chat loading...

Cod Moeseg Catalogio

Rhan 1 - Cyflwyniad

Crëwyd y Cod Moeseg Catalogio gan y Pwyllgor Llywio Moeseg Catalogio, sy’n cynnwys aelodau o gymunedau catalogio yn yr Unol Daleithiau, Canada a’r Deyrnas Unedig, gyda chymorth aelodau Gweithgorau o’r gymuned gatalogio ryngwladol.

Mewn ymateb i ddiddordeb amlwg a’r angen am gyfarwyddyd ar foeseg catalogio, ffurfiwyd y pwyllgor hwn i greu dogfen ddynamig ar foeseg catalogio sy’n ymgorffori profiadau a doethineb cyfunol y gymuned arfer catalogio.  Byddai’r ddogfen orffenedig yn cynnwys datganiadau moesegol yn seiliedig ar egwyddorion a gwerthoedd a nodwyd gan y pwyllgor a’r Gweithgorau, gyda chanllawiau ac enghreifftiau o arfer gorau, y gellir eu rhannu ar draws y gymuned gatalogio.

Gwefan y Pwyllgor Llywio Moeseg Catalogio

Diffinnir y term moeseg catalogio fel set o egwyddorion a gwerthoedd sy’n darparu fframwaith bwriadol ar gyfer gwneud penderfyniadau i’r rhai sy’n gweithio mewn swyddi catalogio neu fetadata.

Mae’r datganiadau moesegol sydd wedi’u rhestru yn Rhan 2 wedi’u bwriadu i lywio ein harfer proffesiynol a darparu arweiniad moesegol. Mae’r datganiadau’n seiliedig ar egwyddorion a gwerthoedd sylfaenol mewn gwaith catalogio, a nodwyd gan y Pwyllgor Llywio Moeseg Catalogio a’r Gweithgorau:

  • Mynediad at adnoddau a metadata
  • Cydnabod rhagfarn
  • Eiriolaeth
  • Cydweithio
  • Cymhwyso safonau’n feirniadol
  • Amrywiaeth, tegwch a chynhwysiant
  • Addysg a hyfforddiant
  • Parch at breifatrwydd a dewisiadau asiantau
  • Cyfrifoldeb a thryloywder
  • Deall a bodloni anghenion defnyddwyr

Gellir gweld fersiwn lawn y cyflwyniad hwn, ynghyd â rhestr o aelodau’r Pwyllgor Llywio Moeseg Catalogio a’r Gweithgorau.

Rhan 2 – Datganiadau Egwyddorion Moesegol

Byddwn yn defnyddio’r datganiadau moesegol hyn, nad ydynt wedi’u rhestru yma mewn unrhyw drefn benodol o ran pwysigrwydd, i arwain a gwella ein harferion catalogio:

  1. Rydym yn catalogio adnoddau yn ein casgliadau gyda’r defnyddiwr terfynol mewn golwg i hwyluso mynediad a hyrwyddo darganfod.

  2. Ymrwymwn i ddisgrifio adnoddau heb wahaniaethu gan barchu preifatrwydd a dewisiadau eu hasiantau cysylltiedig.

  3. Cydnabyddwn ein bod yn dod â’n rhagfarnau i’r gweithle; felly, ymdrechwn i oresgyn rhagfarnau personol, sefydliadol a chymdeithasol yn ein gwaith.

  4. Cydnabyddwn fod y gallu i ryngweithredu a chymhwyso safonau’n gyson yn helpu ein defnyddwyr i ddod o hyd i ddeunyddiau a’u defnyddio. Fodd bynnag, mae pob safon yn rhagfarnllyd; byddwn yn ymdrin â nhw’n feirniadol ac yn dadlau dros wneud catalogio’n fwy cynhwysol.

  5. Cefnogwn ymdrechion i sicrhau bod safonau ac offer yn hygyrch i bob catalogydd yn ariannol, yn ddeallusol ac yn dechnolegol, ac wedi’u datblygu gydag ymchwil seiliedig ar dystiolaeth a mewnbwn gan randdeiliaid.

  6. Cymerwn gyfrifoldeb am ein penderfyniadau catalogio gan ddadlau o blaid tryloywder yn ein harferion a’n polisïau sefydliadol.

  7. Cydweithiwn yn eang i gefnogi creu, dosbarthu, cynnal a chadw, a chyfoethogi metadata mewn amrywiol amgylcheddau ac awdurdodaethau.

  8. Mynnwn amrywiaeth, tegwch a chynhwysiant yn y gweithle. Hyrwyddwn addysg, hyfforddiant, cyflog teg, ac amgylchedd gwaith teg i bawb sy’n catalogio fel y gallant barhau i gefnogi chwilio a darganfod.

  9. Dadleuwn o blaid gwerth gwaith catalogio o fewn ein sefydliadau a chyda phartneriaid allanol.

  10. Gweithiwn gyda’n cymunedau defnyddwyr i ddeall eu hanghenion er mwyn darparu gwasanaethau perthnasol ac amserol.
Person ifanc mewn siaced olwyn i fyny yn dewis cylchgrawn o silff mewn llyfrgell fodern gyda llyfrau ar silffoedd cefndir a bwrdd astudio gyda laptop ac eitemau eraill