chat loading...

Adnoddau ar Gyfer Ymchwil

Mae’r adnoddau isod yn gallu eich helpu chi gyda’ch ymchwil.

LibKey Nomad

Mae LibKey Nomad yn estyniad i borwr sy’n darparu’n awtomatig fynediad i destun llawn erthyglau cyfnodolion ac e-lyfrau y mae’r Drindod Dewi Sant yn tanysgrifio iddynt, neu i fersiynau amgen sydd â mynediad agored, tra byddwch yn gwneud eich ymchwil ar y we.

Sut mae’n gweithio?

Mae Libkey Nomad yn gwirio gwybodaeth llyfrgell am ei daliadau ac wedyn mae’n gwirio am fersiynau amgen mynediad agored er mwyn sicrhau eich bod yn cael eich cyfeirio at y fersiwn gorau o erthygl sydd ar gael.   Mae hefyd yn integreiddio’n uniongyrchol â PubMed gan ganiatáu i chi lawrlwytho erthyglau o’r canlyniadau chwilio.

Rhan o dudalen chwilio PubMed gyda'r ymadrodd 'hypertension' wedi'i nodi yn y blwch chwilio, yn dangos canlyniadau erthyglau meddygol am gorbwysedd a hypertension, gyda llawlyfr defnyddiwr a ffilterau ar gyfer hidlo canlyniadau a theitlau erthyglau, a bar dyddiadau set o 1908 i 2024.

Sut dylwn i ei osod ar fy nghyfrifiadur?

Mae LibKey Nomad ar gael i’r porwyr mwyaf poblogaidd (Chrome, Firefox, Edge, Safari).

Sut i’w ddefnyddio

Pan fyddwch chi’n glanio ar dudalen ag erthygl sydd ar gael i’w lawrlwytho, bydd LibKey Nomad yn arddangos rhybudd ar ochr chwith gwaelod eich sgrin.

Hafan dudalen gwe sy'n dangos erthygl ymchwil o'r enw "Datblygiad Cerameg Wyneb sy'n Cynnwys Molibdenwm yn Seiliedig ar Glawdd Isel-Plastig" gyda chysylltiadau awduron, disgrifiad cryno o'r pwnc, a dewisiadau i brynu PDF neu danysgrifiad; yn is na'r disgrifiad mae botwm lawrlwytho PDF wedi'i amgylchynu mewn cylch coch yng nghornel isaf chwith y sgrin.

Cliciwch ar hwn i lawrlwytho’r PDF, os ydych chi oddi ar y campws, gofynnir i chi fewngofnodi drwy sgrin fewngofnodi’r Drindod Dewi Sant gyda’ch enw defnyddiwr a chyfrinair prifysgol.  Nid yw LibKey Nomad yn storio’ch manylion mewngofnodi.

Os nad oes tanysgrifiad gan y brifysgol ac nid oes fersiwn mynediad agored ar gael, bydd y botwm Access Options yn ymddangos.  Os cliciwch ar hwn bydd yn mynd â chi i catalog y llyfrgell lle gallwch wneud cais am yr eitem drwy ein Gwasanaeth Angen Rhagor.

Mae LibKey Nomad hefyd yn rhoi mynediad i e-lyfrau bellach.  Os ydy’r Drindod Dewi Sant yn tanysgrifio i’r e-lyfr, bydd y botwm View E-book yn ymddangos ar y dudalen.  Os ydych chi oddi ar y campws, gofynnir i chi fewngofnodi drwy sgrin fewngofnodi’r Drindod Dewi Sant gyda’ch enw defnyddiwr a chyfrinair prifysgol. Nid yw LibKey Nomad yn storio’ch manylion mewngofnodi.  Mae’r botwm yn gweithio ar blatfformau megis Amazon, Wikipedia a Google Books yn ogystal â phlatfformau cyhoeddwyr.

Oes unrhyw beth arall y dylwn ei wybod?

  • Nid oes angen i chi greu cyfrif gyda LibKey Nomad.
  • Nid yw LibKey Nomad yn cadw eich manylion mewngofnodi.
  • Mae LibKey Nomad yn gweithio ar safleoedd e-lyfrau cyhoeddwyr ysgolheigaidd neu gronfeydd data penodol yn unig, mae pob parth arall yn cael ei anwybyddu
Dynes ifanc yn eistedd wrth ddesg mewn llyfrgell neu ystafell astudio modern gyda golau naturiol, yn ysgrifennu gyda phen i law mewn llyfr agored gyda chyfrifiadur gliniadur ar y desg gerllaw.

Google Scholar

Mae Google Scholar yn gallu bod yn offeryn ymchwil defnyddiol, sy’n chwilio ar draws ystod eang o lenyddiaeth academaidd.  Gallwch ddod o hyd i erthyglau, traethodau ymchwil, penodau llyfrau a chrynodebau cynadleddau yno o gadwrfeydd ymchwil prifysgolion a gwefannau ysgolheigaidd.

Sut gallaf wneud y defnydd gorau ohono?

Pan fyddwch chi ar y campws, mae Google Scholar wedi’i ffurfweddu i ddangos yr opsiynau testun llawn sydd ar gael i chi drwy danysgrifiadau’r llyfrgell. Bydd clicio ar View It @UWTSD Library yn mynd â chi i’r eitem o fewn catalog y llyfrgell.

Gallwch chi hefyd ffurfweddu Google Scholar i ddangos hyn pan fyddwch chi oddi ar y campws.

  1. Ewch i Google Scholar
  2. Dewiswch settings o’r ddewislen yng nghornel chwith uchaf y sgrin
  3. Ewch i Library Links, chwilio am University of Wales Trinity Saint David a dewis ‘View It @ UWTSD Library’
  4. Cliciwch y botwm save

Gallwch chi hefyd osod Google Scholar i fewnforio cyfeiriadau’n syth i mewn i RefWorks, yr offeryn rheoli cyfeiriadau.

  1. Dewiswch settings o’r ddewislen yng nghornel chwith uchaf y sgrin
  2. Dan Search Results fe welwch y Bibliography Manager
  3. Dan Show links to import citations into, dewiswch RefWorks o’r gwymplen
  4. Cliciwch y botwm save

Dyna ni, rydych chi’n barod i fynd.

Cofiwch fod Google Scholar yn defnyddio ystod eang o ffynonellau ac ni fyddant i gyd o ansawdd uchel.  Er byddwch efallai yn dod o hyd i rai adnoddau defnyddiol mae’n hanfodol eu gwerthuso.  Gallwch ddysgu rhagor am hyn yn ein hadran Sgiliau.