Gwasanaethau Digidol » Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu (LLR) » Mynediad Agored ac Ymchwil » Traethodau Ymchwil a Thraethodau Hir
Nod y Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu yw cadw copïau o’r holl draethodau ymchwil llwyddiannus ar gyfer graddau ymchwil a’r traethodau hir Meistr y dyfarnwyd rhagoriaeth iddynt, a ysgrifennwyd yn y Gymraeg, neu sydd yn y disgyblaethau Cymraeg, Astudiaethau Celtaidd neu hanes Cymru.
Yn y canllaw hwn gallwch ddysgu sut i ddod o hyd i draethodau ymchwil a thraethodau hir y Brifysgol, hefyd ceir cyfarwyddiadau ar gyfer cyflwyno eich gwaith eich hun i’n Cadwrfa Ymchwil.
Mae archifo eich traethawd ymchwil neu draethawd hir yng Nghadwrfa Ymchwil y Brifysgol yn ofynnol ar gyfer yr holl ymchwilwyr ôl-raddedig llwyddiannus ac mae hyn yn caniatáu i’ch gwaith gael ei ddarganfod gan fyfyrwyr a staff prifysgol eraill, a chan ymchwilwyr ar draws y byd.
Pan fyddwch yn cyflwyno eich gwaith, mae’n weladwy nid yn unig yn y Gadwrfa. Mae ein Cadwrfa yn cael ei fynegeio gan beiriannau chwilio mawr megis Google Scholar a Microsoft Bing, gan wneud eich ymchwil yn hygyrch i’r gymuned academaidd fyd-eang.
Mae’r traethodau ymchwil a thraethodau hir yn ein Cadwrfa yn cael eu cywain yn uniongyrchol gan gronfa ddata ProQuest Dissertations and Theses Global ac mae ein traethodau ymchwil doethurol yn cael eu cynnwys yng ngwasanaeth Electronic Theses Online (EThOS) y Llyfrgell Brydeinig. Mae cynnwys y Gadwrfa hefyd yn cael ei gynnwys mewn gwasanaethau cydgasglu megis Core.ac.uk
Gallwch ddod o hyd i draethodau ymchwil a thraethodau hir presennol drwy amrywiaeth o ffynonellau:
Mae llawer o draethodau ymchwil a thraethodau hir a gyflwynwyd i’w harholi cyn 2018 yn cael eu cadw mewn print yn unig ac nid ydynt ar gael ar-lein. Ar hyn o bryd mae’r Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu yn treialu rhaglen ddigideiddio i ganiatáu i fyfyrwyr a staff ofyn am gopi digidol o un o draethodau ymchwil neu draethodau hir y Brifysgol ar gais.
Bydd opsiwn i wneud cais yn arddangos ar Gatalog y Llyfrgell wrth chwilio am draethodau ymchwil a thraethodau hir sy’n gymwys:
Wrth wneud cais am gopi digidol o draethawd estynedig, gofynnir i chi lenwi ffurflen gyda’ch manylion.
Bydd tîm y Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu yn sganio’r traethawd estynedig ac yn ychwanegu’r copi digidol at y Gadwrfa. Bydd sganiau’n cael eu darparu mewn fformat PDF hygyrch.
Mae’r gwasanaeth cais i ddigideiddio’n cwmpasu’r casgliad traethodau ymchwil a thraethodau hir yn Llambed. Er nad yw’r casgliadau traethodau estynedig yn Abertawe wedi’u cynnwys ar hyn o bryd, os bydd y cynllun peilot yn llwyddiannus, byddwn yn eu hagor i geisiadau maes o law. Bydd eitemau nad ydynt wedi’u cynnwys yn y cynllun peilot yn parhau i fod ar gael i’w darllen yn y llyfrgell.
Nod y Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu yw cadw copïau o’r holl draethodau ymchwil llwyddiannus ar gyfer graddau ymchwil yng Nghadwrfa’r Brifysgol.
