chat loading...

Rhestrau Adnoddau ar-lein

Rydym wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â chydweithwyr yn yr adrannau academaidd, er mwyn darparu’r profiad dysgu gorau posibl ar gyfer myfyrwyr y Drindod Dewi Sant.

Yn ystod blwyddyn academaidd 2018/19, rydym wedi gweithredu platfform rhestrau darllen ar-lein, sef Rhestrau Adnoddau ar-lein. Mae Rhestrau Adnoddau ar-lein yn caniatáu i chi greu, golygu a threfnu eitemau rhestrau darllen yn gyflym ac yn hawdd. Yn ystod blynyddoedd academaidd 19/20 a 20/21 gofynnir i staff academaidd symud eu rhestrau darllen cyfredol draw i ddod yn rhestrau adnoddau ar-lein newydd.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’ch Llyfrgellydd Cyswllt Academaidd. Tan hynny, gwyliwch ein fideo byr ar fanteision Rhestrau Adnoddau ar-lein.

Llunio rhestrau darllen/adnoddau: arfer gorau

Gall rhestr ddarllen/ adnoddau dda alluogi myfyrwyr i reoli eu darllen yn fwy effeithiol, datblygu eu sgiliau ymchwil annibynnol, cyfoethogi eu dysgu a’u dealltwriaeth o bwnc a chodi cyfraddau boddhad myfyrwyr.

Mae polisi rhestrau darllen y Drindod Dewi Sant yn darparu fframwaith i sicrhau bod y Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu a staff academaidd yn gweithio gyda’i gilydd i wella profiadau myfyrwyr o weithio gyda rhestrau darllen. Fodd bynnag dyma gyngor da i’ch rhoi ar ben ffordd:

  • Dylech gynnwys ystod o adnoddau dysgu’n cynnwys llyfrau, cyfnodolion, clipiau fideo, podlediadau, lluniau, arteffactau a gwefannau.
  • Byddwch yn realistig; gwnewch yn fawr o adnoddau sydd ar gael o’r llyfrgell ar hyn o bryd neu y mae’n hawdd cael gafael arnynt h.y. nid ydynt allan o brint neu’n eithriadol o ddrud.
  • Diweddarwch eich rhestrau’n rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn cynnwys deunydd cyfredol, yr argraffiadau mwyaf diweddar, eu bod yn gywir a bod unrhyw URL yn adlewyrchu’r cyfeiriad gwe (URL) cyfredol.
  • Cysylltwch restrau adnoddau â’r ddarpariaeth Sgiliau Gwybodaeth er mwyn helpu myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau llythrennedd digidol a llythrennedd gwybodaeth wrth iddynt symud ymlaen drwy eu cwrs.
  • Sicrhewch eu bod yn amrywiol ac yn cynrychioli’r corff myfyrwyr
  • Gwnewch yn siŵr eu bod ar gael ar fformat electronig, gan ddileu rhwystrau i garfannau mawr a myfyrwyr nad ydynt ar y campws.

Darllen Pellach: Pedagogy of Reading Lists