Gwasanaethau Digidol » Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu (LLR) » Strategaeth a Polisïau » Siarter Cwsmeriaid
Rydym yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel ar gyfer pawb sy’n defnyddio gwasanaeth y Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu. Ein nod yw gweithio’n gydweithredol ac mewn partneriaeth â’n cwsmeriaid i gynnig mannau dysgu, cyfleusterau ac adnoddau arloesol ac effeithiol, ar y safle ac ar-lein. Mae ein Siarter Cwsmeriaid wedi’i seilio ar ein gwerthoedd a’n hymrwymiadau, mae’n crynhoi’r hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym ni.
Ni chaniateir plant a phobl ifanc dan 16 oed yn ein llyfrgelloedd ond os oes oedolyn gyda nhw. Mae plant yn gyfrifoldeb yr oedolyn sydd gyda nhw tra byddant yn adeiladau’r Llyfrgell, a rhaid i’r oedolyn sicrhau goruchwyliaeth a rheolaeth ddigonol bob amser.