Pan gewch eich hysbysu am ddyfarniad eich gradd, bydd myfyrwyr ymchwil yn derbyn e-bost gyda chyfarwyddiadau a dolen i lanlwytho eich traethawd ymchwil i’r gadwrfa. Dylai eich traethawd ymchwil fod fel a ganlyn:
Hefyd bydd angen i chi lenwi a llofnodi’r ffurflen gyhoeddi, i gadarnhau eich bod yn deall yr amodau sy’n berthnasol i roi eich traethawd ymchwil ar gael yn y gadwrfa. Dylid ei hanfon i openaccess@uwtsd.ac.uk ar adeg cyflwyno eich gwaith.
Lanlwythwch fersiwn terfynol, derbyniedig eich traethawd ymchwil mewn fformat ffeil PDF hygyrch .
Dylid lanlwytho traethawd ymchwil dim ond ar ôl cael cadarnhad ei fod wedi’i dderbyn. Peidiwch â cheisio lanlwytho eich traethawd ymchwil i’r gadwrfa tan i chi dderbyn cadarnhad i fynd ymlaen gan y Brifysgol.
Ar ôl lanlwytho eich traethawd ymchwil, caniatewch 6 wythnos i’ch traethawd ymchwil gael ei roi ar gael yn y gadwrfa. Sylwer bod archifo mewn gwasanaethau allanol megis Electronic Theses Online gan y Llyfrgell Brydeinig, Google Scholar a ProQuest y tu allan i reolaeth y Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu a gall gymryd mwy o amser.
I gael cymorth pellach gyda’r broses lanlwytho, cysylltwch ag openaccess@uwtsd.ac.uk
Mae traethodau hir graddau Meistr sydd wedi cael dyfarniad rhagorol, neu fel arall sydd wedi cael gradd llwyddo ac wedi’u hysgrifennu yn Gymraeg neu maent yn nisgyblaethau academaidd y Gymraeg, Astudiaethau Celtaidd neu Hanes Cymru, yn cael eu harchifo yng nghadwrfa’r Brifysgol. Nid yw’r Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu yn cadw traethodau hir graddau Meistr nad ydynt yn bodloni’r meini prawf hyn, na thraethodau hir israddedig.
Anfonir e-bost awtomatig â dolen i ffurflen ar y we i lanlwytho eu traethawd hir at fyfyrwyr sy’n cyflwyno traethawd hir eu gradd Meistr, ac ni ddylent gyflwyno gwaith yn uniongyrchol i’r gadwrfa. Dylai eich traethawd hir fod fel a ganlyn:
Cedwir eich traethawd hir tan i’r broses asesu gael ei chwblhau. Os bydd eich gwaith yn bodloni’r meini prawf ac mae’n gymwys i’w archifo, caiff eich traethawd hir wedyn ei ychwanegu at gadwrfa’r brifysgol. Caniatewch 6 wythnos ar ôl derbyn eich canlyniad i’ch traethawd hir gael ei roi ar gael.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch ag openaccess@uwtsd.ac.uk
Pan roddir eich traethawd ymchwil ar gael ar-lein, ystyrir ei fod yn waith cyhoeddedig. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi gael caniatâd i gynnwys unrhyw ddeunydd sydd â hawlfraint.
Rhaid i’ch traethawd ymchwil fod yn waith gwreiddiol gennych chi, a rhaid i chi dderbyn caniatâd penodol i gynnwys delweddau neu ddeunydd arall nad ydych yn berchen ar yr hawlfraint amdanynt neu dynnu’r rhain o’r fersiwn rydych yn ei lanlwytho i’r gadwrfa.
Nid oes rhaid ceisio caniatâd i gynnwys y canlynol:
Oni bai ei fod wedi’i drwyddedu’n eglur i’w ailddefnyddio, rhaid i chi geisio caniatâd i gynnwys y canlynol:
Os na allwch geisio caniatâd, gallwch dynnu unrhyw gynnwys trydydd parti o’r fersiwn o’ch traethawd ymchwil neu draethawd hir y byddwch yn ei lanlwytho i’r gadwrfa, ac yn lle’r cynnwys trydydd parti hwnnw roi cyfeiriad a dolen i’r we i’r deunydd a dynnwyd, neu ddisgrifiad ohono.
Gallwch gynnwys deunydd â hawlfraint yn y fersiwn heb ei gyhoeddi o’ch traethawd ymchwil y byddwch yn ei gyflwyno i’w asesu ar yr amod ei fod wedi’i gyfeirnodi’n gywir, yn bwysig i’ch dadl ac yn deg i berchennog yr hawlfraint.
Ceir gwybodaeth a chymorth pellach am hawlfraint yn ein Hwb Hawlfraint neu drwy gysylltu â copyright@uwtsd.ac.uk
Fel myfyriwr, mae gennych hawlfraint fel awdur eich holl waith a gyflwynir i’w asesu. Mae’r hawliau a roddir i’r gadwrfa yn rhai anghynhwysol ac rydych yn rhydd i gyhoeddi eich gwaith yn ei fersiwn presennol neu fersiynau’r dyfodol mewn lleoedd eraill.
At ddibenion cyhoeddi, gall PCYDDS storio, copïo, neu gyfieithu’ch traethawd ymchwil neu draethawd hir yn electronig er mwyn ei gadw i’r dyfodol a hygyrchedd.
Mae traethodau hir a thraethodau ymchwil sydd wedi’u harchifo yn y gadwrfa ddigidol wedi’u trwyddedu dan delerau Creative Commons. Mae hyn yn caniatáu i bobl eraill rannu eich ymchwil ac adeiladu arno, ond rhaid iddynt roi cydnabyddiaeth i chi fel yr awdur.
Caiff traethodau ymchwil a thraethodau hir eu cadw’n barhaol yn archif o weithgarwch ymchwil y Brifysgol a gellir eu tynnu’n ôl dim ond dan yr amodau a amlinellir yn ein polisi dileu deunydd.
Os hoffech gyhoeddi eich ymchwil yn rhywle arall, dan rai amgylchiadau efallai gallwch ofyn i’ch traethawd ymchwil gael ei atal o’r Gadwrfa Ymchwil am gyfnod penodol.
I ganiatáu cyhoeddi yn y dyfodol, dim ond crynodeb traethodau ymchwil a thraethodau hir ym maes ysgrifennu creadigol a gedwir yn y Gadwrfa, ac nid y testun llawn. Dylai myfyrwyr ysgrifennu creadigol sy’n dymuno cyflwyno crynodeb nodi hyn yn eglur yn eu cyflwyniad i’r gadwrfa er mwyn i’r cofnod gael ei gatalogio’n briodol.
Os ydy’ch ymchwil yn fasnachol hyfyw neu os ydych yn dymuno cyhoeddi eich gwaith mewn cyfnodolyn neu lyfr, gallwch wneud cais i wahardd mynediad er mwyn atal testun llawn eich traethawd ymchwil rhag bod yn hygyrch yn gyhoeddus am hyd at 5 mlynedd. Rhaid i chi wneud cais cyn neu yn ystod y broses gyflwyno derfynol; fel arfer nid ystyrir ceisiadau a wneir ar ôl i’ch gradd gael ei dyfarnu.
I wneud cais i wahardd mynediad, bydd angen i chi lenwi’r ffurflen PG27 Gwaharddiad ar Fynediad sydd ar gael o Borth y Coleg Doethural a chael llofnod cymeradwyo gan eich Cyfarwyddwr Astudiaethau. Wedyn bydd angen i’r gwaharddiad gael ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Graddau Ymchwil.
Os cymeradwyir gwaharddiad ar fynediad, bydd dal angen i chi lanlwytho eich traethawd ymchwil ond caiff y cynnwys testun llawn ei gyfyngu am y cyfnod a gytunwyd. Pan ddaw’r gwaharddiad i ben, daw testun llawn eich traethawd ymchwil ar gael i’r cyhoedd.
Mae’r broses o wneud cais i wahardd mynediad yn berthnasol i fyfyrwyr graddau ymchwil yn unig.
Mae cyfarwyddyd pellach ar gael yn y Cod Ymarfer ar gyfer Graddau Ymchwil, dan Reoliadau Graddau Ymchwil yn y Llawlyfr Ansawdd Academaidd.