chat loading...

Strategaeth y Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu

Cymuned Gysylltiedig: Llyfrgell wrth Wraidd y Brifysgol

Cenhadaeth

Nod y Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu yw cefnogi a datblygu holl fyfyrwyr, staff ac ymchwilwyr y Brifysgol drwy roi mynediad i adnoddau dysgu a gwasanaethau gwybodaeth rhagorol.

Byddwn yn defnyddio ein galluoedd deallusol cyfunol a galluoedd ehangach yn rym er daioni gan geisio creu newid economaidd, diwylliannol, cymdeithasol ac amgylcheddol sy’n gadarnhaol.

Egwyddorion

Dynes yn gwenu wrth edrych at y camera tra'n tynnu llyfr o silff mewn llyfrgell gyda silffoedd llawn llyfrau o'i chwmpas

Herio Anghydraddoldeb

Cydweithio’n Greadigol

Darganfod yn Rhydd

Gwrando’n Ofalus

Diogelu Preifatrwydd

Ymateb yn Adfyfyriol

Meddwl yn Feirniadol

Mannau Cynaliadwy

  • Creu mannau ffisegol a digidol cynhwysol sy’n ysbrydoli a fydd yn caniatáu i fyfyrwyr wthio ffiniau eu profiadau dysgu.
  • Grymuso ein cymuned i ymwneud â’n mannau mewn ffyrdd sy’n sbarduno creu gwybodaeth ac arloesi.
  • Croesawu cyfleoedd i weithio’n gydweithredol i ddatblygu mannau dysgu, tu fewn a thu allan i adeiladau’r llyfrgell.
  • Gwneud y gorau o’n mannau ffisegol a digidol i sicrhau bod modd darganfod cynnwys, casgliadau a gwasanaethau a’u bod yn hygyrch.
  • Manteisio ar gyfleoedd i gefnogi mannau dysgu cynaliadwy sy’n effro i’r hinsawdd ar draws y Brifysgol.
Pedwar dyn ifanc yn gweithio ar gliniaduron mewn gofod astudio neu swyddfa fodern ag offer ac ystafelloedd gwaith amlbwrpas yn y cefndir
Dynes mewn llyfrgell yn dewis llyfr o silffoedd llawn llyfrau gyda gwisg a sbectol ar ei hwyneb ac yn gwenu at y camera

Cynnwys a Chasgliadau

  • Mynd ati i geisio ffyrdd newydd o gyflwyno cynnwys drwy ddelweddu a thechnolegau cysylltiedig er mwyn darparu profiadau mwy deniadol ar gyfer dysgwyr ac i ymestyn darganfod.
  • Gweithio i sicrhau bod ein casgliadau’n gynrychiadol o’n cymuned amrywiol o staff a myfyrwyr.
  • Mynd ati i geisio trwyddedau cynnwys sy’n cefnogi Mynediad Agored, a phryderon ehangach ynghylch moeseg a chynaliadwyedd.
  • Sicrhau bod ein cynnwys a’n casgliadau’n adlewyrchu’r cwricwlwm a gweithgarwch ymchwil cysylltiedig.
  • Byddwn yn adolygu ein cynnwys yn gyson i sicrhau perthnasedd.
  • Arddangos ymchwil y brifysgol yn fyd-eang drwy ein cadwrfa Mynediad Agored ddigidol.

Profiadau Cyfoethogi

  • Bod yn ganolfan ragoriaeth o ran datblygu sgiliau academaidd a digidol trosglwyddadwy, gan wneud y defnydd gorau o dechnoleg i alluogi arloesi sydd â’r myfyriwr yn greiddiol iddo.
  • Sicrhau Archifau a Chofnodion Sefydliadol amrywiol sy’n adlewyrchu’r Brifysgol gyfan ac yn meithrin cysylltiadau â Chyn-fyfyrwyr.
  • Cydweithio â gweithgarwch academaidd, gan ddod ag arbenigedd ac arloesi sy’n cyfoethogi profiadau a llesiant myfyrwyr.
  • Darparu gwasanaeth sy’n blaenoriaethu gwneud penderfyniadau ar sail data ac yn darparu metrigau effeithiol sy’n cyfrannu at gynllunio sefydliadol, meincnodi ac ymchwil.
  • Grymuso ein hymchwilwyr i wneud eu ffordd drwy’r dirwedd mynediad agored gymhleth mewn modd cynaliadwy a syml.
Llyfr hanesyddol wedi gadael agored ar arwyneb gyda delwedd o ffigurau crefyddol a thestun ysgrifenedig yn ogystal â llawlyfr agored arall yn y cefndir gyda llun planhigion ar y dudalen agored.
Dau menyw mewn sgwrs yn eistedd mewn ardal eistedd modern gyda soffa las a cadair oren mewn amgylchedd swyddfa neu goleg gydag allwthiadau technegol ar y nenfwd a golau LED daearol.

Cydweithio a Phartneriaeth

  • Trwy bartneriaethau â’n rhanddeiliaid, cyflwyno dull yng nghyswllt gwella parhaus sy’n wybodus ac yn ystwyth.
  • Cydweithio â llyfrgelloedd eraill, Consortia a sefydliadau proffesiynol i rannu gwybodaeth ac arbenigedd ac i sicrhau gwerth am arian.
  • Cyfrannu at drafodaethau am dlodi digidol a thlodi gwybodaeth, moeseg ac anghydraddoldebau er mwyn sicrhau gwasanaethau cynhwysol a theg i’n defnyddwyr.
  • Datblygu rhaglen o ymgysylltu dinesig sy’n defnyddio ein casgliadau arbennig ac archifau i gefnogi recriwtio myfyrwyr, i ymgysylltu â staff a chysylltu â chymunedau lleol a’u hysbrydoli.
  • Meithrin cysylltiadau â’n Colegau Partner i gefnogi profiadau academaidd ar draws y sefydliad.

Rhagoriaeth Sefydliadol

  • Byw yn ôl ein hegwyddorion ar bob lefel, gan adlewyrchu arweinyddiaeth sy’n fodel rôl ar gyfer uniondeb a chod ymarfer moeseg ein proffesiwn.
  • Creu amgylchedd sy’n meithrin doniau, a grymuso holl aelodau ein tîm a’n cymuned, ar bob lefel, i gyfrannu’n rhagweithiol at ddylunio a datblygu gwasanaethau.
  • Cydnabod a herio ein rhagfarnau ein hun a gweithio i ddatblygu gwasanaeth sy’n adlewyrchu’n well y gymuned brifysgol y gweithiwn â hi, a’r gymdeithas yr hoffem fyw ynddi.
  • Cyfrannu at y diwylliant dysgu ar draws y Sefydliad drwy sbarduno a galluogi datblygu sgiliau i’n holl staff.
Dau fenyw yn siarad wrth stondin gyda deunydd hysbysebu dysgu a chyfleoedd gyrfa ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin, un yn gwisgo pencnwc a'r llall mewn ffrog flodau glas.

Galluogwyr

  • Cynllun Strategol PCYDDS 2017-2022
  • Strategaeth Ddigidol 2021-2023
  • Strategaeth Cyfoethogi Dysgu ad Addysgu
  • Strategaeth Ymchwil ac Arloesi 2021-2027
  • Strategaeth WHELF 2020-2024
  • Cynllun Gweithredu Gweithredol LlAD