Gwasanaethau Digidol » Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu (LLR) » Cefnogaeth ar Gyfer Staff
Mae’r adran hon yn cynnwys gwybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael gan y llyfrgell ar gyfer staff y Brifysgol. Dewiswch gategori i gael mwy o wybodaeth.
Rydym ni’n cynnig cwricwlwm llawn o sesiynau Llythrennedd Digidol a Llythrennedd Gwybodaeth, yn rhan o’n rhaglen Sgiliau Gwybodaeth.
Rydym wedi ymrwymo i helpu ein staff i ddatblygu’r sgiliau digidol a’r hyder y mae eu hangen arnynt. Dyma pam rydym wedi lansio CanolfanDigidol, siop un stop ar gyfer eich holl anghenion sgiliau digidol.
Mae teithiau o amgylch ein llyfrgelloedd yng Nghaerfyrddin, Llambed ac Abertawe ar gael drwy gydol y flwyddyn i fyfyrwyr unigol a grwpiau o hyd at 15. Mae rhagor o wybodaeth am deithiau a sut i archebu ar gael isod.
Rydym wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â chydweithwyr yn yr adrannau academaidd, er mwyn darparu’r profiad dysgu gorau posibl ar gyfer myfyrwyr y Drindod Dewi Sant.
Mae gan bob myfyriwr ac aelod o staff Lyfrgellydd a Chynghorydd Sgiliau Digidol sydd wedi’u neilltuo i’w pwnc astudio neu maes gwaith. Os oes angen ychydig o gymorth, cyngor neu anogaeth gyfeillgar arnoch, gallwch drefnu apwyntiad gydag aelod o’n tîm ar amser sy’n gyfleus i chi.
Y mae croeso i staff academaidd archebu llyfrau ac e-lyfrau ar gyfer stoc yn y llyfrgell, darganfod beth sydd angen i chi ei wneud.
Dan Drwydded Addysg Uwch yr Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint (CLA) efallai bydd yn bosibl sganio darnau o lyfrau, cyfnodolion, cylchgronau, trafodion cynadleddau ac adroddiadau cyfraith a gyhoeddir yn y Deyrnas Unedig a rhai gwledydd tramor. Darganfod mwy ...
Gwybodaeth am wasanaethau i staff mewn partneriaethau.
Croeso i’r Hwb Hawlfraint. Ni yw’r man gwybodaeth canolog ar gyfer myfyrwyr a staff PCYDDS ar hawlfraint a sut mae’n berthnasol i wahanol gyfryngau mewn amrywiol gyd-destunau.
Mae’r Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu yn cynnig amrywiaeth o gymorth arbenigol ar gyfer academyddion a myfyrwyr ymchwil. Dewch o hyd yma i bopeth sydd ei angen i chi ei wybod am gyhoeddi mynediad agored a rheoli data ymchwil, neu dysgwch sut i gyflwyno eich thesis electronig.
Rydyn ni i gyd yn creu gwybodaeth drwy ein gweithgareddau gwaith. Dylai’r wybodaeth hon (neu ‘gofnodion’) gael ei rheoli’n effeithlon, o’i chreadigaeth a’r defnydd ohoni hyd at ei gwaredu, mewn arfer o’r enw rheoli cofnodion.