open Data Commons. Ar y llaw arall, os ydych chi’n rheoli’r holl hawliau i’ch set ddata, ac rydych yn dymuno ei gwneud ar gael i eraill ei defnyddio heb unrhyw gyfyngiadau o gwbl, gallech ystyried defnyddio ymrwymiad a hawlildiad parth cyhoeddus Creative Commons Open Data CC Zero.
Mae canllaw’r Ganolfan Curadu Digidol (DCC) How to License Research Data yn rhoi trosolwg defnyddiol.