chat loading...

Beth yw ORCID?

Mae ORCID yn golygu Rhif Adnabod Agored Ymchwilwyr a Chyfranwyr.   Mae’ch rhif ORCID yn ddynodydd unigryw, parhaol sy’n rhad ac am ddim i ymchwilwyr ac mae’n gallu helpu i sicrhau bod eich grantiau, cyhoeddiadau a chynnyrch i gyd yn cael eu priodoli’n gywir i chi.   Mae ORCID yn sefydliad byd-eang, nid-er-elw a gynhelir gan ffioedd sefydliadau sy’n aelodau.   Mae cyhoeddwyr a chyllidwyr ymchwil yn defnyddio ORCID yn fwyfwy i ddynodi ymchwilwyr sy’n cyflwyno ceisiadau a chyhoeddiadau.

Pam dylwn i gael rhif ORCID?

Mae ORCID yn para am oes: os byddwch yn newid sefydliad i unrhyw le yn y byd, byddwch yn mynd ag ef gyda chi.  Yn wahanol i ddynodwyr cyflogwyr neu gyhoeddwyr, chi sy’n rheoli eich cofnod ORCID ac mae’n aros gyda chi gydol eich gyrfa.  Mae sefydliadau megis HESA, y Wellcome Trust a chyhoeddwyr yn defnyddio ORCID i sicrhau bod pob agwedd ar y broses ymchwil a chyhoeddi’n cysylltu â’i gilydd yn ddi-dor.   Bydd cofrestru am rif ORCID yn caniatáu i sefydliadau dibynadwy ychwanegu eich gwybodaeth ymchwil at eich cofnod, gan gadw eich holl ymchwil gyda’i gilydd mewn un lle, hyd yn oed os cafodd ei gyflawni gyda nifer o sefydliadau neu gyflogwyr.

Mae’r Drindod Dewi Sant bellach yn cofnodi rhifau ORCID ar Gadwrfa Ymchwil y Brifysgol ac mae’n bwriadu integreiddio ag ORCID yn y dyfodol.   Argymhellwn yn gryf fod yr holl ymchwilwyr yn gwneud cais am rif ORCID ac yn ei ddefnyddio wrth adneuo cyhoeddiadau newydd yn y Gadwrfa er mwyn manteisio ar y gallu hwn.

I ymuno, bydd angen i chi gwblhau ffurflen Pasbort Llyfrgelloedd ynghyd. Unwaith wedi’i chwblhau, gellir cyflwyno’r ffurflen yn y Desg Gymorth ym mhob un o’n llyfrgelloedd a bydd cyfrif benthyg llyfrgell yn cael ei greu i chi.

Sut i ddefnyddio’ch rhif ORCID

Mae gwybodaeth ddefnyddiol i’ch helpu i wneud yn fawr o’ch rhif ORCID ar gael gan ORCID yn ORCID i Ymchwilwyr

Ymchwilwyr: cysylltwch eich ORCID â'ch cyfrif Cadwrfa

Nawr gallwch chi gysylltu eich cyfrif ORCID â’ch cyfrif Cadwrfa Ymchwil PCYDDS. Mae hyn yn caniatáu ichi gynnwys eich iD ORCID yn awtomatig gyda chyflwyniadau Cadwrfa yn y dyfodol, ac i fewnforio eich ymchwil o’ch proffil ORCID i’ch cyfrif Cadwrfa ar gyfer adneuo, neu allforio ymchwil a gyflwynwyd yn flaenorol i’n Hystorfa i’ch proffil ORCID.

Dwy law yn troi tudalennau hen lyfr wedi'i gosod ar arwyneb gwyn gyda chadwynau cael eu defnyddio i gadw'r llyfr yn agored