Gwasanaethau Digidol » Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu (LLR) » Strategaeth a Polisïau
Nod y Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu yw cefnogi a datblygu holl fyfyrwyr, staff ac ymchwilwyr y Brifysgol drwy roi mynediad i adnoddau dysgu a gwasanaethau gwybodaeth rhagorol.
Cymuned Gysylltiedig:
Llyfrgell wrth Wraidd y Brifysgol
Mae Polisi Datblygu Casgliadau’r Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu yn darparu fframwaith ar gyfer rheoli a datblygu ein casgliadau electronig a phrintiedig.
Mae hawlfraint yn darparu diogelwch cyfreithiol ar gyfer awdur/crëwr gwaith gwreiddiol; mae hyn yn cynnwys gweithiau llenyddol, artistig, dramatig a cherddorol, ffilmiau, a recordiadau sain. Os ydy gwaith â hawlfraint, ni all pobl gopïo neu addasu deunyddiau o’r fath heb ganiatâd pwy bynnag sy’n berchen ar yr hawlfraint, neu drwy gadw at y trwyddedau neu’r eithriadau cyfreithiol perthnasol. Mae’r Drindod Dewi Sant wedi ymrwymo i gydnabod a diogelu hawlfraint, boed yn eiddo i’r Brifysgol, ei chyflogeion, ei myfyrwyr, neu drydydd partïon.
We aim to work collaboratively and in partnership with our customers to offer innovative and effective learning spaces, facilities and resources, both onsite and online. Our Customer Charter is founded upon our values and commitments, it summarises what you can expect from us.
Mae’r Llyfrgell yn ddiolchgar am gynigion i roi eitemau ond, er mwyn cynnal casgliad perthnasol o safon uchel, ymddiheurwn na allwn dderbyn popeth a gynigir i ni. Gwiriwch ein Polisi Rhoddion am fanylion pellach.
Mae polisi’r Drindod Dewi Sant, a gadarnhawyd gan y Cyngor, yn croesawu ac yn annog ymhellach ymdrechion ymchwilwyr y Brifysgol i roi’u gwaith ar gael ar-lein yn rhad ac am ddim i’r darllenydd, cyn gynted â phosibl ar ôl iddo gael ei gyhoedd.
Mae’r Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â chydweithwyr mewn adrannau academaidd, i ddarparu’r ystod orau bosibl o adnoddau gwybodaeth, o fewn cyfyngiadau cyllideb, i’w cefnogi hwythau a’u myfyrwyr.
Rydyn ni i gyd yn creu gwybodaeth drwy ein gweithgareddau gwaith. Dylai’r wybodaeth hon (neu ‘gofnodion’) gael ei rheoli’n effeithlon, o’i chreadigaeth a’r defnydd ohoni hyd at ei gwaredu, mewn arfer o’r enw rheoli cofnodion.
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cymryd camau rhesymol i sicrhau bod y deunyddiau yn ei Chadwrfa yn gofnod cywir a dilys o weithgarwch ymchwil yn y sefydliad hwn.