Gwasanaethau Digidol » Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu (LLR) » Sgiliau Academaidd a Gwybodaeth » Llawlyfrau Cyfeirnodi
Mae cyfeirnodi cywir yn sgil hanfodol. Wrth ysgrifennu aseiniad, disgwylir i chi gydnabod gwaith pobl eraill drwy ei gyfeirnodi mewn fformat cydnabyddedig a chyson.
Yn achos cyfeirnodi, mae digon o gyngor a meddalwedd ar gael sy’n anghyson neu sydd wedi dyddio. Rydym wedi creu’r Llawlyfrau Cyfeirnodi mewn cydweithrediad â’r Swyddfa Academaidd a staff academaidd ar draws y Brifysgol er mwyn rhoi canllawiau a chymorth cyson i chi.
Mae’r llawlyfrau’n rhoi egwyddorion sylfaenol cyfeirnodi a llên-ladrad i chi, sut i gael cymorth a pha adnoddau ychwanegol y gallwch eu defnyddio ar gyfer enghreifftiau mwy penodol o’r arddull gyfeirnodi rydych yn ei defnyddio.
Yn y Drindod Dewi Sant mae pedair arddull gydnabyddedig o gyfeirnodi ac mae p’un i’w defnyddio’n dibynnu ar eich maes astudio. I gael gwybod p’un y dylech ei defnyddio, edrychwch yn eich Llawlyfr Rhaglen, a lawrlwytho’ch copi yma.
Os oes gennych amheuon, cysylltwch â’ch Llyfrgellydd Cyswllt Academaidd.
Diweddariad Ebrill 2023
Mae’r holl enghreifftiau’n defnyddio ChatGPT (trawsnewidydd cyn-hyfforddedig cynhyrchiol)
Yn dilyn ymholiadau myfyrwyr a diffyg gwybodaeth am y pwnc ar hyn o bryd, mae LlAD wedi ceisio cyngor gan Dr Richard Pears, un o awduron Cite Them Right: The Essential Referencing Guide. Yn sgil esblygiad cyflym rhaglenni Deallusrwydd Artiffisial (AI) a ddefnyddir mewn addysg, ac absenoldeb ymatebion gan sefydliadau addysgol a chyhoeddwyr academaidd, mae’r awduron yn cadw’r hawl i newid yr arweiniad hwn yn y dyfodol. Gwiriwch yn rheolaidd ar gyfer unrhyw ddiweddariadau. Mae gwasanaeth ar-lein Cite them Right hefyd wedi ychwanegu’r wybodaeth hon yn ddiweddar a gellir ei defnyddio’n ffynhonnell cymorth.
Uniondeb academaidd yw bod yn onest mewn unrhyw waith a wnewch chi yn eich astudiaethau. Mae defnyddio trydydd partïon (ffrindiau, melinau traethawd neu ddeallusrwydd artiffisial) y byddwch yn honni wedyn mai eich gwaith chi ydyw yn annerbyniol. Mewn rhai achosion, fodd bynnag, gall fod hawl defnyddio AI.
Ym mhob achos, cadarnhewch gyda’ch tiwtor a chyfeirio at frîff eich aseiniad i benderfynu a oes hawl defnyddio deunydd a gynhyrchir gan deallusrwydd artiffisial megis ChatGPT a sut y dymunant eich bod yn ei ddefnyddio. Os yw’n dderbyniol, rhaid i chi gydnabod a chyfeirnodi’n briodol yr holl gynnwys a ddefnyddiwch. Os na wneir hyn efallai y bydd achos o Gamymddwyn Academaidd.
Os yw eisoes ar gael ar-lein, gallwch ei ddyfynnu ar fersiwn electronig o ffynhonnell (megis gwaith celf neu erthygl).
Mae’r blodyn a gynhyrchir gan AI (Shutterstock AI, 2023) …
Shutterstock AI (2023) Llun o bwll gyda blodyn lotws [Celf ddigidol]. Ar gael yn: https://www.shutterstock.com/image-generated/photo-pond-lotus-flower-22…; (Darllenwyd: 31 Mawrth 2023)
Dosbarthir cynnwys a gynhyrchir gan AI megis ChatGPT yn ddeunydd anadferadwy. Mae’n amhosibl i ddarllenydd ddilyn na’i ddyblygu (gan nad yw wedi’i gyhoeddi) ac mae ar gael i chi yn unig. Felly, dylid ei ddyfynnu yn gyfathrebiad personol.
Dylech wneud y canlynol:
Pan ofynnwyd ‘beth yw llythrennedd gwybodaeth’? Roedd ymateb ChatGPT OpenAI (2023) yn cynnwys pwysigrwydd gwerthuso gwybodaeth yn feirniadol. Mae copi o’r ymateb hwn yn atodiad 1.
Ymateb ChatGPT OpenAI (2023) i Tom Jones, 3 Mawrth.
Yn IEEE, mae negeseuon personol wedi eu cynnwys ar ffurf dyfyniadau wedi eu rhifo yn y testun sy’n cyd-fynd â’r cofnod cyfatebol yn y rhestr gyfeiriadau. Defnyddiwch enw llawn yr offeryn AI yn awdur.
1. ChatGPT OpenAI, cyfathrebiad preifat, Chwef. 2023
Yn 7fed arddull APA, dyfynnir cyfathrebiadau personol yn y testun yn unig. Nid oes gofyn i chi ei gynnwys yn y rhestr gyfeiriadau.
Pan ofynnwyd iddo esbonio …, roedd ymateb CatGPT OpenAI yn cynnwys … (cyfathrebu personol, 15 Mawrth, 2013)
(ChatGPT OpenAI, cyfathrebiad personol, 22 Chwefror, 2023)
Ym MHRA, mae cyfathrebiadau wedi eu cynnwys ar ffurf dyfyniadau yn y testun wedi’u rhifo sy’n cyd-fynd â’r troednodyn cyfatebol a’r llyfrgell. Does dim angen i’w gynnwys yn y llyfryddiaeth.