chat loading...

Datganiad ar Iaith Niweidiol

Mae Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cydnabod y posibilrwydd o eirfa hen ffasiwn neu niweidiol yn ein catalog, sy’n adlewyrchu tudeddiadau’r amserau y cafodd y cofnodion eu creu.

Yn yr un modd â llawer o lyfrgelloedd academaidd, disgrifir y casgliadau gan ddefnyddio geirfa reoledig, Penawdau Pwnc Llyfrgell y Gyngres yn bennaf, i ganiatáu i chwiliadau pwnc cyson gael eu cynnal.Mae’r terminoleg a ddefnyddir yn y broses o gael ei hadolygu; fodd bynnag, gallai termau hen ffasiwn neu ansensitif fod yn bresennol o hyd.

Rydym wedi ymrwymo i weithredu egwyddorion amrywiaeth, tegwch a chynhwysiant yn ein harferion catalogio, a defnyddio disgrifiadau llyfryddol sy’n cynrychioli grwpiau ymylol gyda pharch.  Rydym yn croesawu eich adborth ar unrhyw welliannau y gallwn eu gwneud.E-bostiwch ni yn library@uwtsd.ac.uk