Mae’r polisi hwn yn diffinio’r cyfrifoldebau ar lefel unigol a sefydliadol a ddylai arwain gwaith y rheini sy’n ymwneud â chasglu, curadu, storio a chynnal a chadw data ymchwil. Mae’n nodi ar ba sail y bydd staff a myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig y Brifysgol yn prosesu unrhyw ddata personol a gesglir oddi wrth destunau data wrth gynnal ymchwil, neu a ddarperir ar gyfer y rheini sy’n cynnal ymchwil gan destunau data neu ffynonellau eraill at yr un diben. Bydd y polisi hwn yn sicrhau y rheolir data ymchwil a gynhyrchir gan ei staff a’i myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig yn ôl y safonau uchaf gydol cylch oes y data ymchwil yn unol â deddfwriaeth berthnasol.