Gwasanaethau Digidol » Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu (LLR) » Strategaeth a Polisïau » Polisi Datblygu Casgliadau
Mae Polisi Datblygu Casgliadau’r Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu yn darparu fframwaith ar gyfer rheoli a datblygu ein casgliadau electronig a phrintiedig. Mae’r polisi’n berthnasol i’r holl adnoddau yn ein llyfrgelloedd campws, ac eithrio casgliadau arbennig ac archifau, a’r nod yw sicrhau bod y deunydd sydd gennym yn adlewyrchu anghenion cymuned y Brifysgol.
Sylwer bod y Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu yn ymrwymedig i ddarparu detholiad diduedd o’r ystod ehangaf bosibl o ddeunydd i gefnogi nodau dysgu ac addysgu’r Brifysgol, ac nid yw cynnwys unrhyw adnodd penodol o fewn casgliadau’r llyfrgell yn gymeradwyaeth i’r farn a gynhwysir yn y gwaith.
Mae’r staff academaidd yn gyfrifol am sicrhau y rhoddir gwybod i’r Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu am yr adnoddau sydd eu hangen i gefnogi’u myfyrwyr, gan gynnwys nifer y myfyrwyr sy’n debygol o fod angen adnodd penodol. Gellir gwneud ceisiadau i brynu drwy ein gwasanaeth caffael a dylent gydymffurfio â’n Polisi Rhestrau Adnoddau Ar-lein.
Hefyd rydym yn croesawu awgrymiadau ar gyfer gwella amrywiaeth o fewn eich casgliadau o unrhyw ffynhonnell.
Mae’r Llyfrgell yn ddiolchgar am gynigion i roi eitemau ond, er mwyn cynnal casgliad perthnasol o safon uchel, ymddiheurwn na allwn dderbyn popeth a gynigir i ni. Gwiriwch ein Polisi Rhoddion am fanylion pellach.
Crëwyd y Cod Moeseg Catalogio gan y Pwyllgor Llywio Moeseg Catalogio, sy’n cynnwys aelodau o gymunedau catalogio yn yr Unol Daleithiau, Canada, a’r Deyrnas Unedig, gyda chymorth aelodau’r Grŵp Gwaith o’r gymuned gatalogio ryngwladol.
Rydym wedi ymrwymo i weithredu egwyddorion amrywiaeth, tegwch a chynhwysiant yn ein harferion catalogio, a defnyddio disgrifiadau llyfryddol sy’n cynrychioli grwpiau ymylol gyda pharch.
Cysylltwch â library@uwtsd.ac.uk am ragor o wybodaeth.