chat loading...

Polisi Dileu Deunydd Cadwrfa’r Drindod Dewi Sant

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cymryd camau rhesymol i sicrhau bod y deunyddiau yn ei Chadwrfa yn gofnod cywir a dilys o weithgarwch ymchwil yn y sefydliad hwn.

Rhoddir yr holl ddeunyddiau a adneuir yng Nghadwrfa’r Drindod Dewi Sant ar gael yn unol â pholisïau cyhoeddwyr (fel y’i nodir yn SHERPA RoMEO) a/neu gyda chaniatâd gan ddeiliaid hawliau.

Nid yw’n fwriad dileu deunydd ac eithrio yn unol â pholisi mewnol neu o dderbyn cwyn ddilys a brofwyd.

Gallai rhesymau derbyniol dros gwyno gynnwys y canlynol:

  • Torri rheolau a rheoliadau cyhoeddwyr (er enghraifft, torri embargo, neu roi fersiwn terfynol cyhoeddwr ar gael pan gafwyd caniatâd am fersiwn cyn-brint neu ôl-brint yn unig)
  • Torri hawliau eiddo deallusol (yn cynnwys hawliau moesol neu hawlfraint)
  • Torri deddfwriaeth (er enghraifft, diogelu data neu ddifenwi)
  • Materion Diogelwch Cenedlaethol
  • Ymchwil a anwiriwyd, llên-ladrad neu fethu dilyn canllawiau moesegol

Rhaid i gwynion fod ar ffurf ysgrifenedig gan nodi mai chi yw’r deiliad hawliau neu’n gynrychiolydd awdurdodedig y deiliad hawliau, ac yn nodi rhesymau pam na ddylai’r deunydd fod ar gael yng Nghadwrfa’r Drindod Dewi Sant. Dylid anfon cwynion drwy e-bost i: openaccess@uwtsd.ac.uk.

Bydd deunydd testun llawn y gwnaethpwyd cais i’w ddileu yn cael ei gyfyngu i staff y Gadwrfa yn unig (o fewn 8 diwrnod gwaith ar ôl derbyn y cais), a thra ymchwilir i’r gŵyn, bydd yn dal yn bosibl chwilio yn y meta-data perthnasol. Yn achos eitemau lle mae’r broses fewnol yn rheoli dileu deunydd, bydd y metadata hefyd yn cael eu symud o olwg y cyhoedd.

Yn y lle cyntaf bydd y gŵyn yn cael ei huwchgyfeirio gan staff y Gadwrfa i aelod o Dîm Rheoli’r Llyfrgell.

Mewn achosion lle nad yw’n eglur a oes cyfiawnhad sylfaenol dros gŵyn, bydd y penderfyniad terfynol yn eiddo i’r Brifysgol.


Mae’r polisi hwn wedi’i addasu o fersiwn gwreiddiol gyda chaniatâd Prifysgol Gorllewin Llundain.