Gwasanaethau Digidol » Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu (LLR) » Sgiliau Academaidd a Gwybodaeth
Lluniwyd ein rhaglen Sgiliau i greu cyfleoedd i fyfyrwyr ddatblygu eu sgiliau academaidd a gwybodaeth trosglwyddadwy, gan hyrwyddo eu llwyddiant academaidd a’u cyflogadwyedd. Mae’r cwricwlwm yn cwmpasu ystod eang o bynciau – o newyddion ffug i reoli eich presenoldeb ar-lein.
Bydd sesiynau’n cael eu harchebu gan diwtor eich cwrs/modwl ond mae ein tîm o Lyfrgellwyr Cyswllt Academaidd hefyd wedi datblygu cyfres o Unedau arlein i helpu chi ddatblygu’r sgiliau yma unrhywbryd, unrhywle. Cliciwch isod i ddechrau (bydd hyn yn mynd a chi i Moodle lle bydd angen mewngofnodi a’ch manylion PCYDDS):
Am rhagor o help gallwch bwcio apwyntiad neu ebostio ni: infoskills@uwtsd.ac.uk.

Mae Darganfod a Defnyddio gwybodaeth yn gofyn i chi feddwl am y math o wybodaeth sydd ei hangen arnoch, ble i ddod o hyd iddo a sut i'w gwerthuso.

Mae'r Cwrs yma yn helpu chi i ddeall pam bod cyfeirnodi yn bwysig a pha un o'r 4 arddull gydnabyddedig o gyfeirnodi dylech ei ddefnyddio.

Cyflwyno pynciau gan gynnwys Cyhoeddi Mynediad Agored a Rheoli Data Ymchwil.

Os oes angen rhywfaint o help, cyngor neu ychydig o anogaeth gyfeillgar arnoch, gallwch archebu apwyntiad gydag aelod o’n tîm ar amser sy’n gyfleus i chi.

Nod y sesiwn hwn yw darparu cyflwyniad i’n Casgliadau Arbennig ac Arcihfau.

Mae cyfeirnodi cywir yn sgil hanfodol. Wrth ysgrifennu aseiniad, disgwylir i chi gydnabod gwaith pobl eraill drwy ei gyfeirnodi mewn fformat cydnabyddedig a chyson.

Rhaglen ar-lein ar gyfer rheoli, ysgrifennu a chydweithredu ym maes ymchwil yw RefWorks, a’i nod yw helpu ymchwilwyr i gasglu, rheoli, storio a rhannu pob math o wybodaeth, yn ogystal â chreu cyfeiriadau a llyfryddiaethau.

Mae’r adnoddau isod yn gallu eich helpu chi gyda’ch ymchwil.

Ni yw’r man gwybodaeth canolog ar gyfer myfyrwyr a staff PCYDDS ar hawlfraint a sut mae’n berthnasol i wahanol gyfryngau mewn amrywiol gyd-destunau.