chat loading...

Cadwrfa Ymchwil

Mae Cadwrfa Ymchwil yn cynnwys papurau ymchwil testun llawn, erthyglau cyfnodolion, penodau llyfrau a thraethodau ymchwil a ysgrifennir gan staff a myfyrwyr y Brifysgol. Mae archif Data Ymchwil yn cynnwys data ymchwil o staff a myfyrwyr.

Mae Polisi Prifysgol yn annog ymchwilwyr i ddarparu eu gwaith ar-lein, am ddim iâ’r darllenydd, cyn gynted a phosibl ar ol cyhoeddi yn amodol ar briodoliad cywir ac unrhyw amodau a osodir gan y cyhoeddwr.

Academyddion ac ymchwilwyr

Os bydd eich erthygl cyfnodolyn neu bapur cynhadledd wedi’i derbyn i’w chyhoeddi, mae angen i chi Weithredu yn sgil Derbyn – adneuwch y llawysgrif a dderbyniwyd yng Nghadwrfa Ymchwil Mynediad Agored Y Drindod Dewi Sant o fewn 3 mis:

Nawr gallwch chi gysylltu eich cyfrif ORCID â’ch cyfrif Cadwrfa Ymchwil PCYDDS. Mae hyn yn caniatáu ichi gynnwys eich iD ORCID yn awtomatig gyda chyflwyniadau Cadwrfa yn y dyfodol, ac i fewnforio eich ymchwil o’ch proffil ORCID i’ch cyfrif Cadwrfa ar gyfer adneuo, neu allforio ymchwil a gyflwynwyd yn flaenorol i’n Hystorfa i’ch proffil ORCID.

Polisi Dileu Deunydd Cadwrfa

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cymryd camau rhesymol i sicrhau bod y deunyddiau yn ei Chadwrfa yn gofnod cywir a dilys o weithgarwch ymchwil yn y sefydliad hwn.

Dwylo person yn defnyddio tabled digidol gyda gwefan Llyfrgell Edinburgh ar y sgrin