chat loading...

Polisïau Mynediad Agored REF a'r Cyllidwr

Wrth gyhoeddi eich ymchwil, mae’n bwysig bod yn ymwybodol o bolisi Mynediad Agored y REF a sicrhau eich bod yn cydymffurfio ag unrhyw bolisïau Mynediad Agored cyllidwyr perthnasol.

REF (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil)

Beth yw’r REF?

Mae’r REF yn broses o asesu ymchwil a gynhelir gan bedwar corff cyllido addysg uwch y DU: Research England, y Scottish Funding Council (SFC), Medr, Comisiwn Cymru dros Addysg Drydyddol ac Ymchwil, ac Adran yr Economi, Gogledd Iwerddon (DfE).  Cwblhawyd yr asesiad REF mwyaf diweddar yn 2021 a dylai’r REF nesaf orffen yn 2029.

Bydd y cyflwyniad i’r REF yn cynnwys detholiad o gynnyrch ymchwil o bob rhan o’r Brifysgol ac mae’n ofynnol gan y REF fod yr holl gynnyrch a gyflwynir yn cydymffurfio â’i bolisi Mynediad Agored.  Gwneir penderfyniad ynghylch pa gynnyrch i’w gynnwys adeg cyflwyno i’r REF, ond er mwyn sicrhau cymhwystra, mae’n hanfodol bod unigolion yn cymryd camau’n amserol ar gyfer pob cyhoeddiad a gynhyrchant.  Yn ôl Polisi’r Brifysgol mae’n ofynnol i’r holl eitemau gael eu hychwanegu i’r gadwrfa ar yr adeg pan gânt eu derbyn i’w cyhoeddi.

Polisi Mynediad Agored y REF

  • Am erthyglau cyfnodolion a phapurau cynhadledd ag ISSN, rhaid i chi adneuo eich llawysgrif a dderbyniwyd i drefnu ei rhoi ar gael yn ein Cadwrfa Mynediad Agored o fewn 3 mis:
    •  ar ôl ei dderbyn (ar gyfer erthyglau a gyhoeddwyd cyn 1 Ionawr 2026)
    • ar ôl cyhoeddi (ar gyfer erthyglau a gyhoeddwyd ar neu ar ôl 1 Ionawr 2026)

  • Mae angen caniatáu o leiaf 14 diwrnod cyn diwedd y cyfnod o 3 mis i’r tîm Mynediad Agored brosesu eich adnau er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth.   Argymhellwn eich bod yn cyflwyno’ch llawysgrif i’r Gadwrfa cyn gynted ag y bo modd ar ôl derbyn cadarnhad ei bod wedi’i derbyn.
  • Rhaid bod darllenwyr a pheiriannau chwilio’n gallu cael gwybod am yr erthygl ar unwaith, hyd yn oed os oes embargo arni.
  • Rhaid bod y testun llawn ar gael i unrhyw un ei ddarllen a’i lawrlwytho ar unwaith neu ar ôl diwedd cyfnod embargo.
  • Ni ddylai cyfnodau embargo fod yn hwy na’r canlynol:
    • Ar gyfer erthyglau a gyhoeddwyd tan 31 Rhagfyr 2025:
      • 12 mis ar gyfer Gwyddoniaeth a Meddygaeth (Prif Baneli A a B y REF)
      • 24 mis ar gyfer y Gwyddorau Cymdeithasol a’r Dyniaethau (Prif Baneli C a D y REF)


    • Ar gyfer erthyglau a gyhoeddwyd ar neu ar ôl 1 Ionawr 2026:
      • 6 mis ar gyfer Gwyddoniaeth a Meddygaeth (Prif Baneli A a B y REF)

      • 12 mis ar gyfer y Gwyddorau Cymdeithasol a’r Dyniaethau (Prif Baneli C a D y REF)





  • Os ydy’ch ymchwil yn cael ei gyllido, sylwer bod polisi’r REF yn ychwanegol at unrhyw ofynion Mynediad Agored eich cyllidwr.   Rhaid i chi gydymffurfio â pholisïau Mynediad Agored y Ref a’r cyllidwr.


Er mwyn cydymffurfio â pholisi’r REF, gwnewch yn siŵr eich bod yn Gweithredu yn sgil Derbyn – bydd y tîm Mynediad Agored yn gwirio amodau hawlfraint a thrwyddedu, yn creu cofnod ar gyfer cadwrfa ymchwil y Drindod Dewi Sant ac yn trefnu bod y testun llawn ar gael yn seiliedig ar ofynion eich cyhoeddwr.


Darllenwch y Polisi Mynediad Agored REF 2029 llawn

Benyw ifanc gyda sbectol yn sefyll mewn swyddfa fodern yn defnyddio gliniadur wrth edrych ar sgrin fawr yn dangos côd rhaglen a diagramau

Polisïau Mynediad Agored Cyllidwyr

Yn ychwanegol at bolisi Mynediad Agored y REF, os ydy’ch ymchwil wedi cael ei gyllido, rhaid i chi hefyd gydymffurfio â gofynion eich cyllidwr.   Ceir gwybodaeth ynghylch sut i gydymffurfio â’r prif gyrff cyllido ymchwil isod.

Mae polisi cyfredol UKRI ar gael yma:  Polisi mynediad agored UKRI 

Trosolwg o Bolisi Mynediad Agored newydd UKRI 2022.

O Ebrill 2022, mae’r holl gynghorau ymchwil yn ddarostyngedig i’r un polisi mynediad agored ar draws yr UKRI, a rhaid i awduron a gyllidir gan MRC / BBSRC gyflawni gofynion ychwanegol

Mae polisi cyfredol UKRI ar gael yma:  Polisi mynediad agored UKRI 

Trosolwg o Bolisi Mynediad Agored newydd UKRI 2022.

O Ebrill 2022, mae’r holl gynghorau ymchwil yn ddarostyngedig i’r un polisi mynediad agored ar draws yr UKRI, a rhaid i awduron a gyllidir gan MRC / BBSRC gyflawni gofynion ychwanegol.

  • Mae’r adran hon o’r polisi’n berthnasol i:

    • Erthyglau ymchwil a adolygir gan gymheiriaid yn cynnwys:
      • Erthyglau ymchwil
    • Adroddiadau byr
    • Astudiaethau achos
    • Cyfathrebiadau cyflym
    • Pob math o adolygiadau (rhai a wahoddwyd a rhai nas gwahoddwyd / yn cynnwys adolygiadau llenyddiaeth)
    • Erthyglau a gyflwynwyd i’w cyhoeddi ar ôl 1 Ebrill 2022, ac sy’n cydnabod awduron a gyllidwyd gan UKRI, ac
    • Erthyglau a dderbyniwyd i’w cyhoeddi’n derfynol naill ai mewn cyfnodolyn, trafodion cynhadledd â Rhif Cyfres Safonol Rhyngwladol (ISSN), neu ar blatfform cyhoeddi.

    Gofynion:
    • Cydnabod ffynhonnell y cyllid h.y., y cyllidwr a rhif y grant
    • Defnyddio testun cadw hawliau ar bob cyflwyniad cymwys.  Bydd hyn yn sicrhau y gallwch bob amser barhau i gydymffurfio drwy’r llwybr gwyrdd/hunan-archifo.
    • Rhaid cyhoeddi erthyglau dan drwydded CC BY gyda dau eithriad ar gais yn unig:  Y Drwydded Llywodraeth Agored neu CC BY-ND.
    • Cynnwys datganiad ynghylch hygyrchedd data sy’n dangos lle/sut gall ymchwilydd gael mynediad i’r data y seiliwyd yr ymchwil arnynt (gweler Rheoli Data Ymchwil am gyngor ynghylch cyhoeddi data – yn enwedig yn ymwneud â chyfrinachedd).
    • Ni chaniateir cyfnod embargo ar gyfer Mynediad Agored llwybr gwyrdd lle caiff y llawysgrif a dderbyniwyd ei hadneuo mewn cadwrfa.
    • Nid yw taliadau gorfodol neu daliadau am dudalennau ychwanegol, neu liw yn gymwys am gymorth cyllido ac ni thelir amdanynt.

    I weld manylion llawn y polisi, a chyfarwyddyd ar sut i gydymffurfio, gweler tudalen UKRI Making your research publications open access.


    Llwybrau at gydymffurfiaeth:
    • Dylai’r holl awduron a gyllidwyd gan UKRI wirio a ydy’r cyfnodolyn o’u dewis yn cydymffurfio cyn cyflwyno erthygl.  Mae modd gwneud hyn gan ddefnyddio’r Offeryn Gwirio Cyfnodolion.
    • Cyfnodolyn â mynediad agored cyflawn: cyhoeddi mewn cyfnodolyn neu ar blatfform sydd â mynediad agored cyflawn sy’n rhoi mynediad agored i’r erthygl ar unwaith.
    • Cytundeb Cyhoeddwr: cyhoeddi mewn cyfnodolyn tanysgrifio neu hybrid sydd wedi’i gynnwys mewn cytundeb cyhoeddwr â’r Drindod Dewi Sant.
    • Cyfnodolyn Trawsnewidiol:  Cyhoeddi mewn cyfnodolyn tanysgrifio neu hybrid sydd wedi ymrwymo i newid i gyfnodolyn â mynediad agored cyflawn yn unol â gofynion y sector.  Gweler yma am restr o gyfnodolion a gymeradwyir.
    • Hunan-archifo: Cyhoeddi mewn cyfnodolyn tanysgrifio ac adneuo’r Llawysgrif Awdur a Dderbyniwyd (AAM) yn y Gadwrfa Ymchwil, gan sicrhau ei bod ar gael wrth gael ei chyhoeddi a than drwydded CC-BY. Mae hyn yn dibynnu ar ddefnyddio’r testun cadw hawliau, a chynghorir yr holl ymchwilwyr sy’n cael eu cyllido gan UKRI yn gryf i ddefnyddio hyn ar bob gwaith a gyflwynir.

    Awduron a gyllidir gan MRC / BBSRC:

    Sut i hunan-archifo yn Europe PMC (Europe PMC ynghyd â chanllaw defnyddwyr).

Mae’r adran hon o’r polisi’n berthnasol i:

  • Cyhoeddiadau ffurf hir yn cynnwys
    • Monograffau academaidd
    • Penodau mewn llyfrau
    • Casgliadau golygedig
    • Llyfrau masnach (os mai nhw yw unig gynnyrch yr ymchwil)

  • Rhai a gyhoeddir ar neu ar ôl 1 Ionawr 2024 ac sy’n cydnabod awduron a gyllidwyd gan UKRI.

Gofynion:

  • Cydnabod ffynhonnell y cyllid h.y., y cyllidwr a rhif y grant
  • Rhaid i lawysgrifau gael eu cyhoeddi/adneuo dan drwydded Creative Commons, gyda thrwydded CC BY o ddewis.
  • Caniateir cyfnod embargo hyd at 12 mis ar gyfer Mynediad Agored llwybr gwyrdd lle caiff y llawysgrif a dderbyniwyd ei hadneuo mewn cadwrfa.
  • Os ydy’n berthnasol, dylid cynnwys datganiad ynghylch hygyrchedd data sy’n dangos lle/sut gall ymchwilydd gael mynediad i’r data y seiliwyd yr ymchwil arnynt (gweler Rheoli Data Ymchwil am gyngor ynghylch cyhoeddi data – yn enwedig yn ymwneud â chyfrinachedd).

Eithriadau:

  • Gellir gwneud eithriadau ar gais os nad yw’r unig opsiwn cyhoeddi o fewn maes ymchwil yn cydymffurfio â’r polisi hwn: anfonwch e-bost at UKRI cyn cyflwyno’r gwaith yn openresearch@ukri.org
  • Os ydy monograff, pennod mewn llyfr neu gasgliad golygedig yn ganlyniad i Grant Hyfforddi gan UKRI ac yn cael ei gyhoeddi tu allan i oes y grant.

I weld manylion llawn y polisi, a chyfarwyddyd ar sut i gydymffurfio, gweler tudalen UKRI Making your research publications open access.


Llwybrau at gydymffurfiaeth:

Mae dau lwybr i gydymffurfio â’r polisi:

  • Cyhoeddi monograff â mynediad agored cyflawn sydd â mynediad agored ar unwaith (y llwybr aur).
  • Cyhoeddi mewn cyhoeddiad ffurf hir a gyhoeddir yn draddodiadol a threfnu bod y Llawysgrif Awdur a Dderbyniwyd (AAM) ar gael yn agored wrth gael ei gyhoeddi ag embargo nad yw’n hwy na 12 mis (y llwybr gwyrdd).  Wrth ddefnyddio’r llwybr hwn rhaid iddi fod yn eglur nad y fersiwn cyhoeddedig yw’r Llawysgrif Awdur a Dderbyniwyd.

Cyllid:

  • Mae UKRI wedi cyflwyno cronfa benodol i gefnogi costau mynediad agored ar gyfer cyhoeddiadau ffurf hir sydd o fewn cwmpas y polisi. Gellir defnyddio’r gronfa hon tuag at gostau i drefnu bod y Fersiwn a Gofnodwyd â mynediad agored ar unwaith gyda thrwydded Creative Commons.  Nid yw ar gael ar gyfer mynediad agored wedi’i oedi i’r Fersiwn a Gofnodwyd neu ar gyfer hunan-archifo’r Llawysgrif Awdur a Dderbyniwyd.
  • Mae proses ymgeisio ddau gam ar gyfer y gronfa mynediad agored i fonograffau, penodau llyfrau a chasgliadau golygedig.
    • Cam 1: mae’r sefydliad ymchwil yn cofrestru’r cynnyrch gydag UKRI –
    • Cam 2: mae’r sefydliad ymchwil yn darparu cadarnhad o gyhoeddi ar gyfer UKRI er mwyn galluogi rhyddhau cyllid
    • Rhaid i geisiadau gael eu cwblhau’n ganolog gan y tîm Mynediad Agored.   Cysylltwch ag openaccess@uwtsd.ac.uk i wneud cais.   Bydd angen y canlynol ar y tîm Mynediad Agored:
      • Y swm y gofynnwyd amdano
      • Cyfanswm cost (os ydy’n wahanol)
      • Math o gyhoeddiad (e.e. monograff)
      • Cyhoeddwr
      • Teitl y gwaith
      • Enw(au)’r awdur
      • Rhif(au) adnabod ORCID yr awdur
      • Dyddiadau grant(iau) cyllido UKRI sy’n berthnasol
      • Dyddiad cyhoeddi arfaethedig

  • Cewch fwy o wybodaeth am gyllid mynediad agored UKRI

Nodyn ar ddelweddau a hawlfraint trydydd person:

Nid yw gofynion trwyddedu UKRI yn berthnasol i unrhyw ddeunyddiau a gynhwysir mewn cynnyrch ffurf hir a ddarperir gan ddeiliaid hawlfraint trydydd parti. Mae’n bosibl y bydd llyfrau academaidd a gyhoeddir dan drwydded CC BY, neu drwydded Creative Commons arall, yn cynnwys deunyddiau trydydd parti (megis delweddau, ffotograffau, diagramau neu fapiau) sy’n amodol ar drwydded fwy cyfyngedig.  Mae UKRI yn ystyried bod y dull hwn yn cydymffurfio â’i bolisi.

Mae UKRI yn cydnabod y gallai fod achlysuron pryd nad yw’n bosibl cael caniatâd i ailddefnyddio delweddau mewn llyfr mynediad agored ar gyfer pob delwedd trydydd parti neu ddeunyddiau eraill.  Felly, gellir cymhwyso eithriad i’r polisi pan nad yw’n bosibl cael caniatâd ail-ddefnyddio ar gyfer deunyddiau trydydd parti ac nid oes opsiwn arall addas ar gael er mwyn galluogi cyhoeddi mynediad agored.


Cyfarwyddyd pellach

Daeth polisi Mynediad Agored Wellcome  i rym yn 2021 ac mae’n berthnasol i’r holl ymchwil gwreiddiol a gyllidir yn rhannol neu’n gyfan gwbl gan y Wellcome Trust

Gofynion:

  • Rhaid i’r holl gyhoeddiadau gydnabod eich cyllidwr a rhif grant
  • Rhaid i’r holl gyhoeddiadau gynnwys datganiad am gael gafael ar ddata

  • Rhaid i’r holl gyhoeddiadau gynnwys y datganiad cadw hawliau hwn:  “Cyllidwyd yr ymchwil hwn yn gyfan gwbl, neu’n rhannol, gan y Wellcome Trust [rhif y Grant]. At ddiben Mynediad Agored, mae’r awdur wedi cymhwyso trwydded hawlfraint gyhoeddus CC-BY i unrhyw fersiwn Llawysgrif Awdur a Dderbyniwyd sy’n deillio o’r cyflwyniad hwn.”
  • Rhaid rhoi mynediad agored ar gyfer yr holl gyhoeddiadau a olygir gan gymheiriaid: mae hyn yn cynnwys erthyglau a thrafodion cynhadledd, monograffau a phenodau llyfrau ond mae’n eithrio adolygiadau a wahoddwyd:


Eithriadau:

  • Os byddwch yn cyhoeddi yn Wellcome Open Research, bydd Wellcome yn cyllido’r costau cyhoeddi’n uniongyrchol.

Ble i gyhoeddi:

  1. Cyhoeddi mewn cyfnodolyn â mynediad agored cyflawn sy’n cael ei fynegeio yn y Directory of Open Access Journals (DOAJ)
  2. Cyhoeddi mewn cyfnodolyn sydd wedi’i gynnwys mewn cytundeb cyhoeddwr â’r Drindod Dewi Sant.
  3. Cyhoeddi mewn cyfnodolyn tanysgrifio a threfnu bod y Llawysgrif Awdur a Dderbyniwyd (AAM) ar gael â mynediad agored yn Europe PMC a Chadwrfa Mynediad Agored y Brifysgol wrth iddi gael ei chyhoeddi.

Cyn cyflwyno i gyfnodolyn: 

  1. Defnyddiwch yr Offeryn Gwirio Cyfnodolion i weld a ydy’n cydymffurfio.
  2. RHAID i’r holl erthyglau ymchwil gwreiddiol a gyflwynir i gyfnodolion a adolygir gan gymheiriaid gynnwys y datganiad cadw hawliau canlynol wrth eu cyflwyno:   Cyllidwyd yr ymchwil hwn yn gyfan gwbl, neu’n rhannol, gan y Wellcome Trust [rhif y Grant]. At ddiben Mynediad Agored, mae’r awdur wedi cymhwyso trwydded hawlfraint gyhoeddus CC-BY i unrhyw fersiwn Llawysgrif Awdur a Dderbyniwyd sy’n deillio o’r cyflwyniad hwn.

Ar ôl i erthygl gael ei derbyn: 

  • Yn berthnasol i’r canlynol:
    • Monograffau academaidd
    • Penodau mewn llyfrau
    • Casgliadau golygedig

    Eithriadau:
    • Gwerslyfrau
    • Llyfrau ‘masnach’
    • Cyfeirlyfrau cyffredinol
    • Gweithiau ffuglen
    • Casgliadau a olygwyd gan ddeiliaid grant yr Ymddiriedolaeth ond heb eu hysgrifennu ganddynt

    Manylion:

  • Yn berthnasol i’r canlynol:
    • Monograffau academaidd
    • Penodau mewn llyfrau
    • Casgliadau golygedig

    Eithriadau:
    • Gwerslyfrau
    • Llyfrau ‘masnach’
    • Cyfeirlyfrau cyffredinol
    • Gweithiau ffuglen
    • Casgliadau a olygwyd gan ddeiliaid grant yr Ymddiriedolaeth ond heb eu hysgrifennu ganddynt

    Manylion:

Er mis Gorffennaf 2023, nid oes polisi Mynediad Agored gan yr Academi Brydeinig, ac ni ellir defnyddio grantiau i dalu costau cyhoeddi.  Argymhellwn eich bod yn cadw’n gyfredol drwy: https://www.thebritishacademy.ac.uk/projects/open-access/

Beth y mae angen i chi ei wneud:

  • Rhaid i chi adneuo copi o’ch llawysgrif a dderbyniwyd yng Nghadwrfa’r Drindod Dewi Sant, yn amodol ar ganiatâd cyhoeddwyr.   Gellir gosod unrhyw gyfnod embargo wrth adneuo.
  • Mae gwefan SHERPA yn darparu manylion embargos cyhoeddwyr a’u gofynion adneuo.

Er mis Gorffennaf 2023, nid oes gan y Leverhulme Trust unrhyw amodau ynghylch archifo gorfodol na chyhoeddi mynediad agored i ddeiliaid grantiau Leverhulme.  Bydd yr Ymddiriedolaeth yn cyllido rhai costau cyhoeddi mynediad agored a cheir manylion pellach.

Beth y mae angen i chi ei wneud:

  • Rhaid i chi adneuo copi o’ch llawysgrif a dderbyniwyd yng Nghadwrfa’r Drindod Dewi Sant, yn amodol ar ganiatâd cyhoeddwyr.  Gellir gosod unrhyw gyfnod embargo wrth adneuo.
  • Mae gwefan SHERPA yn darparu manylion embargos cyhoeddwyr a’u gofynion adneuo.

Mae gan NIHR bolisi Mynediad Agored sydd bellach mewn grym er 1 Mehefin 2022.

Mae’r polisi hwn yn berthnasol i:

  • Erthyglau ymchwil a adolygir gan gymheiriaid yn cynnwys:
    • Erthyglau ymchwil
    • Adolygiadau nas gwahoddwyd
    • Papurau cynhadledd a dderbyniwyd i’w cyhoeddi’n derfynol mewn cyfnodolyn, trafodion cynhadledd â rhif ISSN, neu ar blatfform cyhoeddi.

  • Erthyglau a gyflwynwyd i’w cyhoeddi ar ôl 1 Mehefin 2022
  • Gan awduron a gyllidir gan NIHR ac sydd o fewn cwmpas ei bolisi mynediad agored  (gweler yma am restr o gyllid a ddaw o fewn cwmpas NIHR )
  • Sylwer: dylid adneuo cynnyrch perthnasol sy’n cydnabod cyllid NIHR nad yw o fewn y cwmpas o fewn 12 mis yn Europe PubMed Central (EPMC).

Gofynion:

  • Cydnabod ffynhonnell y cyllid
  • Rhaid cyhoeddi erthyglau dan drwydded CC BY  neu drwydded Llywodraeth Agored (gydag un eithriad ar gais: CC BY-ND).
  • Cynnwys datganiad rhannu data sy’n dangos lle/sut gall ymchwilydd gael mynediad i’r data y seiliwyd yr ymchwil arnynt (gweler Rheoli Data Ymchwil am gyngor ynghylch cyhoeddi data – yn enwedig yn ymwneud â chyfrinachedd).
  • Rhaid i erthyglau gael eu hadneuo yn Europe PubMed Central a threfnu eu bod ar gael wrth eu cyhoeddi
    • Os talwyd ffi am fynediad agored o amlen cyllido NIHR, mae’n ofynnol i gyfnodolion adneuo ar ran yr awdur.
    • Fel arall dylai awduron hunan-adneuo yn EPMC.

  • Ni chaniateir cyfnod embargo ar gyfer ‘Mynediad Agored llwybr gwyrdd’ lle caiff y llawysgrif a dderbyniwyd ei hadneuo mewn cadwrfa fel y llwybr i gydymffurfiaeth.
  • Cofiwch ddefnyddio’r testun cadw hawliau ar bob cyflwyniad cymwys, yn enwedig os mai hwn yw’r unig lwybr sydd ar gael i gydymffurfio.

Beth y mae angen i chi ei wneud:

  • Cyn cyflwyno i gyfnodolyn

  1. Gwiriwch ar Sherpa Fact i sicrhau bod y cyhoeddiad o’ch dewis yn cydymffurfio ac i weld y llwybrau sydd ar gael i chi.
  2. Defnyddiwch y testun cadw hawliau ar bob cyflwyniad cymwys i gyhoeddwr. Bydd hyn yn sicrhau y gallwch bob amser barhau i gydymffurfio drwy’r llwybr gwyrdd/hunan-archifo.

  • Ar ôl i erthygl gael ei derbyn

  1. Os oes angen Taliad Prosesu Erthyglau, talwch drwy amlen gyllido NIHR 
    • Sylwer: Ni ellir defnyddio’r amlen gyllido Mynediad Agored ar gyfer unrhyw gostau cyhoeddi eraill megis taliadau am liw neu dudalennau.
  2. Adneuwch eich erthygl yn Europe PubMed Central
  3. Hefyd Gweithredwch yn sgil Derbyn gan adneuo copi yn y Gadwrfa Ymchwil

Mae’r wybodaeth ar y dudalen hon wedi’i haddasu o Brifysgol Rhydychen dan drwydded Creative Commons Priodoliad 3.0 Heb ei Addasu  (CC BY 3.0).  Cynnwys gwreiddiol yn: https://openaccess.ox.ac.uk/ukri/