Gwasanaethau Digidol » Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu (LLR) » Mynediad Agored ac Ymchwil » Cyhoeddi Mynediad Agored » Canllawiau hyfforddi a Chwestiynau Cyffredin » Erthyglau a phapurau cynhadledd
Os ydych chi’n bwriadu ysgrifennu erthygl ar gyfer cyfnodolyn neu gyflwyno papur cynhadledd i gyfnodolyn, mae’n werth ystyried yn gynnar yn y broses sut byddwch yn trefnu ei fod ar gael â mynediad agored.
Mae dau brif lwybr i fynediad agored:
Bydd fersiwn cyhoeddedig eich erthygl â mynediad agored ar wefan y cyfnodolyn a bydd ar gael dan drwydded Mynediad Agored, megis Creative Commons, sy’n caniatáu i chi gadw mwy o’ch hawliau fel awdur ac i bobl eraill rannu ac adeiladu ar eich gwaith. Fel arfer mae Tâl Prosesu Erthyglau am gyhoeddi mynediad agored aur.
Bydd fersiwn cyhoeddedig eich erthygl ar gael i danysgrifwyr y cyfnodolyn yn unig. Byddwch yn adneuo copi o’ch Llawysgrif Awdur a Dderbyniwyd derfynol a adolygwyd gan gymheiriaid yn ein Cadwrfa Ymchwil a fydd â mynediad agored rhad ac am ddim. Nid oes unrhyw gost am gyhoeddi mynediad agored gwyrdd, ond gallai’r cyhoeddwr osod cyfnod embargo – oedi cyn ei bod yn bosibl trefnu bod copi ar gael i’w ddarllen â mynediad agored ar ein Cadwrfa.
Bydd y llwybr a ddewiswch yn dibynnu ar nifer o ffactorau:
Hyd yn oed os byddwch yn cyhoeddi drwy’r llwybr mynediad agored aur, gofynnwn i’r holl awduron adneuo eu herthygl yn ein Cadwrfa Ymchwil er mwyn i’r Brifysgol gynnal archif gyflawn o’r holl gynnyrch ymchwil